Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 13 Chwefror 2019.
Credaf fod y Gweinidog a Trafnidiaeth Cymru wedi awgrymu y gallem, maes o law, weld trenau tri-moddol ar y rheilffordd hon, gyda gweithrediad trydan uwchben, diesel a batri. Pa mor gadarn yw'r polisi hwnnw, gan fy mod yn ymwybodol fod rhai pryderon wedi'u mynegi ynghylch pwysau ychwanegol y batri, ac er gwaethaf y fantais yn hynny o beth wrth ddod drwy dwnnel Caerffili, a fyddai'r pwysau ychwanegol hwnnw ar waith mewn mannau eraill yn golygu bod y trenau'n llai effeithlon ar y cyfan? Nid yw pawb yn cytuno mai dyma'r ateb technegol cywir o reidrwydd, o ystyried nad ydym wedi gweld hyn yn unrhyw le arall yn y byd.