Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 13 Chwefror 2019.
Rwy'n meddwl bod anhawster sylfaenol—[Torri ar draws.] Mae anhawster sylfaenol gyda charcharorion ar remánd, ond mae'n bwynt diddorol y mae angen inni edrych arno.
Nawr, os caf ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud, ar y llaw arall, ceir carcharorion o Loegr yng ngharchardai Cymru na fydd yn cael pleidleisio mewn etholiad Cynulliad. Felly, mewn llawer o garchardai, bydd gennych garcharorion yn yr un adain, a rhai ohonynt yn cael pleidleisio ac eraill na fyddent yn cael gwneud hynny. Yr hyn na fydd gennych fydd cyfle cyfartal, a gallai'r anghydraddoldeb arwain o bosibl at ostwng morâl yn yr adain yn hytrach na'i godi, felly rwy'n credu bod angen inni droedio'n ofalus yma.
Ymwelsom â charchar y Parc, fel y soniodd John Griffiths. Cyfarfuom â charcharorion, cyfarfuom â swyddogion carchar a chyfarfuom â chyfarwyddwr y carchar. Nawr, mae ganddynt system freintiau yn y carchar hwnnw. Tybed a fyddai'r system freintiau o unrhyw ddefnydd i benderfynu a ellid caniatáu i garcharor bleidleisio ai peidio—efallai ei fod yn syniad naïf. Credai cyfarwyddwr y carchar fod hyn yn anymarferol iawn ac ar ôl ystyried, credaf y byddai'n annhebygol gan eich bod yn rhoi hawl i gyfarwyddwr y carchar a swyddogion y carchar i ddweud pwy sy'n cael a phwy nad yw'n cael pleidleisio, sy'n sylfaenol annemocrataidd mae'n debyg. Felly, o gofio'r holl anawsterau hyn, cawn ein harwain wedyn i mewn i ddyfroedd tywyll iawn caniatáu i bob carcharor bleidleisio. Credaf fy mod yn cytuno â'r pwyntiau a nododd Mark Isherwood yn ystod y ddadl flaenorol yn y Siambr nad yw'r posibilrwydd y caiff troseddwyr treisgar fel llofruddion a threiswyr rhywiol bleidlais yn debygol o ennill llawer o gefnogaeth o blith yr etholwyr yn ehangach. A dyfynnodd eto heddiw y ffigur o 9 y cant o arolwg YouGov a gynhaliwyd yn 2017. Felly, rwy'n credu mai ychydig iawn o gefnogaeth gyhoeddus sydd yna i hyn. Nid oedd ym maniffesto Llafur na Phlaid Cymru; credaf mai haerllugrwydd braidd yw ceisio cyflwyno hyn o dan y radar. Diolch yn fawr iawn.