Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 13 Chwefror 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw? Mae'n bwysig iawn inni ymdrin â mater masnach. Fel y nododd David Melding, mae'r dystiolaeth gan rai yn dynodi na ddylai fod feto, ond wrth wrando ar y newyddion sy'n dod o'r UDA heddiw—fod cynhyrchwyr dur yr UDA yn annog Donald Trump i roi gwaharddiad ar ddur o'r DU mewn unrhyw gytundeb masnach a wnawn gyda hwy, cam a fyddai'n cael effaith ddinistriol ar y diwydiant dur yma yng Nghymru—gallai cytundeb masnach a negodwyd gan Lundain heb fod gennym ran ynddo arwain at oblygiadau niweidiol i economi Cymru, a bydd yn rhaid inni godi'r darnau o ganlyniad i hynny.
A ydych felly'n cytuno ei bod hi'n bwysig y dylai fod gan y cyd-grŵp gweinidogol hwn y siaradwch amdano ar fasnach ryngwladol ddigon o ddannedd i chi gael eich gwrando ac nid cael eich rhoi mewn cornel a'u bod yn meddwl y gallant gau'r drws arnoch? Mae'n bwysig i lais Cymru gael ei glywed a'u bod yn ymateb iddo er mwyn sicrhau nad yw economi Cymru, diwydiannau Cymru, dinasyddion Cymru yn dioddef o ganlyniad i gytundeb y DU.