Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 13 Chwefror 2019.
Yn sicr. Mae'r cynlluniau'n rhan o'r weledigaeth ar gyfer metro de Cymru, a bydd swm enfawr o fuddsoddiad cyfalaf yn talu amdanynt, dros £700 miliwn. Bydd elfennau allweddol o'r seilwaith yng Nghaerdydd yn cynnwys parcffyrdd newydd a datblygu gorsaf fysiau newydd i Gaerdydd, a gyda chymorth Llywodraeth y DU, os byddwn yn ei gael, rydym yn gobeithio ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog.