6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:48, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodoli i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, i warchod ein hamgylchedd, i ddiogelu ein treftadaeth naturiol ac i orfodi amddiffyniadau amgylcheddol. Yn anffodus, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gamweithredol, fel yr amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am gynhyrchu eu hadroddiad, ac am y ffaith y byddant yn cadw llygad barcud ar y sefydliad dros y flwyddyn sydd i ddod.

Yn wyneb trychineb ecolegol byd-eang, mae diogelu'r amgylchedd a chadwraeth natur yn rhai o dasgau pwysicaf llywodraeth. Nid oedd y penderfyniad i uno swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth yn anghywir, ond roedd eu troi'n fawr mwy nag adran o'r Llywodraeth sydd wedi'i thanariannu a heb ddigon o adnoddau yn anfaddeuol.

Mae newid hinsawdd yn bygwth ein bodolaeth, ac fel yr amlygwyd gan adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ddoe, mae llunwyr polisi a gwleidyddion wedi methu deall difrifoldeb yr argyfwng amgylcheddol sy'n ein hwynebu. Felly mae'n hanfodol fod gennym sefydliadau—hyd braich oddi wrth y Llywodraeth os yn bosibl—a all ddiogelu ein hamgylchedd a gwarchod ein bioamrywiaeth.

Mae mesur sy'n asesu pa mor iach yw bioamrywiaeth gwlad yn awgrymu bod y DU wedi colli cryn dipyn yn fwy o natur yn hirdymor na'r cyfartaledd byd-eang. Mae'r mynegai'n awgrymu ein bod ymhlith y gwledydd lle mae natur wedi teneuo fwyaf yn y byd. Yn ôl adroddiad cyflwr natur yr RSPB, rhwng 1970 a 2013, mae 56 y cant o rywogaethau wedi gweld gostyngiad, gyda 40 y cant ohonynt yn dangos gostyngiad mawr neu gymedrol. O'r bron i 8,000 o rywogaethau a aseswyd drwy ddefnyddio meini prawf modern y rhestr goch, mae 15 y cant wedi diflannu neu dan fygythiad o ddiflannu o Brydain. Rydym yn colli oddeutu 2 filiwn tunnell o uwchbridd yn sgil erydu bob blwyddyn yn y DU.

Rwy'n sylweddoli mai dadl am gyfrifon ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru yw hon, ond mae'n bwysig amlinellu maint yr heriau sy'n wynebu'r sefydliad a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn amddiffyn ein gwlad. Mae'r ffaith bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol yn bwrw amheuaeth ynglŷn â'u rheolaeth ariannol ac yn codi cwestiynau ynglŷn â'u gallu i warchod ein bioamrywiaeth a diogelu yn erbyn newid hinsawdd.

Mae gwaith y pwyllgor ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn tynnu sylw at broblemau llywodraethu lluosog Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n cefnogi argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn llawn. Mae'r ffaith ei bod wedi cymryd cyhyd i Lywodraeth Cymru weithredu yn wyneb diffygion difrifol Cyfoeth Naturiol Cymru yn golygu bod yr adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru ymhell ar ei hôl hi a rhaid ei wneud yn gyhoeddus. Croesewir y ffaith y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cadw golwg ar ddiwygiadau Cyfoeth Naturiol Cymru, ond o gofio pwysigrwydd rôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n hanfodol ein bod yn cael adolygiad, nid yn unig o drefniadau llywodraethu'r sefydliad, ond ei gylch gorchwyl cyfan hefyd, i sicrhau ei fod yn addas at y diben. Mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i gamdrafod contractau pren. Mae swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru yn allweddol i'n gwlad. Rhaid inni sicrhau bod y sefydliad yn cael y cyllid cywir, yr adnoddau priodol a'r staff gorau er mwyn cyflawni'r swyddogaethau hynny. Diolch yn fawr.