Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 13 Chwefror 2019.
Gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei sylwadau? Mae e wedi fy atgoffa i o’r eironi fan hyn bod Plaid Cymru yn gorfod gosod cynnig er mwyn trio perswadio Llywodraeth Lafur i ymrwymo eu hunain i’w polisi nhw eu hunain. Felly, mae hwnna’n dweud rhywbeth am ble mae’r Llywodraeth yma yn ffeindio ei hun ar hyn o bryd. A dyma’r blaid, wrth gwrs, sy’n honni eu bod nhw ‘for the many’—nage. ‘For the many, not the few’, ie, ie, dyna fe. Dwi wedi drysu heddiw. Ond pwy ydyn ni’n sôn amdanyn nhw? Pwy maen nhw’n ei gynrychioli? Wel, os ydyn ni’n sôn am grŵp sydd angen cynrychiolaeth ac angen llais i siarad drostyn nhw, yna'r 1,300 o bobl sydd wedi bod yn ddibynnol ar y grant byw yn annibynnol yma yw’r rheini. Y 1,300 o bobl sydd wedi dioddef, fel rŷn ni wedi clywed, gofid a phryder dros y ddwy flynedd diwethaf ynglŷn â goblygiadau colli’r grant yna. Ac mae’r tro pedol rŷn ni wedi gweld gan y Llywodraeth yn dod 24 awr cyn y ddadl yma gan Blaid Cymru'r prynhawn yma—newyddion i’w groesawu, wrth gwrs ei fod e i’w groesawu, a dwi’n deall mai’r bwriad nawr yw gwneud ychydig mwy o ymchwil i weld beth yw’r opsiynau o safbwynt datblygu cynllun amgen neu amrywio’r cynllun. Wel, fy mhle i, felly, yw ichi wrando ar dystiolaeth y rhai hynny sy’n derbyn yr arian, eu teuluoedd a’u gofalwyr, pan ŷch chi’n dod i edrych ar yr opsiynau wrth symud ymlaen.
Nawr, mae llawer o’r drafodaeth yn amlwg yn ffocysu, ac wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, ar yr elfen ariannu, ond dwi yn meddwl ei bod hi’n bwysig inni atgoffa’n hunain, wrth gwrs, o bwysigrwydd yr elfen byw yn annibynnol. Mae profiadau’r rhai hynny sy’n derbyn y grant yn eu harwain i ofni y byddai bywyd o dan reolaeth cyngor sir yn llawer mwy rhagnodol, mwy prescriptive, a hynny yn risgio tynnu annibyniaeth i ffwrdd oddi wrthyn nhw. Mae’r toriadau llym mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, wedi eu dioddef yn golygu ei bod hi bron yn anochel, efallai, y byddai’r systemau a’r cyfundrefnau yn fwy rhagnodol oherwydd yr angen i brofi gwerth am arian. Ond beth yw gwerth gwerth am arian os yw gwerth bywyd ac ansawdd bywyd yn dirywio o ganlyniad i hynny? Sut allwch chi fesur safon bywyd person ar daenlen cyllideb ar ddiwedd blwyddyn ariannol? Mae derbynwyr y grant yma eisoes yn gaeth oherwydd amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth nhw. Maen nhw’n gaeth i’w cartrefi, yn gaeth i gadair olwyn, yn gaeth i feddyginiaeth, efallai. Mae hyn oll yn cyfyngu ar eu dewisiadau nhw mewn bywyd, a’r peth olaf maen nhw ei eisiau yw bod yn gaeth ymhellach i reolau ariannol a biwrocrataidd cynghorau sy’n gorfod, wrth gwrs, cyfrif pob ceiniog er mwyn profi gwerth am arian.