Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 13 Chwefror 2019.
Gaf fi ofyn i'r Gweinidog, gydag ond ychydig wythnosau i fynd, onid yw hi'n mynd i beri consýrn i bobl bod y gwaith yna heb ei gwblhau? Hynny yw, roeddem ni'n gwybod ers tro byd fod yna bosibilrwydd o adael heb gytundeb, a nawr, gydag ychydig o wythnosau i fynd, dŷn ni'n dal ddim yn gwybod pa nwyddau a meddyginiaethau dŷn ni'n sôn amdanyn nhw.
Gaf fi ofyn iddo fe hefyd ydy e'n ymwybodol o gynlluniau wrth gefn y pedwar llu heddlu yng Nghymru, i roi heddweision ar standby er mwyn ymateb i unrhyw anghydfod sifil neu drafferthion mewn porthladdoedd pe bai yna Brexit heb gytundeb? Os ydych chi wedi cael y trafodaethau hynny, allwch chi fanylu ar niferoedd y heddweision rŷn ni'n sôn amdanynt? Ydy'r trefniadau wrth gefn yma yn cynnwys gallu ymateb i geisiadau am gymorth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Gogledd Iwerddon? Allwch chi ddweud hefyd a yw awdurdodau lleol, gwasanaethau brys eraill ac unrhyw gorff arall yn y sector cyhoeddus hefyd ynghlwm yn y gwaith cynllunio yma?