– Senedd Cymru ar 13 Chwefror 2019.
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar grant byw'n annibynnol Cymru, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Diolch, Lywydd. Pan ddaw haneswyr i ysgrifennu hanes y degawd diwethaf o safbwynt pobl anabl a sut y cawsant eu trin gan lywodraethau olynol, credaf y bydd yn ein beirniadu'n hallt. Canlyniadau cyfres o newidiadau i nawdd cymdeithasol a gychwynnwyd yn gyntaf gan yr Arglwydd Freud o dan Lywodraeth Tony Blair—ie, gadewch inni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Lafur a greodd Atos—cafodd y newidiadau hynny eu cyflymu wedyn o dan y Llywodraeth glymblaid ac maent wedi bod mor ddinistriol fel y gellir eu hystyried yn un o'r ymyriadau mwyaf â hawliau dynol yn hanes Prydain.
Nawr, yn y Senedd hon ac mewn mannau eraill, mae digon ohonom wedi beirniadu Llywodraeth y DU am eu hymddygiad, er mai dylanwad cyfyngedig a fu gennym o ganlyniad i hynny. Felly, mae'n fwy siomedig byth gweld patrymau ymddygiad San Steffan yn treiddio i mewn i Lywodraeth Cymru fel y bydd stori'r gronfa byw'n annibynnol yn dweud wrthym. Wrth gwrs mae'r newidiadau a gyhoeddwyd ddoe i'r ffordd y cynhelir asesiadau i'w croesawu, ac nid oes amheuaeth y bydd y Gweinidog yn ymateb i'r ddadl hon drwy amlinellu'r newidiadau hynny. Hoffwn gofnodi ein diolch a'n llongyfarchiadau i'r ymgyrchydd Nathan Davies, a fu'n ymgyrchu'n gwbl ddiflino ar hyn. Ond mae ymddygiad y Llywodraeth hon at ei gilydd hyd yma wedi bod yn un sy'n dangos tebygrwydd i'r ymagwedd a welsom gan y Torïaid yn Llundain.
Pan ddatganolwyd y cyfrifoldeb am reoli'r gronfa byw'n annibynnol i Gymru, roedd Llywodraeth Cymru ar y pryd yn wynebu dau opsiwn. Ar y naill law gallent efelychu Lloegr a datganoli'r gronfa byw'n annibynnol i awdurdodau lleol, a gofyn iddynt ysgwyddo cyfrifoldeb am y gofal a'r cymorth a ddarperir. Neu ar y llaw arall, gallent gadw'r gronfa a'i gweinyddu, fel a ddigwyddodd yn yr Alban a gogledd Iwerddon. Nawr, bydd fy nghyd-Aelodau'n ymhelaethu ymhellach ar y broses benderfynu ddiffygiol sydd wedi digwydd yma, ond mae un cwestiwn rhethregol yn crynhoi'r holl ddadl hon: os ydych yn mabwysiadu dull o weithredu tebyg i'r Torïaid, pam y byddech yn disgwyl canlyniad hollol wahanol? A'r canlyniadau rhagweladwy hynny a arweiniodd at y newidiadau a gyhoeddwyd ddoe. O ddatganiad y Gweinidog ei hun:
'Mae amrywiad sylweddol i'w weld yn lleol, gyda chanran y rhai arferai dderbyn taliadau o'r Gronfa sydd â'u horiau gofal wedi gostwng yn amrywio rhwng 0% a 42% mewn gwahanol awdurdodau lleol.'
Yr hyn na ellir ei fesur, wrth gwrs, yw lefel y pryder a'r straen o orfod mynd drwy ailasesiadau cyson, lle mae ansawdd eich bywyd yn y fantol. Mae pobl anabl yn siarad gyda'i gilydd. Maent yn gwybod beth ddigwyddodd gyda chyflwyno'r asesiad gallu i weithio, ac maent yn gwybod beth ddigwyddodd pan gafwyd y taliad annibyniaeth personol yn lle'r lwfans byw i'r anabl. Maent yn gwybod beth ddigwyddodd yn Lloegr i'r bobl a oedd yn cael y gronfa byw'n annibynnol. Felly, gwyddent eu bod yn wynebu asesiadau gan staff a weithiai mewn sector cyhoeddus sy'n rhagfarnu o blaid pobl heb anableddau, asesiadau gan sefydliadau o dan bwysau ariannol enfawr, ac asesiadau heb fawr o amddiffyniad yn erbyn dyfarniadau gwael. Eto, gorfododd eich Llywodraeth dros 1,000 o bobl i fynd drwy hyn a threuliodd flynyddoedd yn gwrthsefyll yr ymgyrchwyr hynny ac ymgyrchwyr eich plaid eich hun, nes y penderfynodd y Gweinidog newydd fynd yn erbyn penderfyniadau blaenorol i bob pwrpas.
Nawr, os gweithredir y newidiadau a gyhoeddwyd ddoe yn briodol, ni ddylem weld unrhyw bobl anabl o gwbl ar eu colled, diolch byth. Ond byddwn yn dal i fod wedi cael system lle mae mwy o gostau gweinyddol a biwrocratiaeth a straen a phryder diangen wedi'i orfodi ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y wlad hon, a chredaf y dylech ymddiheuro am hynny.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi neilltuo’r swm llawn o gyllid a drosglwyddwyd ar gyfer y Gronfa Byw’n Annibynnol at y diben hwnnw.
2. Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r rhai sy’n derbyn y cyllid a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod bwriadau Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn parhau i gael eu cyflawni yng Nghymru.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl i gyflawni eu nodau eu hunain a byw eu bywydau eu hunain yn y ffordd y maent yn dewis drostynt eu hunain. Roedd y gronfa byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl iawn i ddewis byw bywyd annibynnol yn y gymuned, yn hytrach nag mewn gofal preswyl. Rwy'n cynnig gwelliant 2, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru
'i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol.'
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfnod pontio o ddwy flynedd o fis Ebrill 2017 ymlaen, pan fyddai'n ofynnol i bawb a oedd yn derbyn grant byw'n annibynnol Cymru, neu'r GBAC, gael yr elfen hon o'u hanghenion gofal wedi'i hasesu gan eu hawdurdod lleol.
Mae cael gwared ar y grant ar 31 Mawrth yn bradychu hawliau pobl anabl i fyw'n annibynnol ac i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Yn 2015, cafodd y gronfa byw'n annibynnol ei datganoli gan Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol yn Lloegr a'r Llywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol i sefydlu'r GBAC, ond fel arall ni wnaeth ddim ar wahân i gynnal ymarfer ymgynghori a sefydlu grŵp cynghori rhanddeiliaid, y dywed ei fod wedi cynhyrchu amrywiaeth o safbwyntiau.
Ar y llaw arall, mae Llywodraeth yr Alban yn nodi bod ei chynllun newydd wedi'i gydgynhyrchu gan weithgor y gronfa byw'n annibynnol, gyda chynrychiolaeth o Lywodraeth yr Alban, cronfa byw'n annibynnol yr Alban, pobl anabl, gofalwyr, grwpiau anabledd ac awdurdodau lleol. Lansiodd yr Alban gronfa byw'n annibynnol yr Alban yn sgil hynny er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy'n ei derbyn ddewis a rheolaeth. Dewisodd Gogledd Iwerddon ymuno â chynllun yr Alban, ac mae pobl anabl a grwpiau anabl yng Nghymru wedi dweud wrth y grŵp trawsbleidiol ar anabledd eu bod eisiau ymuno â'r cynllun hwnnw hefyd.
Yn wahanol i Lywodraeth Cymru, na wnaeth ddim ond trosglwyddo'r cyllid blynyddol a ddaeth i law gan Lywodraeth y DU ar gyfer hyn i awdurdodau lleol, ymrwymodd Llywodraeth yr Alban £5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol hefyd. Ym mis Tachwedd 2016, dadleuodd y Gweinidog yma ar y pryd fod trosglwyddo'n llawn i gyfrifoldeb awdurdod lleol yn cydraddoli mynediad at gymorth ymhlith pobl anabl ac yn rhwystro'r GBAC rhag dod yn anghynaladwy. Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones,
'Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol... gyflawni eu rhwymedigaethau i bobl anabl a rhoi digon o arian o'r neilltu i’w hanghenion ariannol gael eu cydnabod a'u bodloni', a bod awdurdodau lleol, meddai,
'yn atebol i'w hetholwyr os byddant yn dilyn polisïau y mae'r etholaeth yn credu eu bod yn annerbyniol.'
Yn anffodus, nid oes gan bobl ag anabledd difrifol lawer o bleidleisiau. Fodd bynnag, awgryma amcangyfrifon Llywodraeth Cymru a gafwyd gan ymgyrchwyr anabl y bydd toriad i gyllid dros 200 o bobl a oedd yn arfer cael y GBAC, a chyfaddefodd rhai awdurdodau lleol wrthynt fod cyfran sylweddol o'r rhai sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd drwy'r GBAC eisoes wedi cael toriad i'w pecynnau cymorth. Naw wfft i'r datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai y llynedd fod awdurdodau lleol yn adrodd bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cymorth tebyg i'r hyn yr oeddent wedi'i gael gyda'u taliadau cronfa byw'n annibynnol, heb i unrhyw broblemau sylweddol godi. Ar bwy ar y ddaear y maent yn gwrando?
Cadeiriais gyfarfod ym mis Ionawr o grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar anabledd yn Wrecsam, lle roedd nifer fawr iawn o bobl yn bresennol. Yn y cyfarfod hwn, pwysleisiodd arweinydd ymgyrch Achub Grant Byw'n Annibynnol Cymru, Nathan Davies o Wrecsam, y deuthum i'w adnabod dros flynyddoedd lawer, fod hyn yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng aros yn y gwely neu godi o'r gwely, ynglŷn â chael cinio neu beidio â chael cinio, am gael rheolaeth neu gael eich rheoli. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cytuno gyda Nathan nad ydynt yn deall pwysigrwydd un gair i bobl anabl—sef annibyniaeth—a'r effaith ar iechyd meddwl a lles a'r gallu i ryngweithio â'r gymdeithas.
Dyma brofiad bywyd yn siarad, yn syth o lygad y ffynnon, a gofynnwyd i mi gael atebion gan fod amser yn brin. Wedyn codais y mater, fel yr addewais, gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y datganiad busnes yma. Fel y dywedodd Nathan Davies yn ei lythyr agored at y Prif Weinidog newydd, mae'r adolygiad dwfn a gyflawnwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddadansoddi perfformiad awdurdodau lleol mewn perthynas â throsglwyddo'r GBAC yn llawn o gamgymeriadau ac a dweud y gwir, nid yw'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Sut y gall ymchwiliad i amgylchiadau rhoi diwedd ar y GBAC fod yn derfynol heb fod wedi ymgynghori â'r bobl anabl yr effeithir arnynt?
Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fydd angen ailasesu pobl ag anabledd gydol oes, salwch neu gyflwr iechyd difrifol mwyach ar gyfer lwfans cyflogaeth a chymorth a'r credyd cynhwysol. Yn 2018, cyhoeddodd eithriad cyfatebol ar gyfer y taliad annibyniaeth personol. Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe y bydd y rhai a arferai dderbyn taliadau'r gronfa byw'n annibynnol sy'n 'anhapus' â'u pecynnau gofal a chymorth yn cael cynnig asesiad arall. Am ragrith syfrdanol.
Wel, sôn am ragrith syfrdanol. Rhaid imi ddweud bod gennyf bryderon dwys, fel sydd gan bawb ohonom, ynghylch y ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur wedi ymdrin â hyn yma, ond nid wyf am gymryd unrhyw wersi—ac ni fuaswn yn disgwyl i Lywodraeth Lafur Cymru wneud chwaith—gan yr un Ceidwadwr ar weinyddu budd-daliadau i bobl anabl. Mae fy nghyd-Aelod, Leanne Wood newydd ei ddisgrifio'n gywir fel rhywbeth cwbl warthus, ac a dweud y gwir—er bod gennyf barch mawr at Mark Isherwood fel unigolyn—rwy'n ei chael hi'n anodd tu hwnt ystyried y negeseuon hynny oddi wrtho. Gwn ei fod yn eu credu'n llwyr ei hun, ond mae'r blaid y mae'n ei chynrychioli yn y lle hwn yn ymddwyn mewn ffordd wahanol iawn ar ben arall yr M4, ac rwy'n falch o dderbyn ymyriad gan Mark Isherwood.
Nid oes gennym amser i drafod lles yn ei gyfanrwydd yma, ond gwneuthum y pwynt fod Llywodraeth y DU, nad ydych yn hoff iawn ohoni, wedi atal pobl ag anableddau difrifol serch hynny rhag gorfod cael eu hailasesu ar gyfer amrywiaeth o fudd-daliadau—y taliad annibyniaeth personol, lwfans cyflogaeth a chymorth, credyd cynhwysol—ac eto rydym ni wedi dweud wrth bobl ag anableddau difrifol y bydd yn rhaid iddynt gael eu hailasesu unwaith eto i gael yr hyn y dylent fod wedi'i gadw yn y lle cyntaf.
Gadewch inni fod yn glir fod hwnnw'n newid meddwl hwyr iawn yn y dydd, ar ôl i lawer o bobl anabl ar draws y DU ddioddef yn enbyd yn sgil y system honno. Ac rydych yn hollol iawn i ddweud nad oes gennym amser i'w drafod yma, ond rwy'n hapus i'w drafod gyda chi unrhyw bryd, yn unrhyw le, oherwydd nid yw'n iawn. Nawr, mae'n destun gofid yn fy marn i fod y Gweinidog yn mynd i orfod rhoi pobl drwy ailasesiad, ond fy nealltwriaeth i yw mai swyddogaeth bosibl yr ailasesiad hwnnw yw adfer y cymorth sydd wedi'i ddileu. Felly, rwy'n deall gan bobl anabl eu bod yn croesawu hyn mewn gwirionedd.
Felly, i ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn wedi bwriadu ei ddweud, Lywydd, roeddwn wedi disgwyl y buaswn yn rhoi araith wahanol iawn hyd nes i'r Gweinidog wneud ei chyhoeddiad ddoe. Gwyliais y llanastr hwn o'r tu allan i'r lle hwn ac o'r tu mewn, ac nid wyf wedi gallu deall, o ystyried y nifer o weithiau y mae Gweinidogion Cymru olynol wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd, ac nid wyf wedi gallu deall o gwbl beth sydd wedi digwydd. Ac er bod newid meddwl y Gweinidog ddoe i'w groesawu mewn gwirionedd, fel y mae Leanne Wood wedi dweud eisoes, mae'n gadael cwestiynau heb eu hateb.
Rhaid inni fynegi'r gofid eithafol y mae'r holl broses ddiflas hon wedi rhoi pobl anabl drwyddo, yn ogystal â'r rhai sy'n eu caru ac yn gofalu amdanynt. I fod yn onest, rwy'n synhwyro o ddatganiad y Dirprwy Weinidog ei bod yn deall y lefel honno o ofid ac yn awyddus i unioni'r sefyllfa, ac ni allwn wneud y Dirprwy Weinidog, fel unigolyn, yn gyfrifol. Ond rhaid inni ofyn iddi edrych ar yr hyn a aeth o'i le. Sut y caniatawyd i hynny ddigwydd dan oruchwyliaeth Llywodraeth sy'n honni ei bod wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol? Rhaid inni ddeall hynny os ydym am atal hynny rhag digwydd eto. A oedd yn fater, fel yr amheuwn sy'n wir gydag argymhellion y Llywodraeth ar gyfer cymorth amaethyddol ar ôl Brexit, o fod swyddogion yn amharod i bolisi ac ymarfer Llywodraeth Cymru wyro oddi wrth y model Seisnig? Rwy'n gobeithio fy mod yn anghywir. Os yw hynny'n wir, mae'n destun pryder dwys. A oedd yn fater o Weinidogion Cymru yn tynnu eu llygaid oddi ar y bêl? Unwaith eto, nid oeddwn yma ar y pryd, ac ni allaf ddweud yn bendant, ond mae'n sicr yn edrych felly i mi.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, â phleser.
A yw hefyd yn destun pryder a gofid i chi mai ar ôl iddynt gael eu gwasgu i gornel gan y cynnig hwn gan Blaid Cymru heddiw y cymerwyd y cam hwn ganddynt mewn gwirionedd?
Wel, rwy'n poeni am hynny ac rwy'n falch fod y cam wedi'i gymryd, ond byddai wedi atal llawer iawn o dristwch a gofid pe bai wedi mynd ymhellach. Nawr, wrth gwrs, swyddogaeth gwrthblaid yw rhoi'r Llywodraeth dan y chwyddwydr, gobeithio ein bod wedi gwneud hynny yn yr achos hwn. Ond hoffwn ategu bod angen inni ddeall pam y digwyddodd y set wael iawn hon o benderfyniadau, oherwydd, fel arall, gallai ddigwydd eto.
Hoffwn droi, yn fyr, Lywydd, at ddatganiad y Dirprwy Weinidog ddoe lle mae'n cyfeirio at asesiadau gwaith cymdeithasol annibynnol. Nawr, er fy mod yn rhannu rhai o'r pryderon ynglŷn â phobl yn cael eu hailasesu'n ddiddiwedd, os mai diben yr ailasesiadau hyn yw galluogi pobl i gael cymorth wedi'i adfer lle cafodd ei gymryd oddi wrthynt, rhaid croesawu hynny. Ond credaf mai'r gair allweddol yno yw 'annibynnol', a hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw sut y mae'n gweld yr asesiadau hynny'n cael eu cyflawni. Os cyflogir y staff sy'n cynnal yr asesiadau hyn yn uniongyrchol gan yr awdurdodau lleol sydd eisoes wedi tynnu cymorth yn ôl oddi wrth y bobl anabl hyn a'u teuluoedd, bydd y bobl hynny'n cael eu gadael i bryderu a yw'r asesiadau hynny'n wirioneddol annibynnol ai peidio. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn deall y bydd y bobl sydd wedi gweld toriad yn eu cymorth yn amheus. Felly, rwy'n gobeithio y gall ddweud wrthym heddiw sut y bydd yn sicrhau bod yr asesiadau hynny'n annibynnol, ond hefyd fod y bobl sy'n eu derbyn yn gweld eu bod yn annibynnol. Rwy'n siŵr na fydd yn synnu—ac mae'n amlwg yn ei datganiad ei bod wedi ymdrin yn uniongyrchol â'r ymgyrchwyr—os ydynt wedi colli ffydd yn y system ac angen llawer o argyhoeddi er mwyn adfer y ffydd honno.
Yn olaf, Lywydd, os caf erfyn am eich goddefgarwch ar ôl cymryd rhai ymyriadau, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw, yn ei chyfraniad i'r ddadl hon, ailymrwymo Llywodraeth Cymru yn glir ac yn ddigamsyniol i'r model cymdeithasol o anabledd. Mae'r model hwnnw yn golygu, wrth gwrs, fod yr anabledd yn deillio, nid o nam yr unigolyn, ond o'r rhwystrau y mae cymdeithas yn eu rhoi yn ffordd yr unigolyn sydd â nam rhag gallu cyfranogi'n llawn. Roeddwn dan yr argraff ein bod yn unfrydol yn y lle hwn yn hynny o beth—yn hollol unfrydol, ar draws yr holl feinciau rwy'n credu. Mae'r camau gweithredu ar hyn wedi dangos efallai ein bod yn well gyda'n geiriau nag yr ydym gyda'n gweithredoedd. Holl ddiben y cymorth penodol hwn yw galluogi ein cyd-ddinasyddion anabl i fyw'n annibynnol a chyfranogi'n llawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo heddiw i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau, i gefnogi'r annibyniaeth honno, a'i fod yn ei wneud yn gyfartal ledled Cymru, ac yng nghyd-destun ymrwymiad ystyrlon i'r model cymdeithasol o anabledd. Nid yw ein cyd-ddinasyddion anabl yn haeddu dim llai, ac maent yn haeddu ymddiheuriad.
Clywais Helen Mary Jones yn dweud ei bod yn rhoi araith wahanol i'r un yr oedd hi wedi disgwyl ei rhoi, yn dilyn y datganiad gan y Gweinidog. Rwy'n mynd i wneud rhywbeth gwahanol—byddaf yn pleidleisio mewn ffordd wahanol i'r hyn yr oeddwn yn disgwyl ei wneud, yn dilyn y datganiad gan y Gweinidog, oherwydd roeddwn yn mynd i bleidleisio o blaid polisi'r Blaid Lafur pe na bai'r Gweinidog wedi gwneud y datganiad a wnaeth.
Fe ddechreuaf drwy ailddatgan polisi'r Blaid Lafur a gytunwyd gan gynhadledd Plaid Lafur Cymru yn 2018—polisi yr oeddwn yn ei gefnogi bryd hynny ac un rwy'n ei gefnogi yn awr: amddiffyn ac achub grant byw'n annibynnol Cymru. Cyflwynwyd grant byw'n annibynnol Cymru i helpu pobl a oedd yn arfer hawlio o gronfa byw'n annibynnol Llywodraeth y DU, a ddaeth i ben yn 2015. Caiff dros 1,500 o bobl eu helpu gan gynllun grant byw'n annibynnol Cymru ledled Cymru ac mae gan bawb sy'n ei dderbyn lefel uchel iawn o anghenion gofal a chymorth. Roedd grant byw'n annibynnol Cymru i fod i barhau tan ddiwedd mis Mawrth 2017, ond cytunwyd y byddai'r arian hwnnw'n parhau am flwyddyn arall. Byddai'r gronfa flynyddol o £27 miliwn yn trosglwyddo'n uniongyrchol wedyn i awdurdodau lleol yn ystod 2018-19 er mwyn iddynt allu diwallu anghenion cymorth pawb a arferai dderbyn taliadau'r gronfa byw'n annibynnol erbyn 31 Mawrth 2019.
Galwodd y gynhadledd hon ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynnal grant byw'n annibynnol Cymru, o leiaf tan etholiad nesaf y Cynulliad, a gwneud hynny gan gadw'r egwyddorion a ganlyn: cadw strwythur trionglog y grant rhwng yr awdurdod lleol, yr unigolyn a rhanddeiliad trydydd parti; y dylid clustnodi'r cyllid sydd ar gael yn y dyfodol er mwyn sicrhau y defnyddir arian a ddyrennir at y diben y'i bwriadwyd; na ddylid peryglu lles pobl anabl; y dylid diogelu, nid peryglu, y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas; a bod ansawdd bywyd yn hawl ddynol i'n hunigolion agored i niwed, yn hytrach na chynnal bodolaeth yn unig.
Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, roeddwn yno pan gawsom dystiolaeth. Roedd y prif bryderon a godwyd gan y deisebydd ac eraill yn ymwneud ag ofn ynghylch effaith trosglwyddo cyfrifoldeb am gefnogi'r rhai a arferai dderbyn aran y gronfa byw'n annibynnol i awdurdodau lleol, yn enwedig gallu ariannol ac adnoddau awdurdodau lleol mewn cyfnod o gyni i ailadrodd yn ddigonol y ffocws ar fyw'n annibynnol a hyrwyddai'r gronfa byw'n annibynnol a GBAC. Ac nid wyf yn beirniadu awdurdodau lleol. Byddai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am awdurdodau lleol yn sylweddoli faint o bwysau sydd arnynt. Mae'n debyg i wasgu balwn—bob tro y byddwch yn ei gwasgu i un cyfeiriad, mae'n ymwthio i gyfeiriad arall.
Fodd bynnag, mae'r pryderon hefyd yn ymwneud â phrofiadau blaenorol y deisebydd ac eraill sy'n cefnogi ei ymgyrch o weithio gydag awdurdodau lleol, neu gael gwasanaethau ganddynt. Roedd hyn yn cynnwys pryder ynghylch dealltwriaeth o'r term 'byw'n annibynnol' ei hun:
Nid yw'n gyfrinach fod ymagwedd Model Meddygol tuag at bobl anabl yn parhau i fod yn endemig ac yn sefydliadol ar draws y sector cyhoeddus ac mae'n amlwg o'r asesiadau rhanbarthol o angen ac yn enwedig crynodeb Gofal Cymdeithasol Cymru, nad oes unrhyw ddealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng "bod yn annibynnol" [sy'n golygu ymdopi heb gymorth] a "Byw'n Annibynnol" y mae Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn yn ffurfiol fel term sy'n golygu bod pobl anabl yn byw'r bywydau y maent yn dewis eu byw, yn y ffordd y maent yn dewis a chael cefnogaeth yn y modd, ar yr adeg, yn y lle, a chan bwy y maent yn dewis.
Roedd pryder pellach arall a fynegwyd gan y deisebydd yn ymwneud â diffyg strwythur teiran o fewn gweithrediad y gronfa byw'n annibynnol. Roedd hwn yn cynnwys y sawl sy'n derbyn cyllid, gweinyddiaeth ganolog y gronfa a'r awdurdod lleol yn gwneud asesiadau ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch gofal a chymorth. Esboniodd y deisebydd:
yr elfen arall o'r Gronfa Byw'n Annibynnol oedd bod Gweithwyr Cymdeithasol annibynnol yn cynnal yr asesiadau a'r adolygiadau fel bod pobl anabl yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn gan drosolwg annibynnol gweithiwr cymdeithasol cymwys a phrofiadol na allai gael ei ddychryn neu ei gyfarwyddo gan yr awdurdod lleol am nad oedd yn gweithio iddo.
Rwy'n croesawu'r datganiad gan Lywodraeth Cymru y bydd yn darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol am gost gweithwyr cymdeithasol annibynnol ac oriau ychwanegol o ofal a allai ddeillio o'r asesiadau annibynnol hyn. Mae hyn yn golygu na all fod unrhyw gwestiwn o—
A wnaiff yr Aelod ildio?
A gaf fi orffen y frawddeg hon? Ni fyddai unrhyw gwestiwn fod y newidiadau i'r pecyn gofal a chymorth yn fesur ar gyfer torri costau. Yn sicr.
O ystyried bod y rhai a arferai dderbyn y gronfa byw'n annibynnol yn gorfod bod yn gymwys i'w gael drwy brofi eu bod yn ddifrifol anabl, pam y dylent orfod ei brofi eto a ninnau, yn briodol, wedi beirniadu Llywodraeth y DU pan ddywedasant wrth bobl y byddai'n rhaid iddynt ei brofi eto?
Rwy'n meddwl mai'r rheswm am hyn yw bod rhai pobl—cafodd eu hanghenion eu hailasesu a'u hisraddio gan awdurdodau lleol, ac mae hwn yn gyfle iddynt gael eu hailasesu a'u huwchraddio. Mae'n rhywbeth y mae pobl anabl eu hunain am ei weld. Nid yw'n berffaith, ac rwy'n siŵr ein bod yn dymuno nad dyma fel y mae. Byddai'n dda gennyf pe bai penderfyniad cynhadledd y Blaid Lafur fis Ebrill diwethaf wedi'i weithredu yn y lle hwn, ond ni ddigwyddodd hynny, ac nid oes gan hynny ddim i'w wneud â Gweinidog y Cabinet—na'r arweinydd presennol.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn mai egwyddor sylfaenol cynnal asesiad annibynnol yw y dylai'r canlyniad fod yn gyson â'r canlyniadau llesiant y bydd pobl wedi cytuno arnynt. Gan nad oes rhwystr ariannol, nid oes raid i neb gael gofal a chymorth llai ffafriol nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd, ac mae 'ar hyn o bryd' yn golygu beth bynnag a oedd ganddynt cyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno gan awdurdodau lleol.
Rwy'n croesawu'r penderfyniad i gadw strwythur trionglog y grant rhwng yr awdurdod lleol, yr unigolyn a rhanddeiliad trydydd parti. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi bodloni ysbryd y ddeiseb a phenderfyniad cynhadledd y Blaid Lafur. Mae'n ddrwg gennyf ei fod wedi cymryd cymaint o amser. Yn olaf, diolch i Nathan Davies am ei ymgyrchu cyson a pharhaus—credaf y buaswn yn ei alw'n 'ddiflino'—ac i Julie Morgan am gyflawni hyn yn awr a darparu'r cymorth parhaus fel rwyf fi, a mwyafrif llethol y bobl yn fy mhlaid yn credu y dylid bod wedi'i wneud amser maith yn ôl.
Gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei sylwadau? Mae e wedi fy atgoffa i o’r eironi fan hyn bod Plaid Cymru yn gorfod gosod cynnig er mwyn trio perswadio Llywodraeth Lafur i ymrwymo eu hunain i’w polisi nhw eu hunain. Felly, mae hwnna’n dweud rhywbeth am ble mae’r Llywodraeth yma yn ffeindio ei hun ar hyn o bryd. A dyma’r blaid, wrth gwrs, sy’n honni eu bod nhw ‘for the many’—nage. ‘For the many, not the few’, ie, ie, dyna fe. Dwi wedi drysu heddiw. Ond pwy ydyn ni’n sôn amdanyn nhw? Pwy maen nhw’n ei gynrychioli? Wel, os ydyn ni’n sôn am grŵp sydd angen cynrychiolaeth ac angen llais i siarad drostyn nhw, yna'r 1,300 o bobl sydd wedi bod yn ddibynnol ar y grant byw yn annibynnol yma yw’r rheini. Y 1,300 o bobl sydd wedi dioddef, fel rŷn ni wedi clywed, gofid a phryder dros y ddwy flynedd diwethaf ynglŷn â goblygiadau colli’r grant yna. Ac mae’r tro pedol rŷn ni wedi gweld gan y Llywodraeth yn dod 24 awr cyn y ddadl yma gan Blaid Cymru'r prynhawn yma—newyddion i’w groesawu, wrth gwrs ei fod e i’w groesawu, a dwi’n deall mai’r bwriad nawr yw gwneud ychydig mwy o ymchwil i weld beth yw’r opsiynau o safbwynt datblygu cynllun amgen neu amrywio’r cynllun. Wel, fy mhle i, felly, yw ichi wrando ar dystiolaeth y rhai hynny sy’n derbyn yr arian, eu teuluoedd a’u gofalwyr, pan ŷch chi’n dod i edrych ar yr opsiynau wrth symud ymlaen.
Nawr, mae llawer o’r drafodaeth yn amlwg yn ffocysu, ac wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, ar yr elfen ariannu, ond dwi yn meddwl ei bod hi’n bwysig inni atgoffa’n hunain, wrth gwrs, o bwysigrwydd yr elfen byw yn annibynnol. Mae profiadau’r rhai hynny sy’n derbyn y grant yn eu harwain i ofni y byddai bywyd o dan reolaeth cyngor sir yn llawer mwy rhagnodol, mwy prescriptive, a hynny yn risgio tynnu annibyniaeth i ffwrdd oddi wrthyn nhw. Mae’r toriadau llym mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, wedi eu dioddef yn golygu ei bod hi bron yn anochel, efallai, y byddai’r systemau a’r cyfundrefnau yn fwy rhagnodol oherwydd yr angen i brofi gwerth am arian. Ond beth yw gwerth gwerth am arian os yw gwerth bywyd ac ansawdd bywyd yn dirywio o ganlyniad i hynny? Sut allwch chi fesur safon bywyd person ar daenlen cyllideb ar ddiwedd blwyddyn ariannol? Mae derbynwyr y grant yma eisoes yn gaeth oherwydd amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth nhw. Maen nhw’n gaeth i’w cartrefi, yn gaeth i gadair olwyn, yn gaeth i feddyginiaeth, efallai. Mae hyn oll yn cyfyngu ar eu dewisiadau nhw mewn bywyd, a’r peth olaf maen nhw ei eisiau yw bod yn gaeth ymhellach i reolau ariannol a biwrocrataidd cynghorau sy’n gorfod, wrth gwrs, cyfrif pob ceiniog er mwyn profi gwerth am arian.
Nid oedd y cynnig hwn i gael gwared ar grant byw'n annibynnol Cymru yn ddim mwy, fel y clywsom wrth gwrs, na Llywodraeth Cymru yn dilyn arweiniad Llywodraeth y DU. Ac mae'r saib a gyhoeddwyd ddoe yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir. A gallwn wneud pethau'n wahanol yma yng Nghymru. Gallwn ddangos ein bod yn gwerthfawrogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas a'n bod yn edrych ar ôl ein gilydd fel cymdeithas. Gadewch i ni obeithio bod y saib hwn yn arwain at ailwampio cadarnhaol lle caiff pawb sydd ag anabledd eu codi i gyfundrefn ariannu a chymorth well yn hytrach na thynnu pawb i lawr at y lefel gyffredin isaf.
Mae gennym enghreifftiau o arferion da yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle maent yn ffurfio eu llwybr eu hunain, ar ôl cadw'r gronfa byw'n annibynnol yn ogystal â'i gwella. Ac rydym yn gwybod, fel y clywsom, beth ddigwyddodd yn Lloegr gyda dileu'r grant yno: pobl yn cael eu gwthio i loteri cod post, Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn gorfod dweud ei fod wedi arwain at drychineb dynol. Ac wrth gwrs, y pryder yw y byddwn yn mynd i lawr yr un llwybr yma yng Nghymru gyda'r bobl fwyaf agored i niwed yn dioddef.
Mae erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn canolbwyntio'n benodol ar hawl pobl anabl i fyw'n annibynnol ac i gael eu cynnwys yn y gymuned. Ni ddylid trin pobl ag anableddau fel plant, gyda'u bywydau'n cael eu rheoli gan fiwrocratiaeth. Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi ein hannibyniaeth, ein gallu i wneud ein dewisiadau ein hunain, ein gallu, ie, weithiau, i wneud ein camgymeriadau ein hunain, ond ni ddylid gwadu'r hawl honno i bobl anabl oherwydd eu hanabledd.
Nawr, os ydych o ddifrif yn poeni am anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl anabl, dylai'r Llywodraeth fod yn ddigon dewr i gyfaddef hynny a wynebu'r broblem hon yn uniongyrchol. Gadewch i ni weld graddau'r problemau a'r heriau go iawn sy'n wynebu pobl anabl yn ein cymunedau a gadewch inni weithredu ar hynny i wella ansawdd bywyd ar gyfer y bobl hynny yn hytrach na chael gwared ar y cronfeydd a'r annibyniaeth y maent wedi ymladd yn galed i'w cael.
Mae'r cyhoeddiad ddoe yn gyfle inni wneud hynny, felly gofynnaf i'r Llywodraeth fachu ar y cyfle hwn i edrych ar ddarlun cyfan y bobl anabl sy'n byw yng Nghymru. A wnewch chi sefydlu comisiwn i edrych ar arian ar gyfer pobl anabl yma yng Nghymru? Beth yw anghenion pobl anabl yng Nghymru heddiw? Beth yw'r heriau y maent yn eu hwynebu? A sut y gall eich Llywodraeth a'r Cynulliad hwn wneud pethau'n well a gwella ansawdd bywyd pobl anabl yma yng Nghymru? Ar hyn y dylem fod yn edrych, nid ar leihau'r arian prin a ddarperir i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Ddoe, gwelsom gyfaddefiad gan y Llywodraeth nad oedd eu holl addewidion blaenorol ynglŷn â sut y byddai symud i ffwrdd oddi wrth system y gronfa byw'n annibynnol yn ddi-boen i'r sawl sy'n ei derbyn yn golygu dim. Daeth y datganiad panig, wedi'i ysgogi'n ddiau gan cynnig Plaid Cymru heddiw, nid yn gymaint o ganlyniad i bryder ynglŷn â'r bobl anabl dan sylw, ond oherwydd nad ydynt am deimlo cywilydd gwleidyddol. Ond sgwarnog oedd y datganiad hwnnw. Nid yw eu cyhoeddiad ond yn oedi diddymu'r grant byw'n annibynnol, nid yw'n ei atal, felly, mewn llawer o ffyrdd, mae'r fwyell yn dal i hongian uwchben pobl anabl.
Dros flwyddyn yn ôl, câi Llywodraeth Cymru ei rhybuddio am y problemau a oedd yn mynd i godi, ond anwybyddodd y rhybuddion a bwrw yn ei blaen beth bynnag. Felly, rhaid i chi fy esgusodi os nad wyf yn derbyn bod eu syndod neu eu hymddiheuriad am y problemau, y caledi a'r pryderon presennol yn ddilys. Nid wyf yn credu ei fod.
Gadewch imi ddweud rhywbeth am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, yr eiliad hon, wrth inni drafod hyn. Ceir dynion a menywod—tebyg i chi a minnau—a allai fod yn eistedd yma gyda ni yn y Siambr hon oni bai bod y dis wedi glanio ar rif gwahanol, ond yn wahanol i ni, mae ganddynt anabledd sydd wedi eu hamddifadu o lawer o'r cyfleoedd, y rhyddid, y cyfleoedd a'r dewisiadau mewn bywyd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu eu cymryd yn ganiataol. Nid ydym i fod i edrych ar y bobl hyn fel ffigurau ar daenlen neu fel rhan o hafaliad cyfrifyddiaeth. Efallai fod y Llywodraeth hon yn diffinio'r rhai sy'n derbyn y grant byw'n annibynnol yn ôl eu hanabledd, ond maent yn llawer mwy na hynny; dyma bobl sydd â phob un o'r gobeithion, y breuddwydion, y dyheadau a'r dymuniadau ag sydd gennych chi a minnau bob dydd. Ac ni ellid cyhuddo'r ychydig o bobl sy'n cael y grant byw'n annibynnol o fod yn ddiog mewn unrhyw ffordd, o beidio â thrafferthu edrych am waith yn iawn neu o geisio chwarae'r system. Dyma'r bobl fwyaf difreintiedig a mwyaf agored i niwed yng Nghymru ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yn mynd â'u harian i sybsideiddio coffrau cynghorau lleol. Mae dileu peth o'u gobaith a gwneud iddynt boeni ynglŷn â'r modd y mae eu bywydau yn mynd i fod hyd yn oed yn fwy anodd, mewn ymdrech i wneud i'r llyfrau ariannol edrych ychydig bach yn well, yn greulon ac yn gwbl gywilyddus.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymryddhau o'u cyfrifoldeb mewn ymarfer sinigaidd er mwyn torri costau. Mae'r unigolion a'r elusennau dan sylw oll yn erbyn y cam hwn, a phan fo Llafur yn dweud y bydd yr un swm o arian yn cael ei wario ar bobl anabl, yr hyn a olygant yw y byddant yn mynd ag arian oddi wrth unigolion sy'n ei dderbyn ac yn ei roi i awdurdodau lleol ei ddefnyddio fel y mynnant. Yna byddant yn beio'r awdurdod lleol os yw pethau'n mynd o'i le i bobl anabl. Cyfran yn unig o'r arian a arferai fynd yn uniongyrchol i'r bobl anabl a oedd yn ei dderbyn fydd yn cael ei wario ar gymorth ystyrlon mewn gwirionedd. Maent yn rhoi'r arian hwn i gynghorau er mwyn cadw'r dreth gyngor yn isel yn y gobaith y bydd pobl yn pleidleisio i Lafur mewn etholiadau lleol. Mae'r Llywodraeth yn gwybod na werir yr arian i gyd ar yr unigolyn y cafodd ei wario arno hyd yma—dyna'r rheswm dros ei wneud—fel arall, byddent yn gadael llonydd iddo. Ac mae'r post brys a gefais gan berson anabl ddoe, fel Aelodau eraill yn y lle hwn o bosibl, yn ategu hyn. Yn ystod y broses o golli ei grant byw'n annibynnol, mae hi wedi profi adolygiad annigonol a'i harian wedi cael ei dorri yn ei hanner. Cyn gynted ag y daeth yn amlwg y gallai'r cynghorau roi'r hyn nad oeddent yn ei wario ar y rhai a gâi'r grant mewn pot gofal cymdeithasol generig, mae'n dweud ei bod hi'n gwybod y byddai'r bobl fwyaf agored i niwed, fel hithau, ar eu colled. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Roeddwn yn gwybod na allai fod dim ond anghyfiawnder i bob un o'r rheini sy'n mynd i gael eu hailasesu. Pobl fel fi y mae eu bywydau'n mynd i newid i fod yn ddim ond bodoli ar lefel sylfaenol yn unig o fod yn fywydau cyflawn a gwerth chweil.
Byddai trethdalwyr Cymru yn hapusach o lawer yn meddwl bod eu trethi a enillwyd drwy waith caled yn talu i berson anabl gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn hytrach na thalu cyflog i weithiwr cyngor am ddweud wrth berson anabl eu bod yn mynd i gael llai o gymorth nag o'r blaen.
Felly, yn olaf, galwaf ar Lywodraeth Cymru i fod yn gynhwysol ac i beidio â gweithredu mewn ffordd a fydd yn gwneud i bobl feddwl eich bod yn anwybyddu anghenion pobl anabl, a hynny'n unig am nad oes digon ohonynt i bleidleisio yn eich erbyn ac effeithio ar ganlyniad eich ymgyrch etholiadol nesaf. Galwaf arnoch i newid eich penderfyniad i ddiddymu'r grant byw'n annibynnol. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cymorth i fyw'n annibynnol pan fydd angen y cymorth hwnnw arnynt. Sefydlwyd y gronfa byw'n annibynnol dros 30 mlynedd yn ôl ar draws y DU i gynorthwyo pobl anabl ag anghenion cymhleth i fyw'n annibynnol. Caeodd Llywodraeth y DU y cynllun hwn i newydd-ddyfodiaid yn 2010, ac yn 2015 fe wnaethant drosglwyddo cyfrifoldeb amdano i'r gweinyddiaethau datganoledig. Ar y pryd, er mwyn sicrhau dilyniant o ran y cymorth, sefydlodd Llywodraeth Cymru drefniadau dros dro drwy greu grant byw'n annibynnol ar gyfer Cymru. Ar sail ymarfer ymgynghori a gyda mewnbwn gan grŵp rhanddeiliaid, datblygwyd dull newydd o weithredu, lle byddai awdurdodau lleol yn cynllunio eu holl anghenion gofal a chymorth gyda'r rhai a oedd yn derbyn y grant byw'n annibynnol yng Nghymru, ac yn trefnu iddo gael ei ddarparu.
Felly, gan ddechrau yn 2017, sefydlwyd cyfnod pontio o ddwy flynedd i sefydlu'r trefniadau hyn. Erbyn diwedd Rhagfyr 2018, roedd tua 1,000 o'r 1,300 a arferai dderbyn y GBAC yn cael eu pecyn gofal cyfan wedi'i drefnu drwy awdurdodau lleol, a disgwylir i'r gweddill gwblhau'r cyfnod pontio hwnnw erbyn diwedd y mis nesaf. I'r rhan fwyaf o'r bobl hynny, mae eu pecyn gofal newydd yr un fath neu'n fwy na'u trefniadau blaenorol, ac i'r bobl hyn, mae'r cyfnod pontio sy'n mynd rhagddo yn cefnogi eu gallu i fyw'n annibynnol, fel y rhagwelwyd. Mewn rhai achosion, mae'n gwella hyn ymhellach nag o'r blaen. Fodd bynnag, i oddeutu 150 o bobl, mae eu cynllun gofal yn llai nag o'r blaen, a gallai hyn fod am resymau penodol. Er enghraifft, clywais am y defnydd effeithiol o dechnoleg fodern a ffocws ar alluogi nid dibyniaeth. Gwyddom o'n hymchwiliadau ein hunain ac o'r arolwg annibynnol o rai sy'n derbyn y grant a gynhaliwyd gan Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu fod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar y canlyniadau hyn, ac mae hyn yn wir hyd yn oed mewn rhai achosion lle mae oriau gofal wedi lleihau, a hynny drwy gytundeb.
Fodd bynnag, mynegwyd pryderon, yn enwedig dros y misoedd diwethaf, am y cyfnod pontio, oherwydd ceir amrywio sylweddol ar draws Cymru—a gwn fod pobl eisoes wedi codi hynny yn y ddadl hon—gyda chanran y rhai sy'n derbyn y grant o fewn yr awdurdod lleol ac sydd wedi gweld gostyngiad yn eu horiau gofal yn dilyn adolygiad gofal trosiannol yn amrywio rhwng 0 y cant a 44 y cant. Ac ar y cam hwn, hoffwn innau hefyd ddiolch i Nathan Davies a'i gydweithwyr o ymgyrch #SaveWILG, am y sylwadau a wnaethant i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. Maent wedi tynnu ein sylw'n ddiflino at anfanteision y cynllun hwn. Rwyf wedi cyfarfod â Nathan ddwywaith yn y tair wythnos ddiwethaf i glywed ei bryderon a cheisio datblygu dull gweithredu newydd, ac roeddwn yn datblygu'r dull newydd hwn cyn y gwyddwn am y ddadl hon heddiw, ond rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhoi cyfle inni drafod beth y mae hyn yn ei olygu yn fwy manwl.
Rwyf wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys y dystiolaeth a gasglwyd drwy adolygiad dwfn a gynhaliwyd gan fy rhagflaenydd, Huw Irranca-Davies, a hoffwn ddiolch iddo am bob ymdrech a wnaeth i edrych ar y mater hwn, ond rwyf wedi dod i'r casgliad fod yr amrywio rhwng awdurdodau lleol yn galw am newid cyfeiriad. Felly ysgrifennais at arweinwyr llywodraeth leol ddoe i ofyn am saib yn y cyfnod pontio ar unwaith, er mwyn cyflwyno trefniadau diwygiedig. Nawr, mae angen gweithio drwy fanylion y trefniadau newydd gyda'r partneriaid llywodraeth leol, ond yr elfennau allweddol rwy'n ceisio eu sicrhau yw'r rhain: yn gyntaf, cynigir asesiad gwaith cymdeithasol annibynnol i'r holl rai a arferai dderbyn y grant sy'n anhapus gyda'u canlyniadau a'u pecyn gofal a chymorth ac a hoffai ail farn. Bydd yr asesiad gwaith cymdeithasol annibynnol, i ateb cwestiwn Helen Mary Jones, yn cael ei wneud gan weithiwr cymdeithasol annibynnol nad yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol ac a fydd yn gwbl annibynnol. Bydd y farn annibynnol hon yn adlewyrchu'r trefniadau a oedd yn bodoli o dan y gronfa byw'n annibynnol ac felly bydd yn adfer system deiran ar gyfer gwneud penderfyniadau.
A gaf fi ofyn cwestiwn? Os yw'n anghywir, fel y mae, i Lywodraeth y DU ddatgan wrth berson ag anabledd difrifol fod yn rhaid iddynt gael eu hailasesu am fod y budd-daliadau wedi newid, i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal olynol, pam y mae'n iawn yng Nghymru i ddweud wrth rywun a oedd yn gymwys i gael budd-dal ar sail eu hanabledd difrifol fod yn rhaid iddynt gael eu hailasesu? Rwy'n deall bod y rhai sydd wedi colli eu pecynnau gofal a chymorth bellach angen eu cael wedi'u hadfer a bod yna broses i'w dilyn, ond pam na allwn ddweud, oherwydd eu bod eisoes yn gymwys ar gyfer y gronfa byw'n annibynnol, yn union fel y lwfans byw i'r anabl yn Lloegr, nad oes yn rhaid iddynt fynd drwy'r broses o ailymgeisio, fel sy'n rhaid iddynt ei wneud gyda'r taliad annibyniaeth personol yn Lloegr?
Nid oes angen i neb gael ei ailasesu os nad ydynt eisiau hynny. Bydd pawb yn cael y cyfle, ond nid oes angen gwneud hynny o gwbl, a gan fod yr arolwg gofalwyr yn dangos bod nifer yn fodlon â'r hyn y maent yn ei gael, nid ydym yn rhagweld y bydd pawb eisiau cael eu hailasesu. Mae'n gyfle i'r bobl sydd am gael eu hailasesu, sy'n anhapus gyda'r trefniant, a chânt gyfle i gael gweithiwr cymdeithasol annibynnol.
Yn ail, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol am gost gweithwyr cymdeithasol annibynnol ac oriau gofal ychwanegol a allai ddeillio o'r asesiadau annibynnol hyn. Mae hyn yn golygu na all fod unrhyw gwestiwn fod y newidiadau i'r pecyn gofal a chymorth yn ymarfer torri costau. Yr egwyddor sylfaenol sy'n sail i gynnal yr asesiad annibynnol yw y dylai'r canlyniad fod yn gyson â'r canlyniadau llesiant y cytunwyd arnynt gyda'r bobl, a gan nad oes rhwystr ariannol, nid oes angen i neb gael gofal a chymorth llai ffafriol nag y byddent yn ei gael o dan grant byw'n annibynnol Cymru.
Mae'r trefniadau hyn yn cydnabod hawl hanesyddol y rhai a arferai dderbyn y grant. Mae'n newid sylweddol i'r dull o weithredu sy'n sicrhau y bydd anghenion y sawl a gâi'r grant yn flaenorol yn cael eu diwallu'n llawn ac nad yw adnoddau'n rhwystr i becyn llawn o ofal a chymorth. Yn wir, credaf fod y trefniadau newydd hyn yn llawer cryfach na grant byw'n annibynnol Cymru, a dyna pam yr ydym yn ceisio newid y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Bydd gwelliant y Llywodraeth yn galluogi'r Cynulliad cyfan i gefnogi fy nghynllun i sefydlu rhywbeth gwell. Byddwn yn derbyn gwelliant y Ceidwadwyr heddiw.
Mae mynediad at asesiad annibynnol ac adnoddau newydd i gefnogi canlyniadau posibl yr asesiadau hyn yn ganolog i'r dull newydd hwn, ac mae Nathan Davies a'i gyd-aelodau o ymgyrch #SaveWILG yn cefnogi, mewn egwyddor, y dull y bwriadaf ei roi ar waith oherwydd y nodweddion allweddol hyn. Yn wir, maent wedi cyhoeddi eu bod yn croesawu'r hyn rwy'n ei ddweud yma heddiw. Ond wrth gwrs, rydym yn rhannu diddordeb cyffredin mewn sicrhau y caiff ei weithredu'n briodol, a dyna un o'r materion allweddol.
I fynd yn ôl at rai o'r cwestiynau eraill a godwyd yn ystod y ddadl: rydym wedi ymrwymo i fodel cymdeithasol a dyna y byddwn yn gweithio arno. Rwy'n credu bod Llyr wedi gofyn am y posibilrwydd o gael comisiwn ar bobl anabl. Gallaf ei sicrhau ein bod yn gwbl ymrwymedig i edrych ar anghenion pobl anabl ac yn y swydd hon, byddaf yn rhoi hynny ar y blaen yn yr hyn a wnawn. A gwn y bu rhai yn galw am imi ymddiheuro. Wel, nid wyf yn bwriadu ymddiheuro heddiw oherwydd lluniwyd y polisi hwn gyda phob ewyllys da. Nid yw'r rhai sy'n derbyn y grant—pobl sy'n anabl ac sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch—eisiau inni ymddiheuro. Maent yn llawenhau ynglŷn â'r hyn a gyflawnwyd gennym. Felly, credaf fod angen inni fwrw ymlaen heddiw i wneud yn siŵr fod y trefniadau newydd hyn yn gweithio a sicrhau bod pobl anabl, y grŵp anabl iawn hwn o bobl, yn cael y gofal gorau posibl y gallant ei gael yn ystod y trefniadau a gyflwynwyd gennym.
Galwaf ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl.
Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ac fe fyddaf yn gryno yn fy sylwadau i gloi. Pan gyflwynodd Plaid Cymru y ddadl hon, roeddem wedi cael blynyddoedd o anhyblygrwydd gan y Llywodraeth hon ar y cwestiwn hwn. Felly, rwy'n falch fod yr anhyblygrwydd hwnnw wedi dod i ben o'r diwedd. Nawr, fe glywsom y prynhawn yma faint o bobl sydd eisoes wedi gweld eu cymorth yn cael ei dorri, ac mae'n dda y bydd y bobl hyn yn cael cyfle i gael eu hachosion wedi'u hadolygu ar sail wirfoddol, ond rwy'n mawr obeithio y bydd y bobl sydd wedi gweld eu cymorth yn cael ei dorri yn ei gael wedi'i adfer yn llawn. Fel arall, rydych mewn perygl o roi pobl drwy broses anodd iawn eto i ddim diben o gwbl.
Cyfeiriodd Helen Mary Jones at ddiffyg hyder dealladwy y rhai sy'n derbyn y grant yn y broses hon. Gwnaeth bwynt ardderchog am ragrith y Torïaid hefyd ar fater budd-daliadau lles. O wrando arnynt hwy, mae fel pe na baent erioed wedi siarad â rhywun sydd wedi colli'r taliad annibyniaeth personol: maent mor bell ohoni. Mae cymaint o bobl wedi'u rhoi drwy uffern. Ddoe ddiwethaf, clywsom Lywodraeth y DU yn cyfaddef bod y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd yn deillio o'r credyd cynhwysol. Does bosib nad yw hynny'n dweud y cyfan sydd angen inni ei wybod.
Diolch i Mike Hedges am ein hatgoffa am bolisi'r Blaid Lafur—diolch i chi am hynny. Hefyd tynnodd sylw at bryderon yr ymgyrchwyr ynghylch toriadau i'r ddarpariaeth hon gan awdurdodau lleol sy'n brin o arian ac o dan bwysau cyni. Er y gall fod gwarantau yno bellach yn y flwyddyn ariannol gyfredol, yr ofn yw beth fyddai wedi digwydd dros y tymor hwy, ac mae'n eithaf amlwg beth fyddai wedi digwydd, mewn gwirionedd. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Llyr, mae'r Senedd yma yn rhoi cyfle inni wneud pethau'n wahanol, i godi pobl, i wella cymorth pobl. 'Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi ein hannibyniaeth', meddai. Wel, rwy'n dweud, 'Amen i hynny.' Mae comisiwn i edrych ar y darlun cyfan sy'n wynebu pobl anabl yn syniad ardderchog, ac rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn gallu cefnogi hynny.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad a wnaeth ddoe. Dywedodd y Gweinidog y gallai rhai pobl fod wedi cael toriad i'w cymorth am nifer o resymau gwahanol. Edrychais ar ddadansoddiad yr adolygiad dwfn a gwelais mai un o'r rhesymau a roddwyd yn yr adolygiad hwnnw oedd y gallai rhai o'r bobl sy'n derbyn grant fod wedi cael toriad i'w lwfans am eu bod bellach yn cael cymorth mewn lleoliad gofal dydd. Wel, y broblem gyda hyn yw cyni, ac mae pob cyngor sy'n brin o arian yn torri eu darpariaeth gofal dydd oherwydd na allant ei fforddio. Felly, efallai na fydd yr hyn sy'n bodoli i bobl yn awr yn bodoli yn y dyfodol. Felly, roedd rhaid edrych ar hyn eto, a rhaid ystyried effaith penderfyniadau eraill a wnaethpwyd mewn mannau eraill yma yn ogystal. Ni ellir ystyried y cwestiwn hwn ar ei ben ei hun.
I bawb sydd wedi talu teyrnged i Nathan Davies, y cyfarfûm ag ef am y tro cyntaf yn ôl yn 2015, efallai fod y gair wedi'i orddefnyddio, ond rhaid i mi ddweud bod Nathan Davies yn ysbrydoliaeth wirioneddol yn y mater hwn. Rwy'n eithaf siŵr y byddwn yn ei weld yn parhau i ymgyrchu ar hawliau anabledd. Rwy'n mawr obeithio y byddwn yn gweld hynny beth bynnag, oherwydd mae'n effeithiol tu hwnt. Mae wedi dangos beth sy'n bosibl drwy ymgyrchu gwleidyddol. Fel y mae rhai o'r cyfranwyr wedi dweud eisoes, nid yw mater y gronfa byw'n annibynnol ar ben. Mae rhagor i'w wneud ar ôl y saib hwn, ac rwy'n siŵr y bydd Nathan yn ymgyrchu dros hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.