Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 19 Chwefror 2019.
Llywydd, mae cod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru yn nodi'r gofynion y mae Gweinidogion Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac eraill yn y mater hwn. Fel y dywed Suzy Davies, nid y cod yw'r unig fater sydd ar waith. Ond mae'n rhaid ystyried pob cyfres o amgylchiadau ar ei rhinweddau ei hun, ac rwy'n credu y ceir y ddealltwriaeth orau o'r rhwymedigaethau eraill y mae angen i sefydliadau sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau hyn eu cymryd i ystyriaeth, rwy'n credu, yn y cyd-destun lleol hwnnw a'u cyfrifoldeb nhw yw eu pwyso a'u mesur.