Porthladd Caergybi

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:26, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Yn ei lythyr at y Prif Weinidog ar 13 Ionawr, rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wahoddiad i'r Prif Weinidog fynychu cyfarfodydd y pwyllgor newydd ar barodrwydd i ymadael â'r UE, a gadeirir gan Brif Weinidog y DU, pan fydd materion sy'n berthnasol i Gymru ar yr agenda. Roeddent hefyd yn dweud: 'Rwyf wedi gofyn i swyddogion rannu'r profiadau mewn perthynas â'r ymarferion diweddar yng Nghaint gyda chi, ac yn yr un modd, byddai o gymorth pe gallech rhannu eich casgliadau ynghylch gwaith yng Nghaergybi a phorthladdoedd Sir Benfro.' Pa ymateb, os o gwbl, felly, a roddwyd gan y Prif Weinidog, neu gennych chi ar ei ran, i'r cais hwnnw?