Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 13 Chwefror 2019.
Dwi’n diolch i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ei adroddiad. I fi, mae e’n codi dau gwestiwn llawer mwy sylfaenol, efallai, na rhai o’r manylion rŷn ni wedi bod yn eu trafod. Mae’r ddau yn gwestiynau—un yn ymwneud, wrth gwrs, â sgôp cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r llall yn ymwneud â gallu neu gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro’r cyfrifoldebau hynny.
Nawr, mae sgôp y cyfrifoldebau wrth gwrs yn rhywbeth rŷn ni wedi ei wyntyllu o’r dyddiau cynnar cyn creu Cyfoeth Naturiol Cymru. Hynny yw, gallu’r corff neu beidio i chwarae rôl fasnachol a rôl reoleiddiol ar yr un pryd. Dwi’n cofio’r term Chinese walls yn cael ei ddefnyddio’n amlach fan hyn nag yn unlle arall ar un adeg pan oedd y drafodaeth honno yn digwydd. Ac mae yna nifer o leisiau o’r dyddiau hynny hyd nawr wedi bod yn cwestiynu a ydy hynny yn addas, ac un eto yn y Western Mail y bore yma—John Owen Jones, cyn-Weinidog yn Swyddfa Cymru, neu'r Swyddfa Gymreig fel yr oedd hi, a chadeirydd olaf y Comisiwn Coedwigaeth yma yng Nghymru—yn disgrifio creu Cyfoeth Naturiol Cymru fel enghraifft glasurol o wneud polisi sâl, a dim digon o drafod â’r sector coedwigaeth, meddai fe, wrth i’r ymrwymiadau maniffesto gael eu gwneud. Wel, ŷch chi’n gwybod, rwy’n gwybod bod yna wahaniaeth barn, ond mae’n dweud rhywbeth pan ŷn ni’n dod i bwynt, fel y gwnaethon ni’r mis diwethaf, pan oedd Confor, ar ran y sector, yn datgan diffyg hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro ei waith fel y bydden ni am weld iddyn nhw ei wneud.
Ac, wrth gwrs, mae’r datganiad o ddiffyg hyder hwnnw’n arwyddocaol iawn, fel rŷn ni wedi clywed. Maen nhw’n cyflogi’n uniongyrchol 4,000 o bobl, yn anuniongyrchol yn cefnogi 12,000 o swyddi yn yr economi wledig, ac yn cyfrannu £40 miliwn o refeniw gwerthiant coed i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae’r sector yn galw am gymryd yr elfen goedwigaeth fasnachol yna oddi ar Gyfoeth Naturiol Cymru a chreu endid ar wahân o fewn Llywodraeth Cymru. I fi, mae hynny’n ddigon inni ofyn y cwestiwn, inni gymryd cam yn ôl, ac inni edrych—ydy hi felly yn werth inni gael rhyw fath o ymchwiliad annibynnol? A does dim eisiau inni fod ofn gwneud hynny. Mae’n berffaith ddilys inni ofyn y cwestiwn. Bum mlynedd i mewn i fodolaeth y corff yma, oes yna wersi y dylen ni fod yn eu dysgu ac a ddylen ni fod yn ailedrych ar eu cyfrifoldebau nhw? Ac os ydy’r ymchwiliad yn canfod bod angen newid, wel mae yna le i ymchwiliad hefyd awgrymu modelau amgen. Neu os oes yna ganfyddiad ei fod e yn dderbyniol, wel, wrth gwrs, wedyn mae angen adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi cychwyn—a dwi’n cydnabod hynny o ran Cyfoeth Naturiol Cymru—i ailadeiladu perthynas â’r sector.
Felly, dyna ni gyffwrdd â sgôp y cyfrifoldebau. Wedyn, wrth gwrs, mae’r isiw parhaol yma o gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro cyfrifoldebau yn y maes yma. Mae wedi cael, fel corff, toriad o 35 y cant i ariannu, mewn termau real, ers cael ei sefydlu: traean o’i gyllideb—y non-flood grant in aid, os dwi’n cofio’n iawn, yw’r term—wedi cael ei golli mewn cwta pum mlynedd. Ac, wrth gwrs, ar yr un pryd, rŷn ni wedi gweld cyfrifoldebau yn cynyddu trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, trwy ehangu'r rheoliadau yn ymwneud â’r reservoirs yng Nghymru, sydd yn dod â chostau sylweddol, heb sôn am Brexit a’r rhyferthwy fydd yn wynebu Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyd-destun hynny. Ac maen nhw ar trajectory cwbl anghynaladwy, rhwng cyllideb a chyfrifoldebau—cyfrifoldebau yn ehangu, cyllidebau yn crebachu. Dyw e ddim yn gweithio, dyw e ddim yn gynaliadwy.