2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 13 Chwefror 2019.
Symudwn at gwestiynau'r llefarwyr, a daw'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan lefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a allwch ddweud wrthym pa un a yw Llywodraeth Lafur Cymru yn dymuno cael ail refferendwm ar aelodaeth y DU o'r UE ai peidio?
Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir iawn mewn perthynas â hyn.
Ydy e?
Ydy. Efallai na allaf ei gyfleu'n uchel iawn heddiw, ond—. [Chwerthin.]
Ai dyna oedd eich ail gwestiwn, rwy'n cymryd? Rydych newydd ddweud, 'Ydy e?' Ai dyna oedd eich ail gwestiwn?
Pryfocio cwrtais ydoedd, o ystyried y pryfocio cwrtais a gefais i.
Wel, efallai y dylech gadw'ch pryfocio cwrtais i chi'ch hun felly, ac ni fyddaf mewn penbleth a oedd yn gwestiwn ai peidio.
Nodaf eich sylwadau.
Gwnsler Cyffredinol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ein safbwynt fel Llywodraeth—
Mae'n ddrwg gennyf; nid wyf yn clywed.
Nodir ein safbwynt fel Llywodraeth yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Nodir y math o gytundeb yr hoffem ei weld ar gyfer perthynas ôl-Brexit yn y ddogfen honno. Os nad yw'r math hwnnw o gytundeb yn bosibl, ac na ellir cytuno arno, yna—
Mae'n ddrwg gennyf, ni allaf eich clywed. Fe geisiais eu defnyddio'n gynharach.
Mae'n gweithio. Fe wnaiff y chwyddleisio llawr weithio.
Fe geisiais ei ddefnyddio'n gynharach; ni allwn glywed.
A ydych am ofyn eich ail gwestiwn?
Ni allwn glywed yr ateb i'r cwestiwn cyntaf.
Os yw'r math hwnnw o gytundeb ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod refferendwm arall yn fodd o dorri'r anghytundeb hwnnw.
Byddai'n help pe bai'r Aelodau yn y Siambr yn cadw'r sŵn i lawr. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei chael hi'n anodd, ac felly, os gallwn fod yn dawel, gallwn fynd drwy'r set nesaf o gwestiynau. Darren.
Gwrandewais ar yr hyn a ddywedoch. Nid wyf yn siŵr o hyd a ydych eisiau refferendwm ai peidio. Fe wnaethom bleidleisio yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n ôl, ac roedd hi'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru'n cefnogi paratoadau ar gyfer ail refferendwm, ond ni ddynododd yn bendant pa un a oedd cefnogaeth i refferendwm ai peidio. Ac rwy'n credu bod y sefyllfa'n golygu y dylech newid cyfeiriad gwefan y Blaid Lafur i Dryslyd.com oherwydd credaf fod llawer o bobl yn ei chael hi'n rhyfedd ein bod mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth Cymru yn pleidleisio i baratoi ar gyfer ail refferendwm heb ddangos a yw'n cefnogi cael un ai peidio. Mae honno i'w gweld yn sefyllfa ryfedd iawn yn wir. Nawr, gwyddom fod arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ac fe nododd yn y llythyr hwnnw ei fod wedi cefnu ar ei chwe phrawf nad oes modd eu cyflawni ac wedi gosod pump o alwadau newydd ar gyfer Brexit yn eu lle. Yn ei lythyr, ni soniodd am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm, a'r rheswm na soniodd am y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm yw oherwydd bod arweinydd yr wrthblaid yn amharod i ofyn am un. A ydych yn derbyn ei bod yn gwbl ofer i Lywodraeth Cymru geisio paratoi am ail refferendwm o ystyried nad yw eich arweinydd eich hunain yn San Steffan yn barod i ofyn am un ac nad oes unrhyw arwydd y daw yna ail refferendwm?
Wel, disgrifiodd y llythyr gan arweinydd yr wrthblaid y math o gytundeb y byddai'r Blaid Lafur yn San Steffan yn barod i'w gefnogi. Ac rydym yn argymell bod y Prif Weinidog yn ymgysylltu'n llawn ag arweinydd yr wrthblaid i weld a all trafodaethau yn y Senedd arwain at gytundeb o'r fath. Mae hi wedi methu gwneud hynny hyd yma.
Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn San Steffan eisiau gadael yr UE. Datgelwyd lluniau yn yr ychydig ddyddiau diwethaf o Jeremy Corbyn yn ôl yn 2010, yn galw ar yr UE, ac rwy'n dyfynnu, 'i gael ei drechu', gan gyhuddo'r Undeb Ewropeaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol o fod, a dyfynnaf, yn hollol unedig ar ddatchwyddiant, darostwng yr economi a chreu diweithdra.
Ac wrth gwrs, mewn llyfr sy'n cael ei gyfresoli mewn papur dydd Sul ar hyn o bryd, datgelwyd bod canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, a Seumas Milne, cynghorydd agosaf Jeremy Corbyn, ill dau wedi pleidleisio i adael yr UE. O gofio hyn, yn hytrach na chwarae gwleidyddiaeth ynghylch ail refferendwm a pharatoi am un pan nad oes unrhyw arwydd y daw un, a dim gobaith y bydd mainc flaen Llafur yn San Steffan yn galw am un, a ydych yn derbyn mai'r hyn y dylech ei wneud yw bwrw ymlaen i gefnogi'r Prif Weinidog a chefnogi'r cytundeb a negododd a'r newidiadau sy'n mynd i fod yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau cytundeb, gyda newidiadau priodol i'r ddarpariaeth wrth gefn?
Er fy mod yn eiddigeddus o allu'r Aelod i gael ei glywed ar draws y Siambr, nid wyf am gymryd unrhyw wersi oddi wrtho am chwarae gwleidyddiaeth ar y mater hwn. Mae ein safbwynt yn hollol glir, a'r ffordd orau o ddatrys hyn ac osgoi sefyllfa 'dim bargen' yw i'r Prif Weinidog gael gwared ar ei llinellau coch a cheisio sicrhau consensws ar draws y Senedd ar y mathau o egwyddorion y gellid cael cynghrair eang yn eu cylch, nid y gynghrair gul y mae hi'n ceisio ei sefydlu ar hyn o bryd.
Trown at lefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dychwelyd at y cwestiwn a oedd wedi cael ei godi gan fy nghyfaill Helen Mary Jones, ydy'r gwaith roeddech chi wedi cyfeirio ato yn ceisio adnabod y meddyginiaethau a'r nwyddau meddygol sydd mewn peryg o fynd yn brin pe bai yna Brexit heb gytundeb wedi'i gwblhau? Faint o nwyddau a meddyginiaethau ydych chi wedi eu hadnabod ar y rhestr honno? A yw'n llai na'r 31 o nwyddau sydd wedi'u hadnabod yn yr asesiad diweddaraf gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd? Ydych chi'n bwriadu cyhoeddi y rhestr yma, fel bod meddygon teulu a'r cyhoedd yn ymwybodol o'r risgiau posib a allai eu hwynebu nhw, fel y gallant, i'r graddau sy'n bosib, wneud cynlluniau wrth gefn?
Dyw'r gwaith hynny ddim wedi ei gwblhau. Mae'r gwaith yn digwydd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig, yn cynnwys y Llywodraeth yn San Steffan. Mae'r gwaith yn mynd ar ei hyd ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n sicrhau ein bod ni'n glir gyda phobl nad oes unrhyw ofyniad arnyn nhw i ymddwyn mewn ffordd wahanol ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim yn gofyn i'r gwasanaeth iechyd ymateb mewn ffordd wahanol i feddygon teulu, i gynnig presgripsiynau hirach i bobl, nac i fferyllwyr wneud hynny chwaith. Byddwn ni'n cadw'r sefyllfa hyn o dan sylw.
Gaf fi ofyn i'r Gweinidog, gydag ond ychydig wythnosau i fynd, onid yw hi'n mynd i beri consýrn i bobl bod y gwaith yna heb ei gwblhau? Hynny yw, roeddem ni'n gwybod ers tro byd fod yna bosibilrwydd o adael heb gytundeb, a nawr, gydag ychydig o wythnosau i fynd, dŷn ni'n dal ddim yn gwybod pa nwyddau a meddyginiaethau dŷn ni'n sôn amdanyn nhw.
Gaf fi ofyn iddo fe hefyd ydy e'n ymwybodol o gynlluniau wrth gefn y pedwar llu heddlu yng Nghymru, i roi heddweision ar standby er mwyn ymateb i unrhyw anghydfod sifil neu drafferthion mewn porthladdoedd pe bai yna Brexit heb gytundeb? Os ydych chi wedi cael y trafodaethau hynny, allwch chi fanylu ar niferoedd y heddweision rŷn ni'n sôn amdanynt? Ydy'r trefniadau wrth gefn yma yn cynnwys gallu ymateb i geisiadau am gymorth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Gogledd Iwerddon? Allwch chi ddweud hefyd a yw awdurdodau lleol, gwasanaethau brys eraill ac unrhyw gorff arall yn y sector cyhoeddus hefyd ynghlwm yn y gwaith cynllunio yma?
Ydyn, mae'r cyrff hynny ynghlwm yn y gwaith hynny, drwy'r local resilience forums, ac mae'r pedwar heddlu ynghlwm yn y trafodaethau yna hefyd. Fel y bydd yr Aelod yn deall, mae trefniadau sy'n bodoli ar gyfer mutual assistance yn gyffredinol, ac mae'r holl bethau yma yn digwydd o fewn fframwaith civil contingencies, sydd wedi ei sefydlu ar gyfer pob mathau o sefyllfaoedd. Does gyda ni ddim unrhyw intelligence penodol am civil unrest ar raddfa eang, fel petai, ond mae'r trafodaethau hynny'n digwydd gyda llywodraeth leol, gyda'r heddlu, gyda chyrff y gwasanaeth iechyd a gyda'r Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig.
Allaf fi jest gofyn i'r Gweinidog a ydy e'n ymwybodol, jest i gadarnhau, fod heddlu yng Nghymru yn mynd i gael eu rhoi ar standby pe baem ni'n gadael heb gytundeb, fel sydd wedi cael ei adrodd, er enghraifft, yn yr Alban ac yn Lloegr? Ym mis Chwefror y llynedd, mi gawsom ni gadarnhad bod y Llywodraeth yn edrych ar y syniad o greu parthau rhydd, neu borthladdoedd rhydd, pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. All y Gweinidog ein diweddaru ni ynglŷn â'r gwaith hynny? Allwch chi ddweud pa borthladdoedd, neu feysydd awyr, neu ardaloedd eraill, sydd o dan ystyriaeth gennych ar hyn o bryd? Ac a ydych chi fel Llywodraeth yn bwriadu cefnogi unrhyw gais ar gyfer statws parth rhydd?
Ac yn olaf, yn dilyn adroddiadau y prynhawn yma bod Ford wedi dweud wrth Brif Weinidog Prydain eu bod nhw'n bwriadu symud y gwaith cynhyrchu o'r Deyrnas Gyfunol pe bai yna Brexit heb gytundeb, a ydych chi'n gallu dweud a fydd yna unrhyw drafodaeth debyg gyda Gweinidogion Cymru, gan Ford? Ac a allwch chi ddweud hefyd a ydy Llywodraeth Cymru wedi siarad â phob un o'r 52 o brif gwmnïau—yr anchor companies—yn ystod y tri mis diwethaf i ofyn iddyn nhw hefyd ynglŷn ag effaith bosib Brexit ar eu busnesau?
O ran y porthladdoedd rhydd, wrth gwrs, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, rydym ni eisiau bod mewn sefyllfa lle mae gyda ni berthynas agos â'r farchnad sengl, a bod o fewn undeb tollau. Ac mae'n anodd gweld sut y gallai porthladdoedd rhydd, parthau rhydd, fodoli o fewn y fframwaith hwnnw. Felly, mae sialens strategol gyda ni yn y cyd-destun hwnnw.
O ran y sgyrsiau rhwng y Llywodraeth a'r cwmnïau, neu'r cyflogwyr, mawr, mae'r sgyrsiau yna'n digwydd yn barhaol. Roeddwn ni yn y cyfarfod gyda Ken Skates yn gynharach yr wythnos yma gyda chynrychiolwyr o'r busnesau—gyda'r sector economaidd yn gyffredinol—ac mae'r math o drafodaethau mae'n sôn amdanyn nhw yn bethau sy'n digwydd yn gyson ar hyn o bryd.
Diolch. Trown at lefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y Cwnsler Cyffredinol wedi gweld bod Olly Robbins, prif negodwr y Llywodraeth gyda'r UE, wedi gadael y gath o'r cwd ddoe ym Mrwsel ac wedi datgelu gwir fwriadau Theresa May. Mae hi bob amser wedi dweud nad yw am ymestyn erthygl 50 na chael unrhyw oedi a fyddai'n golygu na fyddai Prydain yn gadael yr UE ar 29 Mawrth. Ond dywedodd Olly Robbins mai ei dasg, neu dasg y Llywodraeth yn Nhŷ’r Cyffredin dros yr ychydig wythnosau nesaf, yw cael ASau i gredu y bydd estyniad yn bosibl ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar ddiwedd mis Mawrth, ond os na fyddant yn pleidleisio o blaid y cytundeb, y bydd yr estyniad yn un hir. Felly, ar y naill law, mae'r Prif Weinidog yn dweud na fydd estyniad, ond mae'r dyn sy'n gwneud y negodi o ddydd i ddydd yn dweud mai eu tacteg yw ymestyn aelodaeth Prydain o'r UE y tu hwnt i 29 Mawrth os nad yw'r ASau yn cytuno i'r cytundeb.
Ie, gwelais innau hynny hefyd. Ein safbwynt ni, fel Llywodraeth, yw y dylai'r Prif Weinidog wneud cais am estyniad i erthygl 50 ar y pwynt hwn. Po ddiweddaraf y gadewir hynny, y mwyaf peryglus fydd hi a'r mwyaf o heriau a allai fod i sicrhau hynny. Mae'n ymddangos i ni fod bron unrhyw senario o hyn ymlaen yn galw am ymestyn erthygl 50—ymestyn y dyddiad ymadael. Hyd yn oed pe bai cytundeb yn bosibl ar y pwynt hwn, mae'r ymarfer logistaidd, ymarferol o gael deddfwriaeth drwy'r Senedd er mwyn gwneud iddo ddigwydd eisoes yn mynd â ni y tu hwnt i'r dyddiad ymadael presennol mewn unrhyw senario realistig fwy neu lai.
Wel, rwy'n siŵr y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod hyn yn dod yn gwestiwn o ymddiriedaeth yn y Llywodraeth yn y pen draw, sy'n fater hollbwysig. Yma mae gennym brif negodwr y Llywodraeth ar y naill law yn cael ei glywed mewn amgylchiadau preifat pan nad oedd yn gwybod ei fod yn cael ei glywed, yn dweud un peth, a'r Prif Weinidog yn gwadu'n gyhoeddus yr hyn a ddywedodd. Pa ymagwedd yw'r fwyaf credadwy yn ei farn ef?
Nid wyf yn siŵr mai fy lle i yw dyfalu ynglŷn â thrafodaethau posibl o fewn Llywodraeth y DU rhwng negodwyr a'r Prif Weinidog. Y cyfan a ddywedaf yw ein bod wedi bod yn glir iawn ynghylch y math o gytundeb y credwn y dylid ei roi gerbron Tŷ'r Cyffredin, a chredaf y dylai'r Prif Weinidog weithredu'r holl gamau y gall er mwyn gwireddu hynny.
Wel, gan fod y cytundeb y mae Theresa May wedi'i roi ar y bwrdd yn rhoi pob dim y mae'r UE ei eisiau—y £39 biliwn, rhannu Gogledd Iwerddon oddi wrth weddill y DU, parhad o'r aliniad rheoleiddio heb lais na phleidlais yn yr UE, a heb unrhyw hawl unochrog i adael, hawl sydd gennym ar hyn o bryd o dan erthygl 50—i bob pwrpas yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig yw'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru ei hun am ei weld i raddau helaeth. Felly, a yw'n cael ei galonogi gan y cadarnhad hwn o ddauwynebogrwydd y Prif Weinidog yn negodi cytundeb y mae hi'n honni ei fod yn fodd o adael yr UE gan wybod ei fod wedi'i lunio mewn gwirionedd er mwyn cadw'r DU o'i fewn am gyfnod amhenodol?
Wel, rwy'n sicr yn ymwybodol o'r cyfyngiadau o fod yn yr UE heb lais, ond hoffwn ddweud bod y cytundeb y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyflwyno i Dŷ'r Cyffredin yn brin iawn o'r math o gytundeb y mae Llywodraeth Lafur Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, wedi'i ddisgrifio fel y math o berthynas ar ôl Brexit a ddylai fod gennym gyda'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw, er enghraifft, yn cynnwys undeb tollau parhaol; nid yw, er enghraifft, yn cynnwys marchnad sengl mewn gwasanaethau; ac yn sicr nid yw'n cynnwys y math o bolisi ymfudo symudiad teg y teimlwn y byddai orau er lles Cymru ar ôl Brexit.
Wel, rwy'n anghytuno â'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch llawer o'r hyn y mae newydd ei ddweud, oherwydd, i bob pwrpas, sail y cytundeb y llwyddodd yr UE i'w wasgu o'r Llywodraeth yw aelodaeth Prydain o'r undeb tollau ac yn wir, y farchnad sengl i bob pwrpas am fod aliniad rheoleiddio yn rhan annatod ohono, ac nid oes dyddiad terfyn. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, nid oes unrhyw gymhelliad i'r UE wella ei gynnig oherwydd mae popeth y mae eu heisiau ar y bwrdd eisoes. Felly, pam y dylai gytuno i ganiatáu i Brydain adael yr UE maes o law pan fydd wedi ein cael ni yn union lle mae eisiau i ni fod mewn gwirionedd—o fewn yr Undeb Ewropeaidd ond heb lais a phleidlais? Ac felly, mae hynny'n golygu parhad aelodaeth Prydain o'r UE yn barhaol mewn gwirionedd—sef yn union yr hyn y mae'r Blaid Lafur am ei weld.
Credaf hefyd fod ceisio ail-drafod y cytundeb gyda'r UE ar sail llinellau coch presennol y Prif Weinidog yn strategaeth optimistaidd tu hwnt ar ei rhan. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod yr UE wedi dweud pe bai'n symud oddi wrth y llinellau coch, fod yna ddewisiadau eraill ar y bwrdd, ac unwaith eto, buaswn yn annog y Prif Weinidog i fynd ar drywydd y rheini.