1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 13 Chwefror 2019.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd yng Nghaerffili? OAQ53415
Diolch. Mae tasglu'r Cymoedd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yng Nghaerffili, gan gyflawni nifer o'r ymrwymiadau yng nghynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, ein Dyfodol', gan gynnwys datblygu canolfan drafnidiaeth integredig ac uwchgynllun strategol, a datblygu safle porth darganfod fel rhan o barc rhanbarthol y Cymoedd.
Ar 27 Tachwedd y llynedd, gwnaed datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar yr union gynllun cyflawni hwnnw yn y Siambr hon. Ers hynny, mae wedi cael dyrchafiad i'r meinciau cefn—[Chwerthin.]—a'r Dirprwy Weinidog sydd bellach yn gyfrifol. Gyda hynny mewn golwg, un o'r pethau a addawodd Ysgrifennydd y Cabinet eu darparu oedd cronfa gyfalaf £25 miliwn i gefnogi saith canolfan strategol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae un o'r canolfannau hynny yng Nghaerffili. A yw'n llwyr gefnogi'r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet fis Tachwedd diwethaf, a'r ymrwymiad hwnnw'n benodol?
Wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo i wario £25 miliwn ar y tasglu i ddatblygu cynlluniau o amgylch y canolfannau. Yr hyn rwy'n ceisio'i wneud yw ystyried y cynllun cyflawni a barn y partneriaid ynghylch y camau gorau i'w cymryd nesaf. Rwyf wedi cyfarfod â'r tasglu ac wedi cael trafodaeth agored iawn ynglŷn â ble y dylem fynd nesaf. Hefyd, rwyf wedi cyfarfod ag ACau sy'n cynrychioli etholaethau yn y Cymoedd. Byddaf yn cyfarfod â mwy dros yr wythnosau nesaf, a byddaf hefyd yn cyfarfod â holl arweinwyr y cynghorau. A ninnau hanner ffordd drwy dymor y Cynulliad hwn a chan fod hwn yn ymrwymiad a wnaed gennym yn y maniffesto diwethaf, credaf ei bod hi'n bwysig ein bod bellach yn ceisio canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ar draws y Cymoedd.
O ran union ffurf y canolfannau a sut y gwerir yr arian hwnnw, mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei ystyried ar hyn o bryd, a buaswn yn ddiolchgar am syniadau'r Aelod ynglŷn â ble y dylem fynd nesaf.
Weinidog, ym mis Gorffennaf y llynedd, mynegodd Sefydliad Bevan bryderon ynghylch gallu tasglu'r Cymoedd i gyflawni ar gyfer cymunedau megis Caerffili. Dywedasant fod cynigion y tasglu yn rhy fach i wneud gwahaniaeth, gan gyfeirio at ddiffyg ffocws, methiant i fynd i'r afael â'r problemau mawr a gweledigaeth a oedd yn rhy fach. Adleisiwyd y farn hon gan yr Athro Kevin Morgan, a ddywedodd,
Ni fydd y model datblygu yn llwyddiannus hyd yn oed os bydd y targedau'n fwy uchelgeisiol gan nad oes unrhyw ffordd y gall y Llywodraeth ei gyflawni.
Dyna ei eiriau ef. Yng ngoleuni'r feirniadaeth hon, a yw'r Gweinidog wedi gosod targedau clir i sicrhau bod tasglu'r Cymoedd yn darparu manteision gweladwy i gymunedau megis Caerffili, os gwelwch yn dda?
Wel, ni chredaf fod unrhyw un o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint y dasg o'n blaenau. Mae llawer o'r cymunedau hyn wedi profi dros ganrif o ddirywiad economaidd, a bydd angen mabwysiadu ymagwedd aml-genhedlaeth er mwyn mynd i'r afael â'r problemau dwys sy'n sail i hynny. Mae tasglu'r Cymoedd wedi chwarae rôl bwysig iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod, yr Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent, am y gwaith a wnaeth. Ac mae llawer o'r gwaith hwnnw wedi bod o dan y bonet yn Llywodraeth Cymru, ac nid yw'n ofnadwy o ddeniadol ond mae'n hanfodol i gyflawni cam nesaf y broses ddiwygio. Mae gwahanol rannau o'r Llywodraeth wedi eu dwyn ynghyd i ganolbwyntio ar y Cymoedd, a'u gwneud i feddwl sut y gellir defnyddio rhaglenni yn y Cymoedd i fynd i'r afael â'r prosiectau hyn, ac mae hynny wedi arwain at rai canlyniadau, ac mae'r uwchgynllunio a grybwyllais a'r gwaith o ddatblygu canolfannau trafnidiaeth integredig strategol yn enghreifftiau o rywbeth a fydd yn cymryd blynyddoedd lawer i ddwyn ffrwyth, ond mae'n waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, gwaith a gychwynnwyd gan Alun Davies, ac sy'n mynd i fod yn hanfodol ar gyfer lefel y newid sydd angen inni ei weld dros y degawdau i ddod.
O ran yr hyn y gallwn ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf, fel y dywedais yn fy ateb i Hefin David, credaf fod rhai pethau gweladwy y mae angen inni ganolbwyntio arnynt. Mae'r cynllun cyflawni yn cynnwys set gynhwysfawr o argymhellion, ac rydym yn archwilio sut y gallwn eu blaenoriaethu. Credaf hefyd mai un o ddarnau cyffrous y cynllun cyflawni yw'r gwaith ar entrepreneuriaeth. Rwyf wedi bod yn siarad â nifer o arbenigwyr dros yr ychydig wythnosau diwethaf ynglŷn â sut y gallwn adeiladu ar hynny, a byddaf yn cynnal gweithdai dros y misoedd nesaf i weld sut yn benodol y gallwn dyfu busnesau yn y Cymoedd drwy'r gwaith hwnnw.