Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 13 Chwefror 2019.
Weinidog, ym mis Gorffennaf y llynedd, mynegodd Sefydliad Bevan bryderon ynghylch gallu tasglu'r Cymoedd i gyflawni ar gyfer cymunedau megis Caerffili. Dywedasant fod cynigion y tasglu yn rhy fach i wneud gwahaniaeth, gan gyfeirio at ddiffyg ffocws, methiant i fynd i'r afael â'r problemau mawr a gweledigaeth a oedd yn rhy fach. Adleisiwyd y farn hon gan yr Athro Kevin Morgan, a ddywedodd,
Ni fydd y model datblygu yn llwyddiannus hyd yn oed os bydd y targedau'n fwy uchelgeisiol gan nad oes unrhyw ffordd y gall y Llywodraeth ei gyflawni.
Dyna ei eiriau ef. Yng ngoleuni'r feirniadaeth hon, a yw'r Gweinidog wedi gosod targedau clir i sicrhau bod tasglu'r Cymoedd yn darparu manteision gweladwy i gymunedau megis Caerffili, os gwelwch yn dda?