Erthygl 50

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:01, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi cyfleu barn Llywodraeth Cymru yn glir i Lywodraeth y DU, a gwneuthum hynny'n fwyaf diweddar yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau'r UE yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU geisio estyniad i erthygl 50 ar unwaith er mwyn rhoi diwedd ar y bygythiad y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb ymhen saith wythnos.