Banc Datblygu Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:01, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, ers y lansiad ym mis Hydref 2017, bydd yr Aelod yn gwybod am y gwahanol gronfeydd newydd sydd wedi'u cyhoeddi. Cafwyd cronfa buddsoddi hyblyg Cymru, sy'n hwb enfawr—hwb gwerth £130 miliwn. Wedyn, ym mis Mai, lansiais Angylion Buddsoddi Cymru, sef rhwydwaith angylion busnes newydd Banc Datblygu Cymru. A law yn llaw â hyn, lansiais gronfa cyd-fuddsoddi angylion Cymru, cronfa newydd gwerth £8 miliwn. Credaf y gellir ateb y pwynt a godwyd gan yr Aelod ynglŷn â'r gyfran o arian a godir drwy gyfalaf trafodion ariannol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn darparu copi o'r datganiad i bob Aelod yn y Siambr.FootnoteLink