– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 19 Chwefror 2019.
Wrth i ni gychwyn y prynhawn yma, mae'n briodol i ni gofio am gyfraniad yr Aelod Seneddol Paul Flynn i fywyd gwleidyddol Casnewydd a Chymru. Dyn hoffus a charedig, triw i'w wlad ac i'r Senedd yma, gydag annibynniaeth barn a chadernid egwyddor yn nodweddu ei fywyd gwleidyddol. Coffa da amdano, a phob cydymdeimlad i'w deulu a'i ffrindiau oll.