Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 13 Chwefror 2019.
Unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Fodd bynnag, gallai hyn yn wir fod yn brosiect posibl ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol, neu unwaith eto, a oes ymyrraeth bosibl y gellid ei chael gan brifddinas-ranbarth Caerdydd? Does bosib, Weinidog, nad yw dod o hyd i fecanwaith ariannu addas i fynd i'r afael â'r sefyllfa enbyd hon y tu hwnt i'ch arbenigedd sylweddol. Mae'r ffordd hon mewn cyflwr gwarthus. Nid yw'r arian a roddir ar gyfer tyllau yn y ffyrdd yn mynd i ddatrys y broblem, ac mae'n ffordd fynediad brysur iawn a phwysig iawn i mewn i Gaerdydd.