Symud Nwyddau i Gymru ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:00, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, fel y mae wedi'i ddynodi yn ei gwestiwn, er bod ein prif ffocws ar borthladdoedd yma yng Nghymru, bydd bwyd a meddyginiaethau a deunyddiau a nwyddau eraill sy'n dod i Gymru—wyddoch chi, mae'r porthladd hwnnw, o bosibl, hyd yn oed yn bwysicach o ran maint y traffig a faint o nwyddau sy'n dod drwyddo. Yn sicr, yn enwedig mewn senario 'dim bargen', bydd tarfu difrifol yn Dover ac ar lwybr Dover-Calais. Mae hynny'n gwbl glir, rwy'n credu. Yn amlwg, mae'n crybwyll canslo contract Seaborne, ac mae hynny'n peri pryder mawr yng nghyd-destun tawelu meddyliau. Gwyddom fod camau'n cael eu cymryd. Maent yn amlwg yn cael eu harwain gan Lywodraeth y DU. Rydym yn y broses o geisio sicrwydd mewn perthynas â'r camau sy'n cael eu cymryd, oherwydd, yn amlwg, er nad yw'n fater datganoledig, ac er nad yw yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb clir iawn mewn sicrhau'r tawelwch meddwl hwnnw ar ran pobl Cymru.