Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Chwefror 2019.
Gwnaf, mae'r contract economaidd wedi cael croeso cynnes iawn ers ei lansio ym mis Mai. Rydym wedi cytuno ar dros 120 o gontractau â busnesau ledled Cymru, ac yn ddiweddarach eleni, rydym yn bwriadu rhoi egwyddorion y contract economaidd ar waith mewn ystod ehangach o leoliadau, gan gynnwys, rwy'n falch o ddweud, y cyrff a noddir gennym, yn ogystal â chontractau seilwaith.