2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 13 Chwefror 2019.
8. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cytundeb rhyng-lywodraethol ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018? OAQ53401
Mae’r cytundeb rhynglywodraethol wedi gwneud Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn fwy effeithiol o ran parchu datganoli. Yn bwysig, ni chafwyd hyd yma unrhyw reoliadau cymal 12 i gyfyngu ar gymhwysedd datganoledig. O ran cywiro deddfwriaeth, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithio o fewn ysbryd y cytundeb.
Wel, dwi ddim yn siŵr iawn beth yw'ch diffiniad chi o weithio mewn ysbryd cytundeb, oherwydd dwi wedi eistedd mewn pwyllgor ar ôl pwyllgor yn gwrando ar Weinidog yr amgylchedd, er enghraifft, yn cwyno bod yna ddim cydweithredu wedi bod ar ddatblygu pethau fel Deddf pysgodfeydd y Deyrnas Unedig a Deddf amaeth y Deyrnas Unedig. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig—paragraff ar ôl paragraff yn dweud pethau fel:
cafodd y darpariaethau sy'n ymwneud ag Atodlen 1 eu drafftio gan y cwnsler seneddol yn dilyn cyfarwyddiadau gan Lywodraeth y DU. Ni ymgynghorwyd â Gweinidogion Cymru ynglŷn â'r cyfarwyddiadau,
ac wedyn yn mynd ymlaen i gwyno ynglŷn â'r hyn yr oedd y ddeddfwriaeth yn disgwyl ohonon ni yma yng Nghymru. Felly, onid yw hi'n amlwg bod profiadau'r Llywodraeth yma, a Gweinidogion y Llywodraeth yma, yn enwedig yng nghyd-destun y ddau Fil dwi wedi cyfeirio atyn nhw, yn dangos nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig awydd gwirioneddol i gydweithio â'r Llywodraethau datganoledig i ddatblygu deddfwriaeth yn y cyd-destun yma, a bod y cytundeb, i bob pwrpas, yn gwbl aneffeithiol?
Wel, pan gytunwyd ar y cytundeb yn y lle cyntaf, roedd llawer o feirniadaeth yn y Siambr hon fod y Llywodraeth wedi cytuno, mewn egwyddor, i sicrhau'r math yma o gytundeb. Ond mae'r cytundeb wedi llwyddo. Dwi ddim yn amau am eiliad fod enghreifftiau wedi bod lle byddwn i wedi mo'yn mwy o gydweithrediad. Mae hynny, yn amlwg, yn wir. Mae hynny wedi gwella dros y cyfnod diweddaraf, ond roedd awgrym y byddai pwerau'n cael eu cadw nôl. Dyw hynny ddim wedi digwydd. Roedd awgrym y byddai pwerau'n cael eu rhewi. Dyw hynny ddim wedi digwydd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau eto, am yr eilwaith, nad yw hynny wedi digwydd. Felly, bwriad y Llywodraeth oedd sicrhau bod gyda ni fath o gytundeb a oedd yn ymarferol ac a oedd yn caniatáu inni wneud gwaith ar gyfer cytuno deddfwriaeth, cytuno fframweithiau ac ati, lle'r oeddent yn delio â materion wedi'u datganoli. Mae'r cytundeb wedi llwyddo i wneud hynny.
Dwi ddim yn amau am eiliad fod enghreifftiau wedi bod lle dŷn ni ddim wedi cael, mewn deddfwriaeth ac ati, bethau y byddwn i'n eu disgrifio'n ddelfrydol. Wrth gwrs dyw hynny ddim wedi digwydd. Ond mae'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw, a oedd yng nghwestiwn yr Aelod, wedi llwyddo i sicrhau bod pwerau yn cael eu cadw yma, a'n bod ni'n gofyn i'r Llywodraeth yn San Steffan wneud newidiadau dim ond pan mae angen gwneud hynny, pan nad oes gwahaniaeth polisi rhyngom ni yma a'r Llywodraeth yn San Steffan.
A gaf i ddweud hefyd: mae mwy nag un enghraifft lle'r ŷm ni wedi llwyddo, fel Llywodraeth, i sicrhau ein bod yn cael mwy o drafodaethau? A mwy o enghreifftiau lle mae ein cytundeb ni'n cael ei holi, lle nad yw'r materion wedi cael eu datganoli, ond lle maen nhw'n effeithio ar Gymru mewn ffyrdd eraill—felly, enghreifftiau lle mae'r Llywodraethau wedi mynd ymhellach na'r cytundeb rhynglywodraethol.
Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol.