Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 13 Chwefror 2019.
Wel, rwy'n poeni am hynny ac rwy'n falch fod y cam wedi'i gymryd, ond byddai wedi atal llawer iawn o dristwch a gofid pe bai wedi mynd ymhellach. Nawr, wrth gwrs, swyddogaeth gwrthblaid yw rhoi'r Llywodraeth dan y chwyddwydr, gobeithio ein bod wedi gwneud hynny yn yr achos hwn. Ond hoffwn ategu bod angen inni ddeall pam y digwyddodd y set wael iawn hon o benderfyniadau, oherwydd, fel arall, gallai ddigwydd eto.
Hoffwn droi, yn fyr, Lywydd, at ddatganiad y Dirprwy Weinidog ddoe lle mae'n cyfeirio at asesiadau gwaith cymdeithasol annibynnol. Nawr, er fy mod yn rhannu rhai o'r pryderon ynglŷn â phobl yn cael eu hailasesu'n ddiddiwedd, os mai diben yr ailasesiadau hyn yw galluogi pobl i gael cymorth wedi'i adfer lle cafodd ei gymryd oddi wrthynt, rhaid croesawu hynny. Ond credaf mai'r gair allweddol yno yw 'annibynnol', a hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw sut y mae'n gweld yr asesiadau hynny'n cael eu cyflawni. Os cyflogir y staff sy'n cynnal yr asesiadau hyn yn uniongyrchol gan yr awdurdodau lleol sydd eisoes wedi tynnu cymorth yn ôl oddi wrth y bobl anabl hyn a'u teuluoedd, bydd y bobl hynny'n cael eu gadael i bryderu a yw'r asesiadau hynny'n wirioneddol annibynnol ai peidio. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn deall y bydd y bobl sydd wedi gweld toriad yn eu cymorth yn amheus. Felly, rwy'n gobeithio y gall ddweud wrthym heddiw sut y bydd yn sicrhau bod yr asesiadau hynny'n annibynnol, ond hefyd fod y bobl sy'n eu derbyn yn gweld eu bod yn annibynnol. Rwy'n siŵr na fydd yn synnu—ac mae'n amlwg yn ei datganiad ei bod wedi ymdrin yn uniongyrchol â'r ymgyrchwyr—os ydynt wedi colli ffydd yn y system ac angen llawer o argyhoeddi er mwyn adfer y ffydd honno.
Yn olaf, Lywydd, os caf erfyn am eich goddefgarwch ar ôl cymryd rhai ymyriadau, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw, yn ei chyfraniad i'r ddadl hon, ailymrwymo Llywodraeth Cymru yn glir ac yn ddigamsyniol i'r model cymdeithasol o anabledd. Mae'r model hwnnw yn golygu, wrth gwrs, fod yr anabledd yn deillio, nid o nam yr unigolyn, ond o'r rhwystrau y mae cymdeithas yn eu rhoi yn ffordd yr unigolyn sydd â nam rhag gallu cyfranogi'n llawn. Roeddwn dan yr argraff ein bod yn unfrydol yn y lle hwn yn hynny o beth—yn hollol unfrydol, ar draws yr holl feinciau rwy'n credu. Mae'r camau gweithredu ar hyn wedi dangos efallai ein bod yn well gyda'n geiriau nag yr ydym gyda'n gweithredoedd. Holl ddiben y cymorth penodol hwn yw galluogi ein cyd-ddinasyddion anabl i fyw'n annibynnol a chyfranogi'n llawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo heddiw i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau, i gefnogi'r annibyniaeth honno, a'i fod yn ei wneud yn gyfartal ledled Cymru, ac yng nghyd-destun ymrwymiad ystyrlon i'r model cymdeithasol o anabledd. Nid yw ein cyd-ddinasyddion anabl yn haeddu dim llai, ac maent yn haeddu ymddiheuriad.