Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 13 Chwefror 2019.
Gallaf, yn sicr. Wrth gwrs, cafwyd trafodaethau gyda'r byrddau iechyd. Mae'r Gweinidog iechyd yn cael trafodaethau parhaus, mewn gwirionedd, gyda chyrff y GIG i sicrhau bod ganddynt gynlluniau parodrwydd ar waith ac i brofi rhai o'r rhagdybiaethau hynny. Mae'r cwestiwn y gofynna'r Aelod yn ymwneud â darparu dyfeisiau meddygol yn benodol. Fel y gŵyr, o bosibl, gwnaed gwaith penodol i bennu cadwyni cyflenwi ar gyfer y dyfeisiau hynny sy'n benodol i Gymru ac i lywio safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch y graddau y bydd yn cydweithio ac yn cydweithredu gyda'r systemau hynny y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith ac i ba raddau y mae angen inni roi ein trefniadau ein hunain ar waith mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru.
Un o'r materion allweddol, wrth gwrs, yw sicrhau y dosberthir rhai o'r mathau o ddyfeisiau meddygol a defnyddiau traul y cyfeiria'r Aelod atynt yn ei chwestiwn ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys efallai y cymunedau mwy anghysbell.