Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 13 Chwefror 2019.
Gwrandewais ar yr hyn a ddywedoch. Nid wyf yn siŵr o hyd a ydych eisiau refferendwm ai peidio. Fe wnaethom bleidleisio yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n ôl, ac roedd hi'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru'n cefnogi paratoadau ar gyfer ail refferendwm, ond ni ddynododd yn bendant pa un a oedd cefnogaeth i refferendwm ai peidio. Ac rwy'n credu bod y sefyllfa'n golygu y dylech newid cyfeiriad gwefan y Blaid Lafur i Dryslyd.com oherwydd credaf fod llawer o bobl yn ei chael hi'n rhyfedd ein bod mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn pleidleisio i baratoi ar gyfer ail refferendwm heb ddangos a yw'n cefnogi cael un ai peidio. Mae honno i'w gweld yn sefyllfa ryfedd iawn yn wir. Nawr, gwyddom fod arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ac fe nododd yn y llythyr hwnnw ei fod wedi cefnu ar ei chwe phrawf nad oes modd eu cyflawni ac wedi gosod pump o alwadau newydd ar gyfer Brexit yn eu lle. Yn ei lythyr, ni soniodd am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm, a'r rheswm na soniodd am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm yw oherwydd bod arweinydd yr wrthblaid yn amharod i ofyn am un. A ydych yn derbyn ei bod yn gwbl ofer i Lywodraeth Cymru geisio paratoi am ail refferendwm o ystyried nad yw eich arweinydd eich hunain yn San Steffan yn barod i ofyn am un ac nad oes unrhyw arwydd y daw yna ail refferendwm?