Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 13 Chwefror 2019.
Rwy'n dod at hyn nid oherwydd gwrthwynebiad llwyr i'r gair 'Ewrop' a bod unrhyw sefydliad sy'n cynnwys y disgrifydd hwnnw'n anghywir felly fel mater o egwyddor ac yn ymarferol. Mae fy ymagwedd ychydig yn wahanol, er bod cyflwyniad Neil Hamilton i'r ddadl hon o leiaf wedi ceisio dadlau ar sail egwyddor yn ogystal â chwifio penawdau papur newydd arnom.
Ond gadewch i mi ddweud hyn: credaf fod hyn yn bwysig—pan wneuthum ddatganiad i'r lle hwn fel Gweinidog ar 30 Ionawr y llynedd, gwneuthum ddatganiad y gobeithiwn ei fod wedi'i wreiddio mewn egwyddor a'r ymrwymiad athronyddol i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb a ddylai fod yn nodweddu'r lle hwn. Os ydym i fod yn Senedd yn y dyfodol, mae'r penderfyniadau a wnawn a'r ymagwedd a gymerwn tuag at y penderfyniadau hynny o bwys sylfaenol i ddinasyddion y wlad hon. I mi, pan fyddwn yn carcharu rhywun, pan fyddwn yn mynd â'u rhyddid oddi wrthynt, rydym yn mynd â'u rhyddid er mwyn gwneud rhai o'r pethau a ddisgrifiodd Neil Hamilton. Yr hyn nad ydym yn ei wneud, a'r hyn na ddylem byth geisio ei wneud, yw mynd â'u hunaniaeth oddi wrthynt, mynd â'u dinasyddiaeth oddi wrthynt, mynd â'u hawliau oddi wrthynt fel unigolion ac fel bodau dynol. Mae hwnnw'n gynnig gwahanol. Y gosb y maent yn ei chael yw colli eu rhyddid, a dyna'r pwynt y dylem ddechrau gydag ef.
Ond dylem hefyd ddechrau ar bwynt gwahanol o egwyddor, pwynt o egwyddor sydd wedi'i wreiddio mewn adsefydlu, ac un o rannau gwannaf y system sydd gennym ar gyfer ymdrin â chyfiawnder troseddol yn y wlad hon yw'r gwasanaethau 'drwy'r gât' wrth i garcharorion ddod at ddiwedd eu dedfryd a'u dwyn yn ôl i'r gymuned, a buom yn trafod hynny gyda chwestiwn brys ac amserol yn gynharach y prynhawn yma. I mi, pan edrychaf ar y mater hwn, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i drin pobl drwy gydol eu cyfnod yn y carchar fel dinasyddion y wlad hon ac fel dinasyddion rydym yn gobeithio y byddant yn chwarae rhan bwysig yn eu cymunedau yn y dyfodol, fel dinasyddion cyfrifol. Teimlwn fod y cynnig a wneuthum i'r lle hwn yn lle rhesymol i fod, lle bydd rhywun sydd wedi'i ddedfrydu i garchar am gyfnod o amser a lle rhagwelir y bydd eu dyddiad rhyddhau o fewn tymor yr awdurdod sy'n cael ei ethol—llywodraeth leol yn yr achos hwn, wrth gwrs—byddai'n gallu pleidleisio mewn etholiad i'r awdurdod hwnnw. Byddant yn ddinasyddion sy'n byw yn y lle hwnnw yn ystod tymor yr awdurdod hwnnw sy'n cael ei ethol, ac roeddwn yn meddwl bod honno'n egwyddor go bwysig, oherwydd nid ydym yn amddifadu neb o'u hawl i bleidleisio a gedwir yn y carchar dros gyfnod estynedig o amser—dedfryd am oes neu ddedfryd hir—ond mewn gwirionedd rydym yn galluogi rhywun i ddewis yr awdurdod lleol, yn yr achos hwn, ac i gymryd rhan mewn etholiad lle maent hwy eu hunain yn byw yn y gymuned honno yn ystod tymor yr awdurdod hwnnw, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig i'w wneud. Rydym eisoes yn gwneud hyn gyda charcharorion ar remánd, wrth gwrs; maent eisoes yn cymryd rhan ac yn gallu gwneud hynny. Maent yn gwneud hynny gyda chyfeiriad cysylltiedig—ni cheir yr un o'r problemau y ceisiodd arweinydd UKIP eu mynegi yn ei gyfraniad. Nid oes yr un o'r materion hyn yn berthnasol ac nid ydynt wedi bod yn berthnasol ar unrhyw adeg, lle mae anawsterau wedi codi. A gadewch imi ddweud hyn: mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd resymegol sydd wedi'i gwreiddio mewn egwyddor, sydd wedi'i gwreiddio mewn ymrwymiad athronyddol i gyfiawnder cymdeithasol, ond hefyd lle ceir cymhwysiad ymarferol.
Mae'n amlwg i mi fod y trefniadau a'r strwythurau eisoes yn eu lle, ac yn sicr, fel Gweinidog, roeddwn yn glir iawn nad oedd unrhyw rwystrau ymarferol mawr i allu cyflawni hyn. Mae'r strwythurau sydd gennym ar waith, hawl carcharor i gael gohebiaeth gan swyddog canlyniadau etholiadol, eisoes yn bodoli, mae hawl carcharor i gael yr ohebiaeth yn breifat ac i wneud penderfyniad ar sail yr ohebiaeth honno eisoes yn bodoli. Mae'r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi gwneud asesiad o sut y gallai hyn weithredu yn ymarferol, a diwygiwyd y ddeddfwriaeth berthnasol eisoes yn 2000 i alluogi hyn i ddigwydd. Felly, nid oes unrhyw gymwysiadau ymarferol na phroblemau ymarferol ynghlwm wrth y mater hwn. Pwy ydym fel gwlad, fel pobl, fel cymuned sy'n bwysig i mi. Rwyf am weld carcharorion sy'n cael eu cadw ar hyn o bryd mewn carchardai naill ai yma neu yn rhywle arall yn cael eu rhyddhau ar bwynt lle byddant yn dod yn ddinasyddion cyfrifol yn y wlad hon. Ac mae angen inni ddechrau eu trin fel dinasyddion cyfrifol nid ar y pwynt y cânt eu rhyddhau, ond ar y pwynt lle maent yn dal i fod wedi'u carcharu, lle gallwn ddechrau ar y broses o adsefydlu.
Un o'r argyfyngau go iawn—ac rwy'n siŵr fod Mr Hamilton yn ymwybodol o hyn—yw bod adsefydlu bob amser yn dechrau pan fydd hi'n rhy hwyr, a phan fydd eisoes yn mynd i fethu. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny fel dull cydlynol a chyfannol o'r dechrau. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn pleidleisio y prynhawn yma i gefnogi'r egwyddorion hynny a bod y pwyllgor yn ystod ei waith hefyd yn dod i'r casgliad hwnnw ac y byddwn yn gallu deddfu ar y materion hyn cyn diwedd y Senedd hon.