Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 13 Chwefror 2019.
Nawr, mae rhoi pleidlais i garcharorion yn fater pwysig yn fy marn i. Mae gennyf ychydig o bryderon ynglŷn â chyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd, fel y mae John Griffiths newydd esbonio, mae ymchwiliad yn mynd rhagddo ar y mater hwn gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau rwy'n aelod ohono. Yn gyffredinol, nid wyf yn credu bod achub y blaen ar ganlyniad ymchwiliad yn arfer da, ond a bod yn deg, cawsom ddadl ar nifer o faterion amrywiol yn ymwneud â chyfiawnder troseddol yn y Siambr ychydig wythnosau yn ôl, ac nid ni a gyflwynodd honno, ond yn sicr roedd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn cyfleu negeseuon cryf ar y mater hwn. Felly, credaf fod y ddadl eisoes wedi achub y blaen ar yr ymchwiliad i ryw raddau.
I ailadrodd yr hyn a ddywedwyd bythefnos yn ôl, dywedodd Jane Hutt ar ran y Blaid Lafur fod Llywodraeth Cymru yn aros am ganlyniad ein hymchwiliad ond ar yr un pryd roedd yn paratoi Bil Llywodraeth ar y mater hwn. Wel, mae Bil yn ymrwymiad mawr ac nid ydych yn paratoi Bil os nad ydych o ddifrif yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth. Felly, credaf fod hyn yn dweud wrthym fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi penderfynu y bydd yn ymestyn yr hawl i garcharorion bleidleisio, er nad ydynt yn dweud hynny'n benodol, er gwaethaf y ffaith nad ydym wedi gorffen ymchwiliad y pwyllgor eto.
O'u rhan hwy, roedd Plaid Cymru, a gyflwynodd y ddadl, yn awyddus i gynnwys hawl carcharorion i bleidleisio yng ngeiriad eu cynnig. Rhoddodd hyn arwydd cryf i ni, rwy'n credu, eu bod yn dymuno ymestyn yr etholfraint i garcharorion bleidleisio yng Nghymru. Felly, unwaith eto, credaf fod hyn yn achub y blaen ar yr ymchwiliad, mewn ysbryd yn sicr os nad o ran yr union eiriad. Felly, credaf y gallwn gyfiawnhau cyflwyno'r ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, byddaf yn ymdrechu i barhau i wrando ar dystiolaeth ymchwiliad y pwyllgor.
Nawr, mae fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton, wedi nodi rhai o'r prif wrthwynebiadau moesol i ganiatáu i garcharorion bleidleisio o gwbl, sef safbwynt UKIP yn y bôn—ein bod ymhell o fod eisiau ymestyn y bleidlais i gynnwys carcharorion, ac yn hytrach, y byddai'n well gennym anwybyddu dyfarniad hurt Llys Hawliau Dynol Ewrop ar hyn a pheidio â chaniatáu i unrhyw garcharor bleidleisio o gwbl. Os mai'r gwrthwynebiad mawr i hyn yw bod angen inni gydymffurfio â Llys Hawliau Dynol Ewrop, dyma yw ein safbwynt: rydym yn gadael yr UE a Llys Cyfiawnder Ewrop er mwyn cael rheolaeth dros ein deddfau ein hunain, wedi'r cyfan dyna y pleidleisiodd y mwyafrif o bobl y DU drosto. Felly, pam na allwn adael Llys Hawliau Dynol Ewrop hefyd a chael ein bil hawliau Prydeinig ein hunain? Felly, dyma gyd-destun gwleidyddol ein gwrthwynebiad i'r egwyddor o roi hawl i garcharorion gael pleidleisio.
Nawr, yr hyn y mae ein hymchwiliad eisoes wedi'i ddangos hyd yn hyn yw'r nifer o anawsterau technegol a logistaidd sy'n debygol o godi os ewch ar hyd y llwybr o geisio ymestyn yr etholfraint i gynnwys carcharorion. Ceir anawsterau mawr, er enghraifft, mewn perthynas â chyfeiriad cofrestredig carcharorion. Ceir carcharorion gyda chyfeiriadau yng Nghymru sydd mewn carchardai yn Lloegr. Felly, gallai rhai carcharorion a gedwir mewn carchardai yn Lloegr gael caniatâd i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad Cymru. Bydd hynny'n anodd i'w drefnu. Hyd yn oed os oes ganddynt y bleidlais honno'n ddamcaniaethol, a fyddant yn gallu bwrw eu pleidlais yn ymarferol? Ac fel arall, ceir carcharorion o Loegr yng ngharchardai Cymru na fydd ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad.