Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 13 Chwefror 2019.
Mae cryn waith wedi digwydd ynglŷn â'r risg i borthladdoedd yng Nghymru yn gyffredinol, yn etholaeth yr Aelod, ynghyd ag yn y gogledd yng Nghaergybi ac ati hefyd. Rŷn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth leol a'r bobl sy'n gweithredu'r porthladdoedd i sicrhau ein bod ni'n modelu'r risgiau i'r porthladdoedd yn gyffredinol. Ar y cyfan, rŷn ni'n credu bod y porthladdoedd yn Ninbych y Pysgod ac yn Pembroke Dock yn debygol o fod gyda mwy o resilience na'r risg sydd yng Nghaergybi. Ond, wedi dweud hynny, rŷn ni'n cadw hyn o dan olwg rhag ofn y bydd yr assumptions o dan y modelu yna'n newid, wrth gwrs.