1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 13 Chwefror 2019.
2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod busnesau cynhenid sydd am ehangu a thyfu yn gallu gwneud hynny o fewn eu hardal leol? OAQ53412
Diolch. Yn unol â'n cynllun gweithredu economaidd, rydym yn cefnogi busnesau cynhenid ledled Cymru i ehangu ac i dyfu drwy ddarparu cyngor, cefnogaeth a chyllid drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb. Rydym yn dda iawn, mewn rhai mannau, am gynorthwyo pobl i ddechrau busnesau. Yn fy etholaeth i, ac yn enwedig ym Mhort Talbot, mae gennym ddigon o unedau cychwynnol ar gael i fusnesau eu defnyddio ac i dreulio eu blwyddyn neu ddwy gyntaf ynddynt wrth iddynt ddechrau datblygu a thyfu. Ond yr hyn a welwn, wrth iddynt fod eisiau tyfu ac ehangu, yw ein bod yn brin o unedau o'r maint nesaf—yr unedau 5,000 troedfedd sgwâr—ac felly mae'r busnesau'n tueddu i ehangu a gadael yr ardal o ganlyniad i hynny. Nawr, efallai mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn—rwy'n derbyn y cysyniad—ond beth rydych yn ei wneud i weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwneud yn siŵr y gall busnesau ddechrau, tyfu, ac aros, ac ehangu'r gweithlu, a chadw'r gyflogaeth yn yr ardaloedd hynny?
Diolch. Mae twf cwmnïau cynhenid gwreiddiedig yn rhan ganolog o'n hymagwedd at dyfu'r economi sylfaenol. Mae'n broblem hysbys yn economi Cymru fod gennym nifer fawr o fusnesau micro a busnesau bach ond bod llawer ohonynt yn ei chael hi'n anodd tyfu i faint canolig, a thu hwnt i hynny. Felly, byddwn yn ystyried ystod o ymyriadau i fynd i'r afael â hynny. Un ohonynt yw argaeledd eiddo. Fel y gŵyr yr Aelod eisoes, ym Mhort Talbot, gan ddefnyddio'r gronfa seilwaith eiddo a ariennir gan gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, mae dau brosiect yn cael eu datblygu i greu oddeutu 6,000 metr sgwâr o adeiladau busnes newydd, gan ddarparu lle i hyd at 34 o fusnesau bach a chanolig. Ac rydym hefyd yn trafod gyda Banc Datblygu Cymru i archwilio’r potensial ar gyfer cronfa ddatblygu eiddo masnachol newydd a fydd hefyd yn helpu i ddarparu safleoedd ychwanegol.
Mae twristiaeth yn un o'r rhannau hynny o'n heconomi lle mae digon o le i ehangu o hyd, yn enwedig i fusnesau bach. Mewn gwirionedd, rwy'n meddwl am Gwm Afan, gan mai David Rees a ofynnodd y cwestiwn yn wreiddiol. Mae cryn botensial yma i'n busnesau cynhenid dyfu. Yn anffodus, wrth gwrs, nid yw rhai o'n busnesau bach yn ystyried eu hunain yn rhan o'n heconomi ymwelwyr, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru roi rhywfaint o arweiniad inni ar hyn. Yn benodol, tybed a allwch roi rhywfaint o wybodaeth inni ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phroses cytundeb sector twristiaeth y DU. Credaf fod yr ymgynghoriad ar hynny ar fin dod i ben. Rydym yn fwy na pharod i gwyno nad yw VisitBritain, er enghraifft, yn rhoi cymorth inni ar y mater datganoledig hwn, ond os gallwn sicrhau rhywfaint o fantais yn sgil hyn, mae'n rhaid bod hynny’n newyddion da i'n busnesau bach.
Diolch. Ydy, mae twristiaeth yn parhau i fod yn ffocws yng nghynllun gweithredu economaidd y sectorau sylfaen, ac rydym wedi bod yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i weld pa fanteision y gallwn eu cael o'u gwaith, a dwyn ein gwaith ynghyd. Mae gennym y gronfa seilwaith twristiaeth hefyd, sy'n llwyddiannus iawn, a gallaf roi sicrwydd i'r Aelod ynghylch ein hymrwymiad parhaus yn y maes hwn.
Mi ges i'r pleser yn yr wythnos diwethaf o ymweld â chwmni peirianneg BICO ym Miwmares yn Ynys Môn, sy'n gwneud gwaith rhagorol ym maes peirianneg mewn diwydiannau technegol ac arbenigol dros ben. Mae o'n gwmni, dwi'n siŵr, y gallem ni ei weld yn tyfu mewn blynyddoedd i ddod. Mi fyddwch chi'n ymwybodol fy mod i a'm plaid o blaid rhanbartholi datblygu economaidd er mwyn sicrhau bod llewyrch economaidd yn rhywbeth sy'n digwydd ar draws Cymru. A fyddai'r Llywodraeth yn cytuno efo fi y byddai sgôp i ddatblygu cynlluniau tyfu'n lleol—grow locally, os liciwch chi—fel rhan ganolog o'r math o gynlluniau rhanbarthol yna?
Yn sicr. Credaf fod ffocws economaidd rhanbarthol yn hanfodol, ac mae'r cynllun gweithredu economaidd yn sicrhau bod hyn yn rhan hanfodol o'n dull o weithredu o hyn ymlaen. Rydym yn alinio'r timau yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, i sicrhau bod yr arbenigedd a'r capasiti yno i fwrw ymlaen â hyn. Ac mae hefyd yn bwysig ymgysylltu ag awdurdodau lleol mewn ysbryd o gyd-barch, gan gydweithio er mwyn ystyried eu barn ynglŷn â sut y dylai eu rhanbarthau dyfu, ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â hwy, yn hytrach phennu ar eu cyfer yr hyn y credwn sydd er budd eu rhanbarth. Mae dull yr economi sylfaenol hefyd yn bwysig iawn yn hyn o beth—twf busnesau bach a chanolig a chwmnïau gwreiddiedig—a sut y gallwn ddefnyddio'r sector lled-gyhoeddus, y llu o gwmnïau bach gwasgaredig sy'n dibynnu ar y sector cyhoeddus am lawer o'u gwaith, a sut y gallwn ddefnyddio caffael er mwyn sicrhau mwy o werth yn lleol, ac nad yw'n diferu allan. A byddwn yn gwneud datganiadau dros yr wythnosau nesaf ynglŷn â dechrau'r gwaith yn y maes hwn, a buaswn yn awyddus iawn i weithio gyda'r Aelod i ddatblygu'r syniadau hynny, gan adeiladu ar y cyhoeddiad a wnaethom ar y cyd yng nghyllideb ein cronfa £1.5 miliwn i ddatblygu'r economi sylfaenol gyda Phlaid Cymru.