Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 13 Chwefror 2019.
Mae'r Aelod yn cyfeirio at y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sy'n fforwm cwbl hanfodol yn hyn o beth, a mynychodd y Prif Weinidog blaenorol a minnau gyfarfod ohono ar Ynys Manaw y llynedd a gwelsom yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r fforwm, a gall barhau i fod felly wrth atgyfnerthu cysylltiadau ar draws y DU, ie, yng nghyd-destun Brexit, ond hefyd o ran cysylltiadau yn y dyfodol yn fwy cyffredinol. Fel y dywedais yn y Siambr o'r blaen—ac rwyf am fanteisio ar y cyfle i'w ddweud eto—rydym yn ystyried y cysylltiadau hyn yn bwysig iawn, ac yn arbennig yng nghyd-destun y berthynas Wyddelig a'r berthynas arfordirol, os caf ei roi felly, rhwng gorllewin Cymru ac arfordir de-ddwyrain Iwerddon. Wrth gwrs, mae'r berthynas honno wedi elwa'n sylweddol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd drwy gynlluniau cydweithredu Ewropeaidd ac ati. Rydym wedi ystyried y pethau hynny'n hynod o werthfawr, fel y gwn fod Llywodraeth Iwerddon wedi ei wneud. Mae angen inni edrych ar atgyfnerthu'r amrywiaeth o gysylltiadau yn ein dyfodol, rwy'n credu, ymhlith y gwledydd Celtaidd, ond hefyd â gwledydd is-wladwriaethol eraill ledled gweddill Ewrop. Mae gennym femoranda cyd-ddealltwriaeth neu gynlluniau gweithredu eisoes ar waith â Llydaw a Gwlad y Basg, rydym ar fin cychwyn ar set debyg o drafodaethau gyda'r Galisiaid, ac rydym wedi datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth er enghraifft o gwmpas y sector awyrofod, yn enwedig gyda Quebec—