Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 13 Chwefror 2019.
ac wedyn yn mynd ymlaen i gwyno ynglŷn â'r hyn yr oedd y ddeddfwriaeth yn disgwyl ohonon ni yma yng Nghymru. Felly, onid yw hi'n amlwg bod profiadau'r Llywodraeth yma, a Gweinidogion y Llywodraeth yma, yn enwedig yng nghyd-destun y ddau Fil dwi wedi cyfeirio atyn nhw, yn dangos nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig awydd gwirioneddol i gydweithio â'r Llywodraethau datganoledig i ddatblygu deddfwriaeth yn y cyd-destun yma, a bod y cytundeb, i bob pwrpas, yn gwbl aneffeithiol?