Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch am eich ateb, a brysiwch wella.
Mae CThEM wedi cyhoeddi cynlluniau trosiannol, a fydd ar waith am flwyddyn, lle bydd nwyddau o'r UE yn cael eu trin fel y cânt eu trin ar hyn o bryd, er mwyn lleihau trafferthion mewn sefyllfa 'dim bargen'. Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r porthladd, a sut y bydd hwnnw'n cael ei gyfleu i fusnesau?