Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 13 Chwefror 2019.
Wel, gan fod y cytundeb y mae Theresa May wedi'i roi ar y bwrdd yn rhoi pob dim y mae'r UE ei eisiau—y £39 biliwn, rhannu Gogledd Iwerddon oddi wrth weddill y DU, parhad o'r aliniad rheoleiddio heb lais na phleidlais yn yr UE, a heb unrhyw hawl unochrog i adael, hawl sydd gennym ar hyn o bryd o dan erthygl 50—i bob pwrpas yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig yw'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru ei hun am ei weld i raddau helaeth. Felly, a yw'n cael ei galonogi gan y cadarnhad hwn o ddauwynebogrwydd y Prif Weinidog yn negodi cytundeb y mae hi'n honni ei fod yn fodd o adael yr UE gan wybod ei fod wedi'i lunio mewn gwirionedd er mwyn cadw'r DU o'i fewn am gyfnod amhenodol?