'Brexit, masnach a thollau: goblygiadau i Gymru'

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:58, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn iawn i'w ddisgrifio yn y ffordd honno. Mae hyn yn ymwneud â mwy na rhannu gwybodaeth ac ati. Yr hyn rydym ei eisiau yw corff sy'n ei gwneud hi'n bosibl ystyried y materion hyn yn llawn a'r dimensiynau penodol sy'n berthnasol yng Nghymru i gael eu cynnwys yn rhan lawn o'r gyfres honno o drafodaethau. Mae'r mathau o faterion a nododd yn ei gwestiynau yn mynd at wraidd y mathau o bethau y mae angen inni allu mynd i'r afael â hwy drwy'r mecanwaith hwnnw.