– Senedd Cymru am 4:14 pm ar 13 Chwefror 2019.
Eitem 6, felly, yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18, a galwaf ar gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n drueni ein bod, ychydig dros 18 mis er pan oeddwn yn sefyll yma yn y Siambr yn datgan pryderon ynglŷn â materion ynghylch afreoleidd-dra yn nhrefniadau llywodraethu a gweinyddu Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn cymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16—wel, dyma ni eto, yn dilyn cymhwyso cyfrifon 2017-18 oherwydd yr un materion ynghylch afreoleidd-dra mewn perthynas â chontractau trosiannol newydd. Mae'r pwyllgor yn teimlo fel pe bai mewn rhyw fath o gylch diddiwedd wrth inni archwilio ac ail-archwilio nifer o faterion sy'n peri pryder mewn perthynas â dyfarnu contractau pren gan Cyfoeth Naturiol Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn ôl ym mis Mawrth 2017, gosododd Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y pryd adroddiad ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru gerbron y Cynulliad a nodai ei resymau dros gymhwyso barn reoleiddiol 2015-16 ar ddatganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyfeiriodd yr adroddiad at benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i ddyfarnu wyth contract gwerthu pren gwerth uchel i weithredwr melin lifio ym mis Mai 2014. Fel pwyllgor, cynaliasom ymchwiliad i'r materion hyn a chyhoeddi adroddiad ym mis Mehefin 2017 a ddaeth i'r casgliad:
'y gallai ac y dylai CNC fod wedi sicrhau bod llywodraethu da ar waith yn ei broses gontractio, ac o fethu â sefydlu trefniadau llywodraethu effeithiol, ni allai
ddangos ei fod wedi gweithredu'n gyfreithlon a bod y contractau a ddyfarnwyd yn cynrychioli gwerth am arian.'
Roeddem hefyd yn argymell ar y pryd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru
'[g]ynnal gwerthusiad llawn o'i drefniadau llywodraethu mewn perthynas â phrosesau contractio, gan amlinellu’n glir y gwersi a ddysgwyd'.
Nawr, gwibiwch ymlaen i 2018, ac mae'r pwyllgor yn ôl yn yr un sefyllfa, wedi i'r Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y pryd gymhwyso datganiadau ariannol 2017-18 Cyfoeth Naturiol Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac am yr un rhesymau'n union. Roeddem yn hynod o siomedig, er gwaethaf canfyddiadau adroddiadau blaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch ymagwedd Cyfoeth Naturiol Cymru tuag at drafodion gwerthu pren, fod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol. Arweiniodd hyn at gyhoeddi adroddiad pellach gennym ym mis Tachwedd y llynedd, lle roeddem unwaith eto'n nodi nifer o faterion a oedd yn peri pryder mewn perthynas â dyfarnu'r contractau pren hyn, gyda nifer ohonynt yn dal heb eu hesbonio.
Nid yn lleiaf, testun dryswch i ni oedd bod y penderfyniad—wrth ddyfarnu'r contractau hyn—i ddilyn proses y tu allan i'r rheolau caffael wedi'i wneud yn erbyn cefndir yr adroddiad deifiol gan yr archwilydd cyffredinol a oedd yn lleisio pryderon am y math penodol hwnnw o broses. Yn wir, cofiaf Aelodau'r pwyllgor, ac un Aelod yn benodol, yn cyfeirio at hyn fel trosedd a gyflawnwyd ddwywaith, cymaint oedd pryder y pwyllgor ar y pryd. Awgrymwyd i'r pwyllgor fod methiant diwylliannol wedi bod o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â gweithdrefnau llywodraethu, a bod angen ailwampio difrifol.
Ni allem ond dod i'r casgliad fod pryderon blaenorol wedi'u diystyru, ac roedd yn ymddangos bod y penderfyniadau a ddilynodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn afresymegol. Roedd y rhain yn benderfyniadau a wnaethpwyd gan staff profiadol, ac mae'n anodd gweld y camau hyn fel canlyniad i anallu. Ni allwn ond dod i'r casgliad na fyddwn byth yn llwyr ddeall, neu'n cael esboniad iawn am yr hyn a ddigwyddodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylwn ychwanegu ar y pwynt hwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael prif weithredwr newydd o fis Chwefror 2018, a bod cadeirydd dros dro wedi bod yn ei swydd ers 1 Tachwedd 2018 am gyfnod o 12 mis. Gyda'i gilydd, maent wedi datgan eu hymrwymiad i newid Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yr hyn y mae'n anelu i fod. Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2018-19 fydd y cyfrifon cyflawn cyntaf a fydd yn llwyr o dan eu goruchwyliaeth hwy, felly digwyddodd unrhyw gymhwyso blaenorol cyn iddynt gael eu penodi. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwneud y pwynt hwnnw.
Gan symud ymlaen, roeddem yn croesawu ac yn parchu penderfyniad y prif weithredwr newydd i gomisiynu adolygiad annibynnol llawn o'r materion a godwyd yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar ddatganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Cyflawnwyd yr adolygiad gan yr archwilwyr annibynnol Grant Thornton ac ar gais prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd yr ymchwiliad i fod yn gwbl drylwyr er mwyn datgelu'r methiannau o fewn y sefydliad yn llawn a sicrhau bod diwygio'n digwydd drwyddo draw.
Cyhoeddwyd canfyddiadau'r adolygiad ar 4 Chwefror eleni a chawsant eu hystyried gennym ar 11 Chwefror. Mae adolygiad Grant Thornton yn peri pryder pellach gan ei fod yn mynd ati'n fwy manwl i archwilio'r materion a godwyd mewn adroddiadau blaenorol ar drafodion gwerthu pren Cyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, ni ddatgelodd yr adroddiad unrhyw beth annisgwyl, nac unrhyw beth newydd yn wir, ond roedd yn codi cwestiynau pellach ynghylch pryd y gwelwn newid yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn bwysicach: a yw'r materion sy'n ymwneud â gwerthiannau pren wedi'u cyfyngu i is-adran coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, neu a yw'r rhain yn adlewyrchu diffyg sylfaenol yn y diwylliant sefydliadol? Mae adroddiad Grant Thornton yn amlygu'r angen am un diwylliant sefydliadol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae llawer o wersi i'r sefydliad cyfan eu dysgu o hyn.
Mae'n anffodus fod uno'r tri sefydliad yn un wedi gadael gwaddol o wahaniaethau diwylliannol dwfn na chawsant eu datrys erioed. Fodd bynnag, rydym yn croesawu'r ymrwymiad a roddwyd i ni gan brif weithredwr a chadeirydd newydd y bwrdd fod gwaith yn mynd rhagddo ar ad-drefnu'r sefydliad drwyddo draw, a newid tuag at sefydliad sy'n fwy seiliedig ar le y gobeithir y bydd yn ei uno'n fwy trylwyr.
Nawr, rydym wedi gwrando ar y prif weithredwr a chadeirydd y bwrdd yn rhoi sicrwydd fod adolygiad Grant Thornton wedi mynd i graidd problemau Cyfoeth Naturiol Cymru, a bydd yn fan cychwyn ar gyfer ailadeiladu sylfaenol. Fodd bynnag, rydym yn parhau'n bryderus na oes gan aelodaeth y bwrdd ddigon o wybodaeth am y sector pren—pwynt a wnaed gan Adam Price yn ystod y cwestiynau ddoe—y credwn fod ei angen yn ddirfawr er mwyn darparu'r mewnwelediad hanfodol a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol i ymdrin â phroblemau Cyfoeth Naturiol Cymru, ac i chwalu'r rhaniadau diwylliannol drwy ddarparu cyswllt hanfodol rhwng y bwrdd a'r is-adran goedwigaeth. Rydym yn parhau'n bryderus ynglŷn ag i ba raddau y mae gan y bwrdd y gymysgedd gywir o sgiliau a gallu sydd eu hangen arno i drawsnewid y sefydliad.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r archwilydd cyffredinol, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn olaf ac yn fwy diweddar, Grant Thornton, wedi craffu ar ddigwyddiadau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd fforensig, gan amlygu nifer o ddiffygion sylfaenol ac amheuon o'r radd fwyaf, a diolch i'r prif weithredwr presennol, mewn gwirionedd, fod yr adolygiad hwnnw wedi'i gomisiynu yn y ffordd y gwnaethpwyd. Ond mae un cwestiwn yn aros: lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod drwy gydol y broses hon? Pe bai hwn yn fwrdd iechyd, efallai y byddem wedi gweld y sefydliad yn cael ei wneud yn destun mesurau arbennig fel mater o frys, ac eto am y tair blynedd diwethaf, fwy neu lai, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi parhau i weithredu allan o reolaeth er i'w gyfrifon gael eu cymhwyso dair blynedd yn olynol ac er i'w drefniadau llywodraethu gael eu tanseilio'n llwyr a'u cwestiynu, heb sôn am y miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus a gamreolwyd.
Pan sefais yn y Siambr hon fis Gorffennaf diwethaf i fynegi pryderon difrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, fel oedd y teitl bryd hynny yn falch fod Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn ymateb i gymhwyso cyfrifon 2015-16, wedi cyfaddef, wrth edrych yn ôl, y byddent wedi ymdrin â phethau mewn ffordd wahanol. Ychwanegodd y Gweinidog fod yr argymhellion yn ein hadroddiad 2017 yn fater ar gyfer y swyddog cyfrifyddu a bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf. Fe'i sicrhawyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi sefydlu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan yr archwilydd cyffredinol, ac mai rôl Llywodraeth Cymru fyddai cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru yn y gwaith yr oedd angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau cadarn yn eu lle ar gyfer y dyfodol.
Dywedwyd wrthym hefyd fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer cyrff hyd braich yng Nghymru, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru, fel corff hyd braich, yn cael ei lywodraethu gan gytundeb fframwaith cadarn sy'n adlewyrchu'r egwyddorion a nodwyd yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'.
Yn ystod ein gwaith craffu cychwynnol, gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru am ddiffiniad manylach o'r termau 'newydd', 'dadleuol', ac 'yn arwain at sgil effeithiau' yn eu fframwaith llywodraethu presennol. Gwnaethpwyd y cais hwn yn benodol i fynd i'r afael ag argymhelliad yr archwilydd cyffredinol fod y contractau pren yn newydd, yn ddadleuol ac yn arwain at sgil effeithiau, ac felly y dylent fod wedi cyflwyno eu cynigion i'r adran yn Llywodraeth Cymru sy'n noddi'r corff yn unol â'r fframwaith llywodraethu presennol. Dywedwyd wrth y Siambr hon, fel rhan o'r adolygiad presennol o gyrff hyd braich, y rhoddir ystyriaeth i ddarparu mwy o eglurder ynghylch y materion hyn.
Fodd bynnag, er gwaethaf hyn i gyd, ychydig sydd wedi newid, mae'n ymddangos, gan arwain at gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18, gyda'r archwilydd cyffredinol yn seilio'i farn gymhwyso ar gynnig Cyfoeth Naturiol Cymru i ymrwymo i gontractau trosiannol yr ystyriai eu bod yn newydd, yn ddadleuol a/neu'n arwain at sgil effeithiau. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi hysbysu Llywodraeth Cymru ynglŷn â'i fwriad i gyflwyno trefniadau trosiannol, mae'n destun pryder na chawsant eu cyfeirio'n ffurfiol ganddo at Lywodraeth Cymru yn ôl y gofyn. Ymddengys na weithiodd ymagwedd ymddangosadol hyd brach Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn, ac er cael sicrwydd ar ôl sicrwydd, nid oes dim wedi newid gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
I wneud pethau'n waeth, amlygodd adolygiad Grant Thornton y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno ffurflen gontract newydd a gwahanol, gwerthiannau sefydlog plws, yn ystod 2016, sy'n codi pryderon difrifol iawn ynghylch cyflwyno, monitro a rhoi cyfrif am y contractau newydd hyn. Mae'r contractau hyn yn anarferol, a chredwn eu bod yn creu goblygiadau posibl mewn perthynas â barn yr archwilydd cyffredinol ar reoleidd-dra cyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2018-19. Mae'r contractau'n berthnasol i oddeutu un rhan o chwech o werthiannau pren blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n naturiol ein bod yn poeni bod hyn yn golygu bod yna risg bosibl y bydd cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cymhwyso am bedwaredd flwyddyn yn olynol. Nawr, does bosib nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru roi camau mwy cadarnhaol ar waith i gefnogi ac i fynd i'r afael â phroblemau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Hefyd, drwy ei waith, mae'r pwyllgor wedi ystyried adolygiad mewnol Llywodraeth Cymru o'r trefniadau'n ymwneud â chyrff hyd braich, a arweiniodd at gynllun gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018. Cawsom ohebiaeth hefyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol i'r pwyllgor yn ôl ym mis Medi y llynedd a ddarparai ragor o wybodaeth ar yr adolygiad, ymysg trefniadau newydd eraill sydd ar y gweill. Mae'r llythyr yn nodi, ac rwy'n dyfynnu:
Cael gwared ar y 'Gweithdrefnau Galw i Mewn' h.y. gofyniad i'n Cyrff Hyd Braich atgyfeirio atom am gymeradwyaeth ar gyfer categorïau penodol o benderfyniadau, megis tendrau unigol uwchlaw trothwy penodedig neu faterion sy'n newydd ac yn ddadleuol.
Rydym wedi cwestiynu Llywodraeth Cymru ymhellach ynghylch cael gwared ar y weithdrefn galw i mewn a sut y byddai materion megis y rhai a ddigwyddodd o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu nodi yn y dyfodol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrthym, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu:
mai dyna oedd un o ganlyniadau cadarnhaol yr adolygiad o gyrff hyd braich, i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi arweiniad clir iawn a mwy o gefnogaeth iddynt. Rydym yn cyfathrebu'n fwy rheolaidd â hwy, rydym yn nodi canllawiau clir iawn ynghylch disgwyliadau sydd gennym, ac fel y dywedais, yn dod â hwy ynghyd dair gwaith y flwyddyn ar gyfer y fforwm hwn er mwyn trafod blaenoriaethau a rhannu arferion gorau, yn y bôn, o ran sut y gallwn reoli arian cyhoeddus yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn symud tuag at system o roi mwy o annibyniaeth i gyrff hyd braich ar adeg pan fo un o'i chyrff mwyaf mewn cyfyngder, ac wedi methu rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am broblemau difrifol, neu ar y gorau, wedi methu glynu at reolau a gweithdrefnau llywodraethu. Teimlwn y bydd y dull newydd hwn o weithredu yn lleihau'r cyfleoedd i ddarparu sicrwydd angenrheidiol ynghylch gweithredoedd cyrff hyd braich.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid aros i weld beth sy'n digwydd nesaf i Cyfoeth Naturiol Cymru o dan ei arweinyddiaeth newydd, ond mae'n amlwg fod pryderon difrifol o hyd ynghylch trefniadau llywodraethu mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru a'r modd y mae'n gweithredu fel sefydliad. Nid yw'n glir eto i unrhyw un sut y caiff newid ei gyflwyno, ac mae'r dasg o'u blaenau'n aruthrol, ond mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr holl offer sydd ei angen arno bellach i wneud y gwaith o drawsnewid y sefydliad, a darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Byddwn yn rhoi'r amser a'r lle sydd ei angen arnynt yn awr i'r sefydliad a'i arweinwyr allu cyflawni newid, ond byddwn yn gofyn am ddiweddariad ar ddiwedd y flwyddyn.
Dengys yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn sefydliad nad yw'n addas at y diben. Cyfoeth Naturiol Cymru yw cwango mwyaf Cymru. Mae'n gyfrifol am unrhyw beth o ddiogelu cynefinoedd a bywyd gwyllt, coetiroedd, monitro ansawdd dŵr a pherygl llifogydd i reoleiddio gorsafoedd pŵer a safleoedd prosesu gwastraff. Fel y dywedodd Nick Ramsay yn gynharach, mae'n ddigynsail ac yn annerbyniol fod sefydliad mor bwysig wedi cael ei gyfrifon wedi'u cymhwyso am dair blynedd yn olynol. Ac mae'n dangos pa mor ddall y gall un Lywodraeth fod.
Roedd y pwyllgor yn ei chael h'n anodd dod o hyd i unrhyw esboniad rhesymegol pam y caniataodd Cyfoeth Naturiol Cymru i'r sefyllfa hon godi. Ni allech ond dod i'r casgliad nad oedd eu mesurau rheoli mewnol yn addas at y diben, neu eu bod yn israddol yn bendant. Yr hyn sy'n peri pryder arbennig yw bod yr un materion ynghylch afreoleidd-dra wedi cael sylw dair blynedd yn ôl. Ar y pryd, mynegodd yr archwilydd cyffredinol bryder nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru i'w gweld yn derbyn yn llwyr ei feirniadaeth o'u gweithredu mewn perthynas â dyfarnu contractau hirdymor a'u bod yn ceisio bychanu arwyddocâd y feirniadaeth honno. Dangosir hyn gan y dadlau ynglŷn â sut y câi pren ei werthu, dro ar ôl tro, heb fynd i farchnad agored. Anwybyddwyd y rheolau masnachu teg yn gyfan gwbl yn yr achos hwn. Arweiniodd y sgandal at golli o leiaf £1 filiwn i drethdalwyr Cymru ac at ymddiswyddiad cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru—sefyllfa a ddisgrifiwyd gan un Aelod Llafur o'r Cynulliad ar y pryd, a dyma'i ddyfyniad:
mae angen atebolrwydd gan uwch-arweinwyr y sefydliad hwn sydd i'w weld fel pe bai allan o reolaeth.
Gwelwyd colli ffydd ar raddfa eang o ganlyniad i hynny yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ddiweddar, anfonodd deg o gwmnïau pren lythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru yn dweud nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli coedwigaeth yng Nghymru. Roeddent yn honni bod 12,000 o swyddi yn yr economi wledig a £100 miliwn o fuddsoddiad newydd dros y pum mlynedd nesaf mewn perygl. Roedd y cwmnïau hyn wedi dod i'r casgliad nad oedd ganddynt hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu gwasanaeth masnachol hyfyw, cynaliadwy ac wedi'i lywio gan egwyddorion economaidd.
Mae'n ymddangos bod y diffyg hyder hwn yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei adlewyrchu yn agwedd ei staff. Cafodd canlyniad ymarfer ymgynghori i staff mewnol ar ailstrwythuro'r sefydliad ei ryddhau'n answyddogol i'r BBC ym mis Rhagfyr y llynedd. Roedd bron ddwy ran o dair o staff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Ddirprwy Lywydd, o'r rhain, roedd 62 y cant yn cytuno bod angen newid ond yn gryf yn erbyn y cynllun ac yn hynod feirniadol o'r broses. Mynegwyd pryderon hefyd na fyddai'r strwythur newydd yn darparu gwasanaeth addas ar gyfer pobl ac amgylchedd Cymru. Byddai'r arbenigedd wedi'i daenu'n rhy denau a soniai'r staff am y lefelau straen uchel gyda phobl yn teimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi'n llawn, a'u bod yn ddiwerth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cam â phobl Cymru mewn ffordd systematig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud yn glir y byddem yn cael gwared ar Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn creu dau gorff ar wahân yn ei le: un i ymdrin â dyletswyddau rheoleiddio a gyflawnir gan y sefydliad a'r llall i ymdrin â'i agweddau masnachol. Gallwn i gyd gytuno na ellir caniatáu i'r sefyllfa bresennol barhau.
Mae'r pwyllgor wedi gwneud tri argymhelliad. Derbyniwyd tri gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma'r cyfle olaf i Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma eu cyfle olaf i wneud y newidiadau sydd eu hangen i gyflawni gwerth am arian i'r trethdalwr ac i sicrhau amddiffyniad effeithlon ac effeithiol i'r amgylchedd yng Nghymru a rhoi ffydd arian cyhoeddus mewn sefydliad. Diolch.
Dwi’n diolch i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ei adroddiad. I fi, mae e’n codi dau gwestiwn llawer mwy sylfaenol, efallai, na rhai o’r manylion rŷn ni wedi bod yn eu trafod. Mae’r ddau yn gwestiynau—un yn ymwneud, wrth gwrs, â sgôp cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r llall yn ymwneud â gallu neu gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro’r cyfrifoldebau hynny.
Nawr, mae sgôp y cyfrifoldebau wrth gwrs yn rhywbeth rŷn ni wedi ei wyntyllu o’r dyddiau cynnar cyn creu Cyfoeth Naturiol Cymru. Hynny yw, gallu’r corff neu beidio i chwarae rôl fasnachol a rôl reoleiddiol ar yr un pryd. Dwi’n cofio’r term Chinese walls yn cael ei ddefnyddio’n amlach fan hyn nag yn unlle arall ar un adeg pan oedd y drafodaeth honno yn digwydd. Ac mae yna nifer o leisiau o’r dyddiau hynny hyd nawr wedi bod yn cwestiynu a ydy hynny yn addas, ac un eto yn y Western Mail y bore yma—John Owen Jones, cyn-Weinidog yn Swyddfa Cymru, neu'r Swyddfa Gymreig fel yr oedd hi, a chadeirydd olaf y Comisiwn Coedwigaeth yma yng Nghymru—yn disgrifio creu Cyfoeth Naturiol Cymru fel enghraifft glasurol o wneud polisi sâl, a dim digon o drafod â’r sector coedwigaeth, meddai fe, wrth i’r ymrwymiadau maniffesto gael eu gwneud. Wel, ŷch chi’n gwybod, rwy’n gwybod bod yna wahaniaeth barn, ond mae’n dweud rhywbeth pan ŷn ni’n dod i bwynt, fel y gwnaethon ni’r mis diwethaf, pan oedd Confor, ar ran y sector, yn datgan diffyg hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro ei waith fel y bydden ni am weld iddyn nhw ei wneud.
Ac, wrth gwrs, mae’r datganiad o ddiffyg hyder hwnnw’n arwyddocaol iawn, fel rŷn ni wedi clywed. Maen nhw’n cyflogi’n uniongyrchol 4,000 o bobl, yn anuniongyrchol yn cefnogi 12,000 o swyddi yn yr economi wledig, ac yn cyfrannu £40 miliwn o refeniw gwerthiant coed i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae’r sector yn galw am gymryd yr elfen goedwigaeth fasnachol yna oddi ar Gyfoeth Naturiol Cymru a chreu endid ar wahân o fewn Llywodraeth Cymru. I fi, mae hynny’n ddigon inni ofyn y cwestiwn, inni gymryd cam yn ôl, ac inni edrych—ydy hi felly yn werth inni gael rhyw fath o ymchwiliad annibynnol? A does dim eisiau inni fod ofn gwneud hynny. Mae’n berffaith ddilys inni ofyn y cwestiwn. Bum mlynedd i mewn i fodolaeth y corff yma, oes yna wersi y dylen ni fod yn eu dysgu ac a ddylen ni fod yn ailedrych ar eu cyfrifoldebau nhw? Ac os ydy’r ymchwiliad yn canfod bod angen newid, wel mae yna le i ymchwiliad hefyd awgrymu modelau amgen. Neu os oes yna ganfyddiad ei fod e yn dderbyniol, wel, wrth gwrs, wedyn mae angen adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi cychwyn—a dwi’n cydnabod hynny o ran Cyfoeth Naturiol Cymru—i ailadeiladu perthynas â’r sector.
Felly, dyna ni gyffwrdd â sgôp y cyfrifoldebau. Wedyn, wrth gwrs, mae’r isiw parhaol yma o gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelifro cyfrifoldebau yn y maes yma. Mae wedi cael, fel corff, toriad o 35 y cant i ariannu, mewn termau real, ers cael ei sefydlu: traean o’i gyllideb—y non-flood grant in aid, os dwi’n cofio’n iawn, yw’r term—wedi cael ei golli mewn cwta pum mlynedd. Ac, wrth gwrs, ar yr un pryd, rŷn ni wedi gweld cyfrifoldebau yn cynyddu trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, trwy ehangu'r rheoliadau yn ymwneud â’r reservoirs yng Nghymru, sydd yn dod â chostau sylweddol, heb sôn am Brexit a’r rhyferthwy fydd yn wynebu Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyd-destun hynny. Ac maen nhw ar trajectory cwbl anghynaladwy, rhwng cyllideb a chyfrifoldebau—cyfrifoldebau yn ehangu, cyllidebau yn crebachu. Dyw e ddim yn gweithio, dyw e ddim yn gynaliadwy.
Nawr, mae dyraniad y cymorth grant nad yw ar gyfer llifogydd gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 5 y cant yn y flwyddyn ariannol hon, a dilynodd hynny—[Torri ar draws.] O, ewch ymlaen.
Mewn gwirionedd, mae'n 3.7 y cant. Gwelsom hynny yn y pwyllgor amgylchedd heddiw.
Wel, rwy'n dyfynnu ffigur y pwyllgor amgylchedd y bore yma. Mae i lawr 5 y cant yn y flwyddyn ariannol gyfredol hon, nid yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dyna lle rydym yn gwahaniaethu ar y ffigur hwnnw. Ond mae hynny'n erbyn setliad gwastad y llynedd hefyd—dyna ni, rydych wedi fy nrysu i nawr hefyd—y flwyddyn ddiwethaf. Felly, gwyddom yn union beth yw'r sefyllfa. Ac mae'r anawsterau hynny bellach yn cael eu rheoli, wrth gwrs, drwy ostyngiadau parhaus yn y costau gweithredu, mae wedi gweld cynllun ailwerthuso swyddi sydd wedi arwain at 50 yn llai o staff ac wrth gwrs, gwelsom yr adolygiad cyfan o’r sefydliad yn digwydd mor fuan wedi i'r holl ad-drefnu ddigwydd, gallwn ddweud, a fydd yn golygu y caiff gwasanaethau eu hailgyflunio yn y ffordd y cânt eu darparu. Bydd rhai gwasanaethau yn gweld darpariaeth arafach ac ni chaiff rhai eu darparu o gwbl. Ac mae un cwestiwn arall sylfaenol i Lywodraeth Cymru i orffen: mae'n rhaid ichi benderfynu, a ydych chi wir eisiau sefydliad sy'n gweithredu'n briodol, sy'n cael ei ariannu'n briodol sy'n hyrwyddo ac yn cynorthwyo i sicrhau cynaliadwyedd yng Nghymru, neu a fydd yn brin o'r adnoddau sydd eu hangen arno i wneud ei waith? Ac yn hyn oll, cofiwch am y staff, ased mwyaf y sefydliad—maent yn gwneud gwyrthiau mewn amgylchiadau anodd tu hwnt.
Rwy'n gwybod bod llawer o bobl yn dweud bod uno'r tri sefydliad yn rhwym o fethu, ond nid wyf yn un o'r bobl hynny; nid wyf yn cytuno â John Owen Jones. Yn wir, rwy'n credu bod y ffordd y cafodd ei wneud yn amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni ddysgu oddi wrtho, ond mewn gwirionedd, mae cryfder mawr mewn dod â gwahanol swyddogaethau'r corff amgylcheddol hwn at ei gilydd mewn un sefydliad, ac rwy'n gobeithio ei fod yn mynd i weithio yn awr.
Y rheswm pam y credaf fod angen iddynt fod mewn un sefydliad yw bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni edrych ar ein holl gyfrifoldebau amrywiol yn gyfannol fel ein bod yn deall am liniaru newid hinsawdd, ein bod yn deall sut y gallwn ddefnyddio ein coedwigoedd i weithredu fel sinc carbon, yn ogystal ag ar gyfer bioamrywiaeth, yn ogystal â chreu digon o bren i adeiladu tai priodol yn amgylcheddol y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol, er enghraifft, yn ogystal â manteisio ar y nwyddau cyhoeddus gwych y cawsom ein bendithio â hwy yng Nghymru, sef drwy ynni adnewyddadwy, sy'n ein galluogi i leihau unrhyw ddibyniaeth ar garbon ar gyfer cynhyrchu ynni. Gallem hefyd ddefnyddio hwnnw fel rhywbeth i’w allforio. Felly, credaf fod yna bosibiliadau mawr i Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â heriau, yn amlwg, i unioni'r camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol.
Yn amlwg, roedd trefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwbl annigonol, a dyna un o'r pethau lle rwy'n meddwl y bydd angen inni fyfyrio o ddifrif ar sut yr oedd gennym fwrdd nad oeddent yn deall yn union beth oedd eu gwaith. Rwy'n falch o ddweud bod yr archwiliad mewnol a'r pwyllgor sicrhau risg wedi gwneud adolygiad a oedd yn hynod o boenus, rwy'n siŵr, o’r modd y gwnaethant weithredu, neu na wnaethant weithredu, a chredaf fod rhywfaint o dystiolaeth nad oeddent wedi cael y wybodaeth oedd ei hangen arnynt, ond nid oedd ganddynt unrhyw synnwyr o ymchwiliad i dreiddio ychydig yn ddyfnach chwaith, yn hytrach na chymryd pethau fel yr oeddent ar yr wyneb.
Mae ganddynt gadeirydd newydd ar y pwyllgor archwilio a sicrhau risg bellach, a theimlaf yn sicr fod y grŵp o bobl sydd wedi wedi'u dwyn ynghyd ar lefel uchel iawn i oruchwylio lefel y newid sy'n ofynnol i sicrhau nad yw'r contractau pren hyn byth yn cael eu cynnwys mewn ffordd amhriodol yn y dyfodol yn mynd i fynd at wraidd hynny. Ond cytunaf fod angen inni edrych ymlaen i wneud yn siŵr nad oes problemau'n codi mewn cyfeiriad gwahanol am ein bod wedi datrys y ffordd rydym yn rheoli ein hasedau pren.
Gwn fod nifer o bobl yn dweud—. Dywedodd Nick Ramsay, 'Wel, efallai eu bod angen arbenigwr ar bren ar y bwrdd.' Wel, nid wyf yn siŵr eu bod, oherwydd pe bai gennych arbenigwr ar bren ar y bwrdd, byddai marc cwestiwn ar unwaith ynglŷn â'r posibilrwydd o fuddiant personol i achosi gwrthdaro. Pe baent yn rhywun a fyddai wedi dod o gyfandir arall gyda phrofiad o gontractau pren, efallai, cyn belled â'u bod bellach wedi gadael y busnes. Ond credaf y byddai rhywun sydd â phrofiad o osod contractau mawr yr un mor bwysig. Nid oes ots mewn gwirionedd beth yw'r cynnyrch, mae'n ymwneud â gwybod bod gennych arbenigedd cyfreithiol ac ariannol i ddeall gwerth beth bynnag y ceisiwch ei fasnachu a sicrhau y gwneir hynny mewn ffordd sy'n bodloni ein rhwymedigaethau o dan reoliadau Ewropeaidd, yn ogystal â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol inni ei wneud.
Felly, ar y lefel sylfaenol, buaswn yn cytuno bod yna lawer o bobl wych yn rheng flaen Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gwneud gwaith gwych, ac nid oes ond rhaid i chi gofio'r mannau yr ymwelsom â hwy lle y cyfarfuom â'r bobl ar lawr gwlad sy'n hynod o frwdfrydig ynglŷn â'r hyn y maent yn ei wneud. Ar ôl treulio llawer o amser gydag uwch-arweinwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos hon, yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y bore yma, rwy'n credu bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i drawsnewid y sefyllfa hon a'i gwneud yn llwyddiant. Felly, nid wyf yn meddwl bod angen ymchwiliad annibynnol ar hyn o bryd. Pe baent yn methu, yn amlwg, gallai hynny fod yn fater gwahanol, ond mae gennyf hyder yn y prif weithredwr presennol a'r cadeirydd, ar ôl eu gweld yn gweithredu, yn ogystal â'r cyfarwyddwr adnoddau a oedd gyda ni yn y bore yma. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn edrych ymlaen at yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn sefydliad pwysig tu hwnt ar gyfer sicrhau y gall Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o'n hadnoddau naturiol gwych ac nid eu gweld yn cael eu gwastraffu.
Wel, yn sicr mae'r adroddiad hwn gan y pwyllgor ac yn wir, yr adroddiad Grant Thornton dilynol ac adroddiadau blaenorol gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi datgelu—sut mae dweud—methiant systemig, mewn gwirionedd, o safbwynt rheolau cyffredin llywodraethu ac archwilio, ac arweinyddiaeth yn fwy cyffredinol, rwy'n credu, ac mae yna broblemau o ran capasiti yn ogystal, fel y dywedodd Llyr Gruffydd. Ond credaf eu bod hefyd wedi dangos sector sydd mewn argyfwng dybryd. Credaf fod rhai o wreiddiau'r argyfwng hwnnw'n gorwedd—neu wedi bod, ar sail y dystiolaeth—yn y trefniadau uno hyd yn hyn. A buaswn yn anghytuno bod arbenigedd pwnc ar y bwrdd yn amherthnasol, oherwydd byddai'n anodd dychmygu, er enghraifft, yn nyddiau'r Comisiwn Coedwigaeth, neu yn wir yn y Comisiwn Coedwigaeth yn Lloegr a'r Alban yn awr, nad oes yno gomisiynwyr coedwigaeth sy'n gwybod rhywbeth am goedwigaeth. Oes, mae gennych sgiliau eraill yno, ond yn sicr byddai gennych bob amser bobl a oedd yn meddu ar wybodaeth ddofn yn y maes. Ac yna mae'r problemau gyda gwrthdaro buddiannau'n cael sylw yn hynny o beth, fel y maent ym mhob sector neu achos arall. [Torri ar draws.] Iawn.
Ond does bosib na allwch gael yr arbenigedd hwnnw drwy gyfarwyddwr coedwigaeth neu gyfarwyddwr rheoli tir, sy'n swyddog gweithredol yn hytrach na pherson anweithredol y mae angen iddo gyflwyno sgiliau ehangach.
Rwy'n anghytuno. Ym mhob achos, mae angen i aelodau anweithredol hefyd allu gofyn cwestiynau da er mwyn cyflawni eu swyddogaeth her feirniadol, ac o sylfaen wybodaeth yn unig y gallant wneud hynny, ac mae hynny wedi bod yn brin yn yr achos hwn.
Mae'n sector pwysig yn economaidd. Mae'n fwy mewn gwirionedd o ran gwerth ychwanegol nag amaethyddiaeth ac yn wir, o ran yr economi wledig, mae ei bwysigrwydd hyd yn oed yn fwy arwyddocaol. O ran lleihau newid yn yr hinsawdd, mae'n gwbl ganolog, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ymestyn ei tharged, wrth gwrs, mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, i 4,000 hectar. Fel y nodais mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae hwn yn un o'r meysydd perfformiad gwaethaf yn erbyn unrhyw darged Llywodraeth. Felly, roedd y targed yn golygu plannu 2,000 hectar y flwyddyn o goetir newydd. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn cyflawni 200 hectar, rwy'n credu. Mewn gwirionedd, y pedair blynedd ddiwethaf yw'r pedair blynedd waethaf o blannu coetir newydd ers 1971. Mae cyfraddau ailstocio—maent ar eu gwaethaf ers 1990. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ei banc tir ei hun—y creithiau a welwch ar dirwedd Cymru yn awr o ardaloedd sydd wedi'u cwympo ond heb eu hailstocio. Mae ganddynt 6,000 hectar heb eu hailstocio ar hyn o bryd. Dyna werth pedair blynedd o gynhyrchiant. Y rheswm pam eu bod wedi cyflwyno'r contract gwarthus 'gwerthiannau sefydlog plws' yn 2016 oedd oherwydd nad oedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyllid i allu adeiladu'r seilwaith nac ailstocio eu hunain, ac felly roedd y contractau hyn i fod i gael eu defnyddio fel mecanwaith iddynt allu cynaeafu coed ac ailstocio am y gost leiaf. Wel, mae'n amlwg nad yw wedi gweithio; mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain. Ac wrth gwrs, os edrychwch tua'r dyfodol, mae'n waeth hyd yn oed, am mai'r rhagfynegiad cyfredol yw bod 47 y cant yn llai o bren meddal yn mynd i fod ar gael yng Nghymru dros y 25 mlynedd nesaf.
Daw'r tangyflawniad hwn yn y sector ar adeg pan fo prisiau pren yn uwch nag y buont ers 30 mlynedd. Pam? Yn rhannol oherwydd y galw gan fiomas wrth gwrs, ac felly mae pawb yn y sector yng Nghymru—dyna pam y mae'r Gweinidog wedi cael y llythyr hwn gan y 10 cwmni dan sylw—yn dweud, 'Edrychwch, gallem ddatblygu'r diwydiant hwn; mae'n adnodd anferth i Gymru,' ac eto rydym yn tangyflawni'n enbyd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun ar hyn o bryd yn cynhyrchu 800,000 o dunelli y flwyddyn. Mae'r ffigur hwnnw ar fin disgyn 34 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf i 531,000 tunnell, ac mae'n gwbl ddiangen. Beth bynnag yw'r ateb strwythurol i'r cwestiwn hwn—ac efallai y bydd gennym farn wahanol ar hynny yn y Siambr hon—a gawn ni gyfaddef o leiaf fod methiant hollol allweddol wedi bod yn y maes polisi cyhoeddus hwn? Mae'n bwysig yn economaidd, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, ond mae hefyd yn effeithio ar ein gallu i gyrraedd targed arall y Llywodraeth ei hun ar newid hinsawdd, ac yn y bôn, y Gweinidog a ddylai gymryd cyfrifoldeb yn hyn o beth.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodoli i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, i warchod ein hamgylchedd, i ddiogelu ein treftadaeth naturiol ac i orfodi amddiffyniadau amgylcheddol. Yn anffodus, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gamweithredol, fel yr amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am gynhyrchu eu hadroddiad, ac am y ffaith y byddant yn cadw llygad barcud ar y sefydliad dros y flwyddyn sydd i ddod.
Yn wyneb trychineb ecolegol byd-eang, mae diogelu'r amgylchedd a chadwraeth natur yn rhai o dasgau pwysicaf llywodraeth. Nid oedd y penderfyniad i uno swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth yn anghywir, ond roedd eu troi'n fawr mwy nag adran o'r Llywodraeth sydd wedi'i thanariannu a heb ddigon o adnoddau yn anfaddeuol.
Mae newid hinsawdd yn bygwth ein bodolaeth, ac fel yr amlygwyd gan adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ddoe, mae llunwyr polisi a gwleidyddion wedi methu deall difrifoldeb yr argyfwng amgylcheddol sy'n ein hwynebu. Felly mae'n hanfodol fod gennym sefydliadau—hyd braich oddi wrth y Llywodraeth os yn bosibl—a all ddiogelu ein hamgylchedd a gwarchod ein bioamrywiaeth.
Mae mesur sy'n asesu pa mor iach yw bioamrywiaeth gwlad yn awgrymu bod y DU wedi colli cryn dipyn yn fwy o natur yn hirdymor na'r cyfartaledd byd-eang. Mae'r mynegai'n awgrymu ein bod ymhlith y gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd. Yn ôl adroddiad cyflwr natur yr RSPB, rhwng 1970 a 2013, mae 56 y cant o rywogaethau wedi gweld gostyngiad, gyda 40 y cant ohonynt yn dangos gostyngiad mawr neu gymedrol. O'r bron i 8,000 o rywogaethau a aseswyd drwy ddefnyddio meini prawf modern y rhestr goch, mae 15 y cant wedi diflannu neu dan fygythiad o ddiflannu o Brydain. Rydym yn colli oddeutu 2 filiwn tunnell o uwchbridd yn sgil erydu bob blwyddyn yn y DU.
Rwy'n sylweddoli mai dadl am gyfrifon ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru yw hon, ond mae'n bwysig amlinellu maint yr heriau sy'n wynebu'r sefydliad a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn amddiffyn ein gwlad. Mae'r ffaith bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol yn bwrw amheuaeth ynglŷn â'u rheolaeth ariannol ac yn codi cwestiynau ynglŷn â'u gallu i warchod ein bioamrywiaeth a diogelu yn erbyn newid hinsawdd.
Mae gwaith y pwyllgor ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn tynnu sylw at broblemau llywodraethu lluosog Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n cefnogi argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn llawn. Mae'r ffaith ei bod wedi cymryd cyhyd i Lywodraeth Cymru weithredu yn wyneb diffygion difrifol Cyfoeth Naturiol Cymru yn golygu bod yr adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru ymhell ar ei hôl hi a rhaid ei wneud yn gyhoeddus. Croesewir y ffaith y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cadw golwg ar ddiwygiadau Cyfoeth Naturiol Cymru, ond o gofio pwysigrwydd rôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n hanfodol ein bod yn cael adolygiad, nid yn unig o drefniadau llywodraethu'r sefydliad, ond ei gylch gorchwyl cyfan hefyd, i sicrhau ei fod yn addas at y diben. Mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i gamdrafod contractau pren. Mae swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru yn allweddol i'n gwlad. Rhaid inni sicrhau bod y sefydliad yn cael y cyllid cywir, yr adnoddau priodol a'r staff gorau er mwyn cyflawni'r swyddogaethau hynny. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch ichi am y cyfle i ymateb yn ystod y ddadl hon heddiw. Gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dri argymhelliad yn dilyn eu gwaith craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i'r ddau argymhelliad cyntaf. Ysgrifennais at y pwyllgor ar 11 Ionawr yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunais i ystyried canfyddiadau'r adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd a'r dystiolaeth a roesant i'r pwyllgor yn gynharach yr wythnos hon.
Croesawaf adroddiad y pwyllgor a'i waith yn herio Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu cynnal a'u gwella yn awr ac yn y dyfodol. Rwyf am roi fy sicrwydd fod Llywodraeth Cymru yn gwbl barod i fynd i'r afael â'r materion a ddisgrifir yn adroddiad y pwyllgor. Rydym yn benderfynol o weld y newidiadau angenrheidiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac o ddysgu gwersi. Rydym yn cydnabod ac yn croesawu rôl y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar y broses hon ac yn gwneud ei gyfraniad i sbarduno'r newid hwnnw.
Ers i'r archwilydd cyffredinol gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yr haf diwethaf, rwyf wedi penodi cadeirydd dros dro a chwe aelod newydd o'r bwrdd. Mae'r newidiadau hyn i'r bwrdd yn golygu y bydd y cyflenwad llawn o gryfderau'r aelodau a fu yno hiraf wedi'i gyfuno â'r aelodau newydd yn sicrhau bod gennym y cymysgedd o brofiad a gwybodaeth sydd ei angen i sicrhau arweinyddiaeth gref ar gyfer sefydliad mawr a chymhleth. Yn wir, yn ystod sesiwn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun, amlinellodd y cadeirydd dros dro yr effaith gadarnhaol yr oedd arweinyddiaeth y bwrdd newydd eisoes yn ei gynnig i Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn ei sylwadau, credaf fod y Cadeirydd, Nick Ramsay, wedi cyfeirio at y newid y mae'r arweinyddiaeth newydd yn ei wneud i'r sefydliad bellach.
Rwyf wedi siarad yn fanwl â'r prif weithredwr am yr adolygiad annibynnol o weithrediadau coedwigaeth masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru, a gyflawnwyd gan Grant Thornton. Rwy'n fodlon ei bod hi a'r cadeirydd dros dro yn dangos arweiniad cryf ar unioni pethau yn y sefydliad. Mae'r sefydliad yn derbyn canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Grant Thornton ac yn gwneud cynnydd cyflym ar eu gweithredu. Byddant yn rhoi gwybod i mi am eu cynnydd ar y rhain yn ein cyfarfodydd rheolaidd. Mae'r adroddiad, sydd ar gael i'r cyhoedd, yn sbardun pwerus ar gyfer newid. Mae'r newidiadau angenrheidiol i reoli contractau a nodir yn yr adroddiad yn galw am frys arbennig. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael cyngor gan yr asiantaethau priodol i'w helpu gyda hyn. Lle mae Grant Thornton wedi awgrymu bod angen ymchwilio ymhellach i broblemau, maent wedi fy sicrhau bod eu tîm archwilio mewnol yn gwneud hynny.
Yn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wythnos hon, dywedodd y prif weithredwr fod eu tîm archwilio mewnol yn adolygu'r contractau sy'n weddill ac sydd heb eu cynnwys yn adolygiad Grant Thornton. Bydd canlyniadau'r rhain ar gael i'w pwyllgor archwilio a sicrhau risg, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru.
Ddoe, cyfarfûm â chynrychiolwyr y Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd. Maent wedi dweud wrthyf eu bod yn barod i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ac yn hyderus fod yna atebion clir i'r pryderon a fynegwyd ganddynt yn y gorffennol. Caf sicrwydd o fy nhrafodaethau gyda'r Cydffederasiwn a Cyfoeth Naturiol Cymru ein bod bellach mewn sefyllfa gryfach i weld y sector coedwigaeth yn cyflawni hyd yn oed mwy o werth i economi Cymru a gall y diwydiant wneud cyfraniad mwy byth i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol.
Hoffwn atgoffa'r Aelodau—a Mohammad Asghar yn enwedig—fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gynnal gan lawer o staff gweithgar ac ymroddedig ar draws y wlad gyfan, ac maent yn haeddu ein parch. Roeddwn yn siomedig iawn eich clywed yn dweud eu bod wedi gwneud cam â phobl Cymru. Ar adegau, mae'r trafodaethau cyhoeddus ynghylch heriau mewn un rhan o waith Cyfoeth Naturiol Cymru wedi anwybyddu'r ffaith bod y sefydliad yn cyflawni rhai o'n cyfrifoldebau mwyaf sylfaenol i bobl Cymru.
Heddiw, a phob dydd o'r flwyddyn, mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn diogelu cartrefi pobl rhag effeithiau dinistriol llifogydd, maent yn mynd i'r afael â melltith gwastraff anghyfreithlon, maent yn gwarchod ein rhywogaethau brodorol mwyaf agored i niwed rhag difodiant. Maent yn gwneud gwaith rhagorol—fel y nododd Llyr Huws Gruffydd a Jenny Rathbone—yn aml mewn amgylchiadau heriol iawn, ac rwy'n annog yr Aelodau i fanteisio ar y cyfle i ddangos eu gwerthfawrogiad, a hoffwn gofnodi fy niolch diffuant iddynt.
Yn dilyn y sylwadau a wnaeth fy nghyd-Aelod, Llyr Gruffydd, credaf y byddai pawb ohonom yn cydnabod y darlun yr ydych yn ei baentio o'r gwaith rhagorol y mae staff yn ei wneud mewn cyfnod heriol tu hwnt. Ond pa mor hyderus ydych chi fod ganddynt ddigon o adnoddau i wneud hynny? Oherwydd beth am y cwestiwn a ofynnodd Llyr ynglŷn â'r galw ar staff, yn y bôn, i wneud mwy am lai. Gwn mai dyna'r sefyllfa ar draws yr holl sector cyhoeddus yng Nghymru, ond mae hyn mor bwysig.
Rwy'n cytuno. Yn amlwg, dyna'r darlun ar draws y sector cyhoeddus cyfan, ac mae'n gwestiwn rwyf wedi'i ofyn ynglŷn â chapasiti; cyfeiriodd rhai o'r Aelodau at gapasiti a gallu. Yn amlwg, maent wedi cael toriadau yn eu cyllideb. Nid gennym ni yn unig y maent yn cael cyllid, er hynny—credaf y dylid cydnabod hynny—ac rydym wedi gweithio gyda hwy i sicrhau eu bod yn gallu edrych ar gyfleoedd eraill ar gyfer cael arian. Rwyf hefyd wedi gallu rhoi symiau ychwanegol o arian nad ydynt yn enfawr, ond sy'n sylweddol er hynny, ar ben eu cyllideb. Dyna drafodaeth a gefais gyda'r prif weithredwr ddoe. Cyfarfûm â hi eto, ac mae'n fy sicrhau bod hynny'n wir. Ond credaf ei fod yn rhywbeth y mae'n rhaid inni gadw llygad barcud arno.
Gwn fod aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—gwyliais y sesiwn, ac roeddwn yn meddwl ei bod hi'n dda iawn eu bod wedi nodi eu hawydd i fynd i ymweld â Cyfoeth Naturiol Cymru ar lawr gwlad. Gwn fod llawer o'r Aelodau eisoes wedi gwneud hynny. Ond credaf ei fod yn gyfle i weld y gwaith gwych y maent yn ei wneud.
Mae angen inni wneud mwy i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa i gyflawni ei rôl allweddol yn ôl y safonau uchel y mae Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn eu disgwyl. Ni chredaf y byddai ymchwiliad annibynnol o fudd ar hyn o bryd. Yn amlwg, maent newydd fynd drwy adolygiad annibynnol. Mae angen inni edrych ar yr hyn a ddeilliodd o hynny yn gyntaf. Mae gennyf hyder yn y cadeirydd dros dro a'r prif weithredwr. Nid oes gennyf amheuaeth y byddant yn glynu wrth yr ymrwymiadau a wnaethant i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach yr wythnos hon ac y byddant yn cyflawni pob newid sydd ei angen.
Fel y dywedais yn fy ymateb i adroddiad y pwyllgor, rwyf am roi amser yn awr i adolygu'r dystiolaeth a roesant i'r pwyllgor ddydd Llun, ynghyd ag adroddiad Grant Thornton, a byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor gyda fy ystyriaethau erbyn diwedd mis Mawrth.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Fel y gwnaethpwyd yn glir, rwy'n credu bod dau fater sylfaenol yn ganolog i'r ddadl hon heddiw: beth sydd wedi mynd o'i le ar drefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru a faint o amser a gymer i unioni'r sefyllfa.
Mae'r ffaith bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac y cânt eu cymhwyso eto yn y dyfodol, yn dangos y bu diffygion yn y sefydliad, a chredaf y bydd pawb yn derbyn bod angen mynd i'r afael â hwy. Nid yw'n gyfystyr â dweud nad yw staff gweithgar Cyfoeth Naturiol Cymru i'w canmol. Wrth gwrs eu bod. Un peth a gododd dro ar ôl tro i ni fel aelodau o'r pwyllgor oedd pa mor galed y maent yn gweithio a pha mor angenrheidiol yw eu gwaith hollbwysig ledled Cymru. Ond mae'n bwysig, fel y soniodd Helen Mary Jones, eu bod yn cael yr adnoddau angenrheidiol, eu bod yn cael y gefnogaeth honno, felly dyna yw bwriad y ddadl hon a'n hadolygiad.
Rydym yn croesawu'r prif weithredwr a'r cadeirydd newydd. Rhannaf sylwadau'r Gweinidog o ran hynny. Gwnaeth eu hymddangosiad gerbron y pwyllgor argraff fawr arnom. Mae'n amlwg mai etifeddu hyn a wnaethant, a'u gwaith hwy yw ceisio newid y sefydliad. Mae'n mynd i fod yn hanfodol bwysig nad materion gweithredol yn unig sy'n cael eu trawsnewid, ond bod yna newid diwylliannol—newid diwylliannol dwfn yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw wedi digwydd yn y gorffennol. Bydd angen hynny er mwyn mynd i'r afael â hyn yn y dyfodol.
Os ydym yn mynd i gael sefydliad wedi'i greu o uno, rhaid uno diwylliannau'n briodol, a chlywais yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone am y dadleuon cryf o blaid uno sefydliadau yn gorff tebyg i Cyfoeth Naturiol Cymru. Os yw hynny'n mynd i ddigwydd mae angen inni wneud yn siŵr fod cydgysylltu priodol yn digwydd rhwng pob rhan o'r sefydliad newydd hwnnw, oherwydd credaf fod y prif weithredwr a'r cadeirydd wedi dweud wrthym nad oeddent yn teimlo bod hynny wedi digwydd yn y gorffennol. Ymddengys eu bod yn meddu ar y penderfyniad angenrheidiol i ddatrys y problemau. Comisiynwyd adolygiad Grant Thornton ganddynt, ac mae hwnnw'n palu'n ddwfn ac yn amlygu nifer o faterion, ac nid oeddem yn ymwybodol o rai ohonynt o'r blaen, pethau megis contractau gwerthiannau sefydlog. Yn ddiddorol, roedd yr anghytundeb rhwng Adam Price a Jenny Rathbone—neu'r drafodaeth, dylwn ddweud—ynglŷn ag a ddylid cael arbenigedd coedwigaeth ar y bwrdd ai peidio, wel, boed ar y bwrdd, neu ar ba ffurf bynnag y bo, rydym yn sicr yn cytuno bod angen mwy o ymwybyddiaeth o faterion coedwigaeth cyfredol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny wedi bod yn brin hyd yn hyn, a gobeithio y bydd y cadeirydd newydd, y tîm newydd, yn unioni hynny.
Mae'r rhain yn broblemau sydd wedi bod ganddynt ers amser maith. Ni chânt eu datrys dros nos, ond bydd yn rhaid mynd i'r afael â hwy dros y tymor canolig, fel y cydnabu'r Gweinidog, rwy'n credu, oherwydd mae hwn yn sefydliad rhy fawr ac yn sefydliad rhy bwysig i ganiatáu iddo barhau i gael y problemau hyn yn fwy hirdymor. Diben y ddadl hon yw tynnu sylw at y materion hyn, rhoi'r gefnogaeth y maent ei hangen i'r prif weithredwr a'r cadeirydd er mwyn gwneud yn siŵr yn y dyfodol y gellir datrys y problemau hyn ac y gall Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn addas i'r diben.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.