Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 13 Chwefror 2019.
Rwyf am gyfrannu at y ddadl hon mewn ysbryd myfyriol—nid i achub y blaen ar ganlyniad y pwyllgor rwy'n aelod ohono dan arweiniad John Griffiths, ond wrth agor, rwyf am ddiolch i garcharorion a staff y carchar a swyddogion carchar y Parc, lle buom ar ymweliad y diwrnod o'r blaen. Fe'm trawyd gan ba mor huawdl, gwybodus a deallus oedd y trafodaethau gyda'r carcharorion a staff y carchar. Dywedodd rhai o'r carcharorion wrthym, yn y grŵp yr oeddem ni ynddo, 'Byddech yn synnu pa mor wybodus ydym ni a ninnau'n gaeth am 14 awr y dydd, faint o deledu gwledyddol y byddwn yn ei wylio a faint o bapurau newydd y byddwn yn eu darllen. Rydym yn wybodus iawn am bethau.' Felly, hoffwn ddiolch iddynt ac rwy'n edrych ymlaen at yr ymweliad yfory.
A gaf fi fynd yn ôl ychydig i pam yr ydym lle'r ydym? Mae'r rheswm pam ein bod yn amddifadu carcharorion o'r etholfraint yn dyddio'n ôl i'r canol oesoedd a mater marwolaeth ddinesig—y syniad eich bod yn fforffedu eich eiddo os oeddech yn mynd i garchar. Oherwydd eich bod wedi fforffedu eich eiddo, roeddech yn fforffedu'r hawl i bleidleisio, oherwydd roedd yr oedd yr hawl i bleidleisio yn seiliedig ar berchnogaeth eiddo, ac ati. Felly, mae iddo gynsail canoloesol—[Torri ar draws.] Wel, mae'n mynd yn ôl cyn hynny mewn gwirionedd, mae'n ganoloesol—yn 1870 y cafwyd y Ddeddf Fforffediad, a oedd yn sôn am y contract cymdeithasol bryd hynny yn ogystal.
Felly, mae hanes hir a rhyfedd yn perthyn i hyn, ond os caf ddod ychydig bach yn fwy diweddar, ers 2005, lle roedd gwaharddiadau o fewn gwledydd ar hawl carcharorion i bleidleisio, canfuwyd bod hyn yn torri deddfwriaeth hawliau dynol rhyngwladol. Nododd Llys Hawliau Dynol Ewrop, nad yw'n gorff yr UE—ceir dryswch ynglŷn â hynny weithiau—fod y gwaharddiad cyffredinol ar hawl carcharor i bleidleisio yn ddiwahân ac yn anghymesur. Ac wrth gwrs, fel y mae sawl un o'r cyfranwyr eisoes wedi nodi yn y ddadl hon, ym mis Tachwedd 2017, rhoddodd Llywodraeth y DU hawl i bleidleisio yn y DU i garcharorion a ryddhawyd ar drwydded dros dro—neu dan gyfyngiad yn y cartref, ar remánd, fel y byddwn yn aml yn ei alw, dan gyfyngiad, dan gyrffyw. Yn wir, dosbarthwyd canllawiau y flwyddyn honno, a rhoddwyd taflenni i'r holl garcharorion, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthym.
Nawr, ym mis Mai 2018, argymhellodd Pwyllgor Cydraddoldebau a Hawliau Dynol Senedd yr Alban y dylid codi'r gwaharddiad yn ei gyfanrwydd yn yr Alban—a cheir amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn—ond gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth yr Alban. Wrth gwrs, fel y clywsom, mae'r pwyllgor dan arweiniad John Griffiths, ar anogaeth neu wahoddiad y Llywydd, bellach yn edrych ar y mater yng Nghymru, gyda'n pwerau ar gyfer y Cynulliad ac etholiadau lleol. Ac wrth gwrs, yn ddiweddar iawn yn y ddadl a gawsom ar 30 Ionawr, pleidleisiodd y Cynulliad 36 i 14 gydag un yn ymatal o blaid yr egwyddor o bleidlais i garcharorion. Rwy'n nodi bod hynny ychydig yn fyr o'r uwchfwyafrif sydd ei angen i newid y farn ar hyn mewn gwirionedd.
Felly, mae sawl maes yn y cysyniad hwnnw, o ddifreinio llwyr i ryddfreinio llwyr, lle mae'r pwyllgor yn edrych gyda diddordeb ar hyn. Egwyddor hyn—. Fel y gwyddom o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn ôl yn 2007, yn yr ymgynghoriad hwnnw, roedd 50 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno gyda chaniatáu i garcharorion gofrestru ar gyfer bwrw pleidlais ac roedd 48 y cant yn anghytuno; gwahaniaeth o 2 y cant—lle clywsom hynny o'r blaen?—ond yn agos iawn. Edrychodd ar hyd dedfrydau, a ddylai hyd dedfryd fod yn ffactor ai peidio wrth benderfynu pa garcharorion a ddylai fod yn gymwys i gael yr etholfraint, neu ddifrifoldeb troseddau, a'r materion technegol y clywsom gyfeirio atynt ynglŷn â dull a'r cyfeiriad. Os caf nodi wrth gwrs—a hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn y llyfrgell yma yn y Senedd am hyn—mae 4,700 o bobl Cymru yn y carchar, a chaiff 37 y cant ohonynt eu cadw yn Lloegr, felly ceir materion technegol yma, a cheir 261 o garcharorion sy'n fenywod o Gymru, a phob un ohonynt yn cael eu cadw mewn 12 carchar yn Lloegr. Felly, mae yna faterion technegol sy'n codi, ond nid ydynt yn anorchfygol.
Nawr, os caf droi at faterion eraill sy'n berthnasol i hyn: troseddwyr ifanc. Aethom i garchar y Parc yn ddiweddar—. Pe baem ni, o fewn y sefydliad democrataidd hwn, yn gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a 17, beth fyddai hynny'n ei olygu o ran troseddwyr ifanc yn ogystal? Ac i roi sylw i enghreifftiau o wledydd eraill, soniais yn gynharach fod gan wledydd gwahanol ddulliau o weithredu, ac mae'r mwyafrif o wledydd democrataidd bellach yn ymestyn yr etholfraint mewn ffyrdd gwahanol i boblogaeth y carchardai, ond mae hynny'n digwydd mewn gwahanol ffyrdd, ac i raddau gwahanol.
A gaf fi droi yn fyr iawn, yn fy sylwadau i gloi, at y cysyniad o pam, os o gwbl, y dylai carcharorion gael hyn? Dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol, yr Arglwydd Hurd,
Pe bai carcharorion yn cael y bleidlais byddai ASau yn dangos tipyn mwy o ddiddordeb yn yr amodau mewn carchardai.
A gaf fi droi fy sylw at hunanladdiad Vikki Thompson, carcharor trawsryweddol, oherwydd y driniaeth a'r cam-drin a ddioddefodd mewn y carchar i ddynion yn unig; y methiant parhaus i fynd i'r afael â thrais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol parhaus y tu ôl i'r bariau ymhlith poblogaeth y carchardai; y ffaith mai carcharorion du yw 15 y cant o boblogaeth y carchardai, o gymharu â 2 y cant o boblogaeth y wlad i gyd—maent dros saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd rhag pleidleisio tra'u bod yn y carchar? A gallwn fynd ymlaen. Fel y dywedodd y Goruchaf Lys yng Nghanada, mae difreinio yn fwy tebygol o ddod yn broffwydoliaeth hunangyflawnol nag ysgogiad i ailintegreiddio. Mae amddifadu unigolion sydd mewn perygl o'u hymdeimlad o hunaniaeth gyfunol a'u haelodaeth o'r gymuned yn annhebygol o ennyn ymdeimlad o gyfrifoldeb a hunaniaeth gymunedol, tra bod yr hawl i gymryd rhan drwy bleidleisio yn helpu i addysgu gwerthoedd democrataidd a chyfrifoldeb cymdeithasol.
Rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymchwiliad yfory pan fyddwn yn mynd i'r carchar yng Nghaerloyw, carchar i fenywod yn unig. Credaf fod hwn yn ymchwiliad diddorol, ond rwy'n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o deimlad inni yma—golau yn fwy na gwres—ynglŷn â'r ffordd y gallai'r sefydliad democrataidd hwn fod eisiau bwrw ymlaen.