Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 13 Chwefror 2019.
Ddoe, gwelsom gyfaddefiad gan y Llywodraeth nad oedd eu holl addewidion blaenorol ynglŷn â sut y byddai symud i ffwrdd oddi wrth system y gronfa byw'n annibynnol yn ddi-boen i'r sawl sy'n ei derbyn yn golygu dim. Daeth y datganiad panig, wedi'i ysgogi'n ddiau gan cynnig Plaid Cymru heddiw, nid yn gymaint o ganlyniad i bryder ynglŷn â'r bobl anabl dan sylw, ond oherwydd nad ydynt am deimlo cywilydd gwleidyddol. Ond sgwarnog oedd y datganiad hwnnw. Nid yw eu cyhoeddiad ond yn oedi diddymu'r grant byw'n annibynnol, nid yw'n ei atal, felly, mewn llawer o ffyrdd, mae'r fwyell yn dal i hongian uwchben pobl anabl.
Dros flwyddyn yn ôl, câi Llywodraeth Cymru ei rhybuddio am y problemau a oedd yn mynd i godi, ond anwybyddodd y rhybuddion a bwrw yn ei blaen beth bynnag. Felly, rhaid i chi fy esgusodi os nad wyf yn derbyn bod eu syndod neu eu hymddiheuriad am y problemau, y caledi a'r pryderon presennol yn ddilys. Nid wyf yn credu ei fod.
Gadewch imi ddweud rhywbeth am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, yr eiliad hon, wrth inni drafod hyn. Ceir dynion a menywod—tebyg i chi a minnau—a allai fod yn eistedd yma gyda ni yn y Siambr hon oni bai bod y dis wedi glanio ar rif gwahanol, ond yn wahanol i ni, mae ganddynt anabledd sydd wedi eu hamddifadu o lawer o'r cyfleoedd, y rhyddid, y cyfleoedd a'r dewisiadau mewn bywyd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu eu cymryd yn ganiataol. Nid ydym i fod i edrych ar y bobl hyn fel ffigurau ar daenlen neu fel rhan o hafaliad cyfrifyddiaeth. Efallai fod y Llywodraeth hon yn diffinio'r rhai sy'n derbyn y grant byw'n annibynnol yn ôl eu hanabledd, ond maent yn llawer mwy na hynny; dyma bobl sydd â phob un o'r gobeithion, y breuddwydion, y dyheadau a'r dymuniadau ag sydd gennych chi a minnau bob dydd. Ac ni ellid cyhuddo'r ychydig o bobl sy'n cael y grant byw'n annibynnol o fod yn ddiog mewn unrhyw ffordd, o beidio â thrafferthu edrych am waith yn iawn neu o geisio chwarae'r system. Dyma'r bobl fwyaf difreintiedig a mwyaf agored i niwed yng Nghymru ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yn mynd â'u harian i sybsideiddio coffrau cynghorau lleol. Mae dileu peth o'u gobaith a gwneud iddynt boeni ynglŷn â'r modd y mae eu bywydau yn mynd i fod hyd yn oed yn fwy anodd, mewn ymdrech i wneud i'r llyfrau ariannol edrych ychydig bach yn well, yn greulon ac yn gwbl gywilyddus.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymryddhau o'u cyfrifoldeb mewn ymarfer sinigaidd er mwyn torri costau. Mae'r unigolion a'r elusennau dan sylw oll yn erbyn y cam hwn, a phan fo Llafur yn dweud y bydd yr un swm o arian yn cael ei wario ar bobl anabl, yr hyn a olygant yw y byddant yn mynd ag arian oddi wrth unigolion sy'n ei dderbyn ac yn ei roi i awdurdodau lleol ei ddefnyddio fel y mynnant. Yna byddant yn beio'r awdurdod lleol os yw pethau'n mynd o'i le i bobl anabl. Cyfran yn unig o'r arian a arferai fynd yn uniongyrchol i'r bobl anabl a oedd yn ei dderbyn fydd yn cael ei wario ar gymorth ystyrlon mewn gwirionedd. Maent yn rhoi'r arian hwn i gynghorau er mwyn cadw'r dreth gyngor yn isel yn y gobaith y bydd pobl yn pleidleisio i Lafur mewn etholiadau lleol. Mae'r Llywodraeth yn gwybod na werir yr arian i gyd ar yr unigolyn y cafodd ei wario arno hyd yma—dyna'r rheswm dros ei wneud—fel arall, byddent yn gadael llonydd iddo. Ac mae'r post brys a gefais gan berson anabl ddoe, fel Aelodau eraill yn y lle hwn o bosibl, yn ategu hyn. Yn ystod y broses o golli ei grant byw'n annibynnol, mae hi wedi profi adolygiad annigonol a'i harian wedi cael ei dorri yn ei hanner. Cyn gynted ag y daeth yn amlwg y gallai'r cynghorau roi'r hyn nad oeddent yn ei wario ar y rhai a gâi'r grant mewn pot gofal cymdeithasol generig, mae'n dweud ei bod hi'n gwybod y byddai'r bobl fwyaf agored i niwed, fel hithau, ar eu colled. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Roeddwn yn gwybod na allai fod dim ond anghyfiawnder i bob un o'r rheini sy'n mynd i gael eu hailasesu. Pobl fel fi y mae eu bywydau'n mynd i newid i fod yn ddim ond bodoli ar lefel sylfaenol yn unig o fod yn fywydau cyflawn a gwerth chweil.
Byddai trethdalwyr Cymru yn hapusach o lawer yn meddwl bod eu trethi a enillwyd drwy waith caled yn talu i berson anabl gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn hytrach na thalu cyflog i weithiwr cyngor am ddweud wrth berson anabl eu bod yn mynd i gael llai o gymorth nag o'r blaen.
Felly, yn olaf, galwaf ar Lywodraeth Cymru i fod yn gynhwysol ac i beidio â gweithredu mewn ffordd a fydd yn gwneud i bobl feddwl eich bod yn anwybyddu anghenion pobl anabl, a hynny'n unig am nad oes digon ohonynt i bleidleisio yn eich erbyn ac effeithio ar ganlyniad eich ymgyrch etholiadol nesaf. Galwaf arnoch i newid eich penderfyniad i ddiddymu'r grant byw'n annibynnol. Diolch.