Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb. Rydym yn dda iawn, mewn rhai mannau, am gynorthwyo pobl i ddechrau busnesau. Yn fy etholaeth i, ac yn enwedig ym Mhort Talbot, mae gennym ddigon o unedau cychwynnol ar gael i fusnesau eu defnyddio ac i dreulio eu blwyddyn neu ddwy gyntaf ynddynt wrth iddynt ddechrau datblygu a thyfu. Ond yr hyn a welwn, wrth iddynt fod eisiau tyfu ac ehangu, yw ein bod yn brin o unedau o'r maint nesaf—yr unedau 5,000 troedfedd sgwâr—ac felly mae'r busnesau'n tueddu i ehangu a gadael yr ardal o ganlyniad i hynny. Nawr, efallai mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hyn—rwy'n derbyn y cysyniad—ond beth rydych yn ei wneud i weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwneud yn siŵr y gall busnesau ddechrau, tyfu, ac aros, ac ehangu'r gweithlu, a chadw'r gyflogaeth yn yr ardaloedd hynny?