Symud Nwyddau i Gymru ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:59, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n briodol ar liniaru effeithiau posibl ym mhorthladdoedd Cymru, ond onid yw'n wir fod Cymru, fel gweddill y DU, yn dibynnu'n llwyr mewn gwirionedd ar lwybr Calais-Dover ar gyfer meddyginiaethau, bwyd a chyflenwadau eraill? Nawr, rwy'n petruso cyn gofyn y cwestiwn hwn. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i aelod cyfatebol yn y DU, Chris Grayling? Gallwch ddeall pam rwy'n petruso i wneud hyn, ar ôl canslo contract Seaborne am £14 miliwn y diwrnod o'r blaen er gwaethaf sicrwydd fis cyn hynny fod popeth yn berffaith iawn. Ond mae'n hanfodol ein bod yn cael y rheini, oherwydd mae meddyginiaethau, cyflenwadau bwyd, yr holl hanfodion hynny, yn hanfodol i Gymru, fel i weddill y DU. Mae'n ymwneud â mwy na phorthladdoedd Cymru. A yw paratoadau Llywodraeth y DU yn rhoi sicrwydd iddo?