Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 13 Chwefror 2019.
Roedd fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod y gwelir ei golli'n fawr, Steffan Lewis, yn frwd ei gefnogaeth i gysylltiadau agosach rhwng y gwledydd Celtaidd. Nawr, roedd gan Steffan weledigaeth y byddai mwy o gydweithio gydag Iwerddon a'r Alban yn fuddiol i Gymru mewn nifer o wahanol ffyrdd, nid yn lleiaf yn economaidd. Yn y tirlun gwleidyddol ôl-Brexit sy'n newid bron bob dydd, a ydych yn gweld rhinwedd mewn datblygu cynghrair Geltaidd o'r fath? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried, er enghraifft, y posibilrwydd o gynnal trafodaethau ar weithredu elfen 3 o gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a fyddai'n caniatáu i aelodau o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ddatblygu trefniadau dwyochrog neu amlochrog rhyngddynt? Byddai hyn yn caniatáu inni sefydlu mecanweithiau ar gyfer galluogi ymgynghori, cydweithredu a gwneud penderfyniadau ar y cyd ar faterion o ddiddordeb cyffredin.