Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 13 Chwefror 2019.
Pan roddodd James Price dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, nododd y byddai cerbydau ychwanegol ar gael erbyn mis Mai eleni; os nad erbyn mis Mai, yna o bosibl erbyn mis Mawrth. Mae adegau prysur, yn enwedig wrth ddod adref ar adegau prysur, ar reilffordd Caerdydd i Rymni yn ofnadwy. Mae'n anodd iawn cael lle i eistedd. Byddai'r gwelliant hwn ym mis Mawrth/Mai yn galonogol iawn. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha gynnydd a wneir, pa seddi ychwanegol a fyddai'n debygol o gael eu darparu, faint o seddi ychwanegol sy'n debygol o gael eu darparu, a pha gynnydd pellach a fyddai'n cael ei wneud erbyn diwedd eleni?