Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cymorth i fyw'n annibynnol pan fydd angen y cymorth hwnnw arnynt. Sefydlwyd y gronfa byw'n annibynnol dros 30 mlynedd yn ôl ar draws y DU i gynorthwyo pobl anabl ag anghenion cymhleth i fyw'n annibynnol. Caeodd Llywodraeth y DU y cynllun hwn i newydd-ddyfodiaid yn 2010, ac yn 2015 fe wnaethant drosglwyddo cyfrifoldeb amdano i'r gweinyddiaethau datganoledig. Ar y pryd, er mwyn sicrhau dilyniant o ran y cymorth, sefydlodd Llywodraeth Cymru drefniadau dros dro drwy greu grant byw'n annibynnol ar gyfer Cymru. Ar sail ymarfer ymgynghori a gyda mewnbwn gan grŵp rhanddeiliaid, datblygwyd dull newydd o weithredu, lle byddai awdurdodau lleol yn cynllunio eu holl anghenion gofal a chymorth gyda'r rhai a oedd yn derbyn y grant byw'n annibynnol yng Nghymru, ac yn trefnu iddo gael ei ddarparu.
Felly, gan ddechrau yn 2017, sefydlwyd cyfnod pontio o ddwy flynedd i sefydlu'r trefniadau hyn. Erbyn diwedd Rhagfyr 2018, roedd tua 1,000 o'r 1,300 a arferai dderbyn y GBAC yn cael eu pecyn gofal cyfan wedi'i drefnu drwy awdurdodau lleol, a disgwylir i'r gweddill gwblhau'r cyfnod pontio hwnnw erbyn diwedd y mis nesaf. I'r rhan fwyaf o'r bobl hynny, mae eu pecyn gofal newydd yr un fath neu'n fwy na'u trefniadau blaenorol, ac i'r bobl hyn, mae'r cyfnod pontio sy'n mynd rhagddo yn cefnogi eu gallu i fyw'n annibynnol, fel y rhagwelwyd. Mewn rhai achosion, mae'n gwella hyn ymhellach nag o'r blaen. Fodd bynnag, i oddeutu 150 o bobl, mae eu cynllun gofal yn llai nag o'r blaen, a gallai hyn fod am resymau penodol. Er enghraifft, clywais am y defnydd effeithiol o dechnoleg fodern a ffocws ar alluogi nid dibyniaeth. Gwyddom o'n hymchwiliadau ein hunain ac o'r arolwg annibynnol o rai sy'n derbyn y grant a gynhaliwyd gan Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu fod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar y canlyniadau hyn, ac mae hyn yn wir hyd yn oed mewn rhai achosion lle mae oriau gofal wedi lleihau, a hynny drwy gytundeb.
Fodd bynnag, mynegwyd pryderon, yn enwedig dros y misoedd diwethaf, am y cyfnod pontio, oherwydd ceir amrywio sylweddol ar draws Cymru—a gwn fod pobl eisoes wedi codi hynny yn y ddadl hon—gyda chanran y rhai sy'n derbyn y grant o fewn yr awdurdod lleol ac sydd wedi gweld gostyngiad yn eu horiau gofal yn dilyn adolygiad gofal trosiannol yn amrywio rhwng 0 y cant a 44 y cant. Ac ar y cam hwn, hoffwn innau hefyd ddiolch i Nathan Davies a'i gydweithwyr o ymgyrch #SaveWILG, am y sylwadau a wnaethant i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. Maent wedi tynnu ein sylw'n ddiflino at anfanteision y cynllun hwn. Rwyf wedi cyfarfod â Nathan ddwywaith yn y tair wythnos ddiwethaf i glywed ei bryderon a cheisio datblygu dull gweithredu newydd, ac roeddwn yn datblygu'r dull newydd hwn cyn y gwyddwn am y ddadl hon heddiw, ond rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhoi cyfle inni drafod beth y mae hyn yn ei olygu yn fwy manwl.
Rwyf wedi ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys y dystiolaeth a gasglwyd drwy adolygiad dwfn a gynhaliwyd gan fy rhagflaenydd, Huw Irranca-Davies, a hoffwn ddiolch iddo am bob ymdrech a wnaeth i edrych ar y mater hwn, ond rwyf wedi dod i'r casgliad fod yr amrywio rhwng awdurdodau lleol yn galw am newid cyfeiriad. Felly ysgrifennais at arweinwyr llywodraeth leol ddoe i ofyn am saib yn y cyfnod pontio ar unwaith, er mwyn cyflwyno trefniadau diwygiedig. Nawr, mae angen gweithio drwy fanylion y trefniadau newydd gyda'r partneriaid llywodraeth leol, ond yr elfennau allweddol rwy'n ceisio eu sicrhau yw'r rhain: yn gyntaf, cynigir asesiad gwaith cymdeithasol annibynnol i'r holl rai a arferai dderbyn y grant sy'n anhapus gyda'u canlyniadau a'u pecyn gofal a chymorth ac a hoffai ail farn. Bydd yr asesiad gwaith cymdeithasol annibynnol, i ateb cwestiwn Helen Mary Jones, yn cael ei wneud gan weithiwr cymdeithasol annibynnol nad yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol ac a fydd yn gwbl annibynnol. Bydd y farn annibynnol hon yn adlewyrchu'r trefniadau a oedd yn bodoli o dan y gronfa byw'n annibynnol ac felly bydd yn adfer system deiran ar gyfer gwneud penderfyniadau.