Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 13 Chwefror 2019.
Mae etholwyr wedi mynegi pryderon wrthyf ynglŷn â'r ddarpariaeth o gyflenwadau meddygol yn ne-orllewin Cymru, yn enwedig pethau ymarferol iawn fel padiau anymataliaeth, ond hefyd mynediad at inswlin, rhai radioisotopau prin sy'n angenrheidiol ar gyfer rhai triniaethau canser. A all y Gweinidog Brexit roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda bwrdd iechyd Hywel Dda i sicrhau bod gan ein hysbytai gwledig a rhai o'r ysbytai llai yn arbennig fynediad at y mathau hyn o gynhyrchion pe baem yn wynebu Brexit caled, rhywbeth y mae pob un ohonom, wrth gwrs, yn taer obeithio na fydd yn digwydd?