Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dychwelyd at y cwestiwn a oedd wedi cael ei godi gan fy nghyfaill Helen Mary Jones, ydy'r gwaith roeddech chi wedi cyfeirio ato yn ceisio adnabod y meddyginiaethau a'r nwyddau meddygol sydd mewn peryg o fynd yn brin pe bai yna Brexit heb gytundeb wedi'i gwblhau? Faint o nwyddau a meddyginiaethau ydych chi wedi eu hadnabod ar y rhestr honno? A yw'n llai na'r 31 o nwyddau sydd wedi'u hadnabod yn yr asesiad diweddaraf gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd? Ydych chi'n bwriadu cyhoeddi y rhestr yma, fel bod meddygon teulu a'r cyhoedd yn ymwybodol o'r risgiau posib a allai eu hwynebu nhw, fel y gallant, i'r graddau sy'n bosib, wneud cynlluniau wrth gefn?