Erthygl 50

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:02, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Ni fyddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol yn gadael yr UE heb gytundeb gyda'n prif bartneriaid masnachu. Dyna farn un o ohebyddion y BBC, a swydd gohebydd yw bod yn ddiduedd, felly credaf fod honno'n farn sefydledig. Y cwestiwn sy'n codi, fodd bynnag, yw: a oes digon o amser i gyflwyno'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i ymestyn erthygl 50 ar y cam hwn pe bai Mrs May, drwy ryw ryfedd wyrth, yn gallu darparu cytundeb a fyddai'n sicrhau cymeradwyaeth y mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin? Os nad oes digon o amser, beth fydd y goblygiadau i Gymru os yw'n mynd i mewn i ryw fath o limbo dystopaidd mewn perthynas â materion tra phwysig fel rheoleiddio cynhyrchion bwyd, nwyddau trydanol, a'r amgylchedd yn wir?