Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon anffodus i orfod defnyddio'r ffordd fynediad ddeheuol a elwir yn Rover Way. Er fy mod yn deall nad yw'r ffordd hon, am ryw reswm dirgel, yn gefnffordd, ac nad yw felly'n rhan o'ch cylch gwaith uniongyrchol, mae'r ffordd mewn cyflwr mor warthus fel bod gwir angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Does bosib, Weinidog, nad oes rhyw fath o gymorth ariannol y gallai Llywodraeth Cymru ei ddarparu fel y gall cyngor dinas Caerdydd ailwampio'r briffordd hollbwysig hon i mewn i'n prifddinas.