Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 13 Chwefror 2019.
Wel, byddai'n rhaid imi ymgynghori â'r Gweinidog cyllid i weld a ellid defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol at ddiben o'r fath, ond wrth gwrs, hyd yn oed pe gellid gwneud hynny, byddai'n benderfyniad ar gyfer yr awdurdod lleol a/neu brifddinas-ranbarth Caerdydd, fel yr awgryma'r Aelod. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud popeth a allwn gyda'n hadnoddau gwerthfawr i wella seilwaith trafnidiaeth nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru, ac mae'n rhaid seilio penderfyniadau ar yr angen i fuddsoddi'n deg ledled Cymru gyfan. Byddem yn annog ein partneriaid lleol mewn llywodraeth leol i sicrhau bod yr holl ffyrdd yn cael eu cynnal hyd at safon ofynnol, ac i ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol rydym wedi eu darparu drwy'r gronfa ar gyfer tyllau yn y ffyrdd lle bynnag y bo modd.