1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 13 Chwefror 2019.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am enillion ariannol a ddaw gan Fanc Datblygu Cymru? OAQ53405
Gwnaf. Mae Banc Datblygu Cymru yn rheoli nifer o gronfeydd ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae'n eu buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru i'w galluogi i dyfu ac i ffynnu. Mae'r enillion sy'n deillio o'r buddsoddiadau hyn naill ai'n cael eu hailgylchu o fewn y gronfa ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol neu'n cael eu had-dalu i Lywodraeth Cymru.
Ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, roeddem yn hynod o falch o wneud ein gwaith craffu blynyddol ar Fanc Datblygu Cymru. Y llynedd, cynhaliais ginio yn y Cynulliad ar gyfer Giles Thorley a nifer o'i uwch dîm. Rwy'n edmygu eu gallu, ac rwy'n optimistaidd ynghylch yr hyn y bydd y banc yn ei gyflawni, gan adeiladu ar Cyllid Cymru. Nododd y Gweinidog y ddau beth posibl a allai ddigwydd pe bai'r banc, fel y gobeithiwn, yn gwneud mwy o arian o fuddsoddiadau ecwiti a llog nag y byddai'n ei golli ar y benthyciadau lle ceir rhywfaint o risg, ac ni fydd pob un yn llwyddo. Fodd bynnag, beth yw polisi'r Llywodraeth ynglŷn â pha gyfran o'r arian hwnnw fydd yn aros gyda'r banc a faint fydd yn dod yn ôl i'r Llywodraeth i ariannu blaenoriaethau eraill, ac a fydd hynny'n dibynnu ar ba mor llwyddiannus yw'r banc?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud hefyd pa mor ddiolchgar wyf fi am ei gefnogaeth i'r banc datblygu? Fel Aelod o'r wrthblaid, byddai'n hawdd iawn—ac rwy'n siŵr ei bod yn demtasiwn fawr ar brydiau—yn syml am ei fod yn Aelod o'r wrthblaid, iddo fod yn feirniadol o unrhyw beth a wna Llywodraeth Cymru. Rwy'n cydnabod ei gefnogaeth i waith da'r banc datblygu, ac edrychaf ymlaen at weld Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal ymchwiliad trylwyr i waith y banc datblygu a'r manteision a gafwyd hyd yma.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch y modd y defnyddiwn arian, pa gyfran sy'n cael ei hailgylchu a pha gyfran a ddaw yn ôl i Lywodraeth Cymru. A phan fydd cronfa unigol yn cyrraedd diwedd ei hoes, yn gyffredinol, ymdrinnir ag unrhyw gyfalaf a wireddwyd neu a gronnwyd mewn un o ddwy ffordd. Yn gyntaf oll, mae gennym gyfalaf trafodion ariannol. Mae'n rhaid ad-dalu hwnnw i'r cyllid canolog, ac yn y pen draw, yn ôl i Drysorlys ei Mawrhydi, a chytunir ar amserlenni ad-dalu gyda Banc Datblygu Cymru i'r perwyl hwn. Fodd bynnag, ar y llaw arall, mae gennym gyfalaf craidd y gellir ei ailgylchu o fewn y gronfa ar sail fythwyrdd, a'n dymuniad yw gweld cymaint â phosibl o hwnnw'n cael ei ailgylchu. Ond dylid nodi—ac efallai y bydd hyn yn swnio'n amlwg, ond dylid ei ailddatgan—fod yna reolau ar gyfer defnyddio enillion o gyllid yr UE, sy'n nodi bod yn rhaid eu defnyddio at ddibenion tebyg i'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Felly, unwaith eto, gellir parhau i'w ddefnyddio ar gyfer buddsoddiad parhaus mewn busnesau bach a chanolig.
A all y Gweinidog nodi faint o'r buddsoddiad ym manc datblygu Cymru a ddaw o gyfalaf trafodion, Ewrop, benthyca ar y farchnad agored a ffynonellau eraill, gan gynnwys ailgylchu arian?
Wel, ers y lansiad ym mis Hydref 2017, bydd yr Aelod yn gwybod am y gwahanol gronfeydd newydd sydd wedi'u cyhoeddi. Cafwyd cronfa buddsoddi hyblyg Cymru, sy'n hwb enfawr—hwb gwerth £130 miliwn. Wedyn, ym mis Mai, lansiais Angylion Buddsoddi Cymru, sef rhwydwaith angylion busnes newydd Banc Datblygu Cymru. A law yn llaw â hyn, lansiais gronfa cyd-fuddsoddi angylion Cymru, cronfa newydd gwerth £8 miliwn. Credaf y gellir ateb y pwynt a godwyd gan yr Aelod ynglŷn â'r gyfran o arian a godir drwy gyfalaf trafodion ariannol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn darparu copi o'r datganiad i bob Aelod yn y Siambr.FootnoteLink