1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Chwefror 2019.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i gau ysgolion yn Abertawe? OAQ53443
Wel, diolch yn fawr, Llywydd, a, chyda'ch caniatâd, hoffwn adleisio rhai o'r geiriau yr ydych chi newydd eu mynegi am Paul Flynn. Gwas enfawr i ddinas Casnewydd, siaradwr hynod yn Nhŷ'r Cyffredin ac ar lwyfannau mewn mannau eraill yng Nghymru, ond rhywun yr wyf i'n credu y bydd yn cael ei gofio fwyaf am siarad ar ran pobl ac achosion lle'r oedd ond ychydig o gefnogaeth boblogaidd yn bodoli ar y pryd, ac roedd hynny'n cynnwys datganoli ar ddechrau ei yrfa ei hun. Mae rhai yn ein swyddogaeth ni yn fedrus o ran gallu gweld llanw sydd eisoes ar ei ffordd i mewn ac yn gallu ei reidio i'r lan. Rwy'n credu mai uniondeb a dewrder Paul Flynn oedd bod yn barod i siarad dros y pethau hynny pan nad oedd y llanw hwnnw wedi dechrau llifo eto ac yna gwneud pobl eraill yn fwy parod i ddilyn yn ei sgil. Bydd colled enfawr ar ei ôl, fel y dywedasoch, Llywydd, ymhlith teulu a ffrindiau, ond caiff ei gofio am amser maith gennym ninnau i gyd hefyd.
Jest i droi at y cwestiwn cyntaf, ac i ddweud bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi cyhoeddi hysbysiadau i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre ac Ysgol Gynradd Craigcefnparc. Daeth y cyfnod gwrthwynebu ar gyfer y ddau gynnig i ben ar 6 Chwefror. Rhaid i gabinet y cyngor benderfynu nawr a ydyn nhw am gymeradwyo neu wrthod y cynigion. Does dim modd i mi wneud sylw ar gynigion a allai gael eu cyfeirio yn nes ymlaen at Weinidogion Cymru.
Diolch am yr ateb yna. Ar lethrau unig, rhamantus y Parsel Mawr saif pentref Felindre, ac mae Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre, a leolir mewn ardal naturiol Gymreig i'r gogledd o Abertawe, wedi'i rhestru ymhlith yr ysgolion bychain gwledig a warchodir gan god gan Lywodraeth Cymru. Er bod y broses o gau'r ysgol wedi dechrau cyn i'r cod gwarchodol yma ddod i fodolaeth, fe ddywedodd Cyngor Abertawe y bydden nhw'n dilyn egwyddorion ac ysbryd y cod yna. Ond, er yr addo yma, mae'r gymuned leol yn hynod o siomedig gan taw cau'r ysgol yn hytrach na ffederaleiddio gydag ysgol arall, neu edrych ar opsiynau eraill hyd yn oed, oedd ymateb y cyngor i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Os taw dyma fydd profiad ardaloedd eraill yng Nghymru, siom enfawr fydd y cod newydd yma wrth drio amddiffyn ysgolion gwledig Cymraeg.
Mae rhyw 600 o blant yr un yn ysgolion Cymraeg dinesig cyfagos, fel Lôn Las a Phontybrenin, ond ar yr unigeddau, mae'r sefyllfa angen ateb amgen. Felly, Brif Weinidog, a wnewch chi edrych mewn i'r achos yma—rwy'n clywed beth rŷch chi'n ei ddweud, ond mae'r mater yma'n hollbwysig—a gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod y gymuned yn Felindre, a chymunedau tebyg, yn derbyn chwarae teg yn ôl eich cod eich hunan chi?
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Dai Lloyd am y pwyntiau pwysig yna. Rwy'n eu clywed nhw i gyd, ond, fel dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, mae'r penderfyniad yn dal i fod yn nwylo Cyngor Dinas a Sir Abertawe, a dwi'n siŵr bod yr Aelod wedi gwneud y pwyntiau yna i'r cyngor—y pethau mae e wedi'u dweud i ni fel Llywodraeth heddiw. Maen nhw'n dal ar y record, ac os yw'r penderfyniad yn dod i mewn i Weinidogion Cymru, byddwn ni'n gallu ailedrych ar y pwyntiau y mae e wedi'u gwneud heddiw.
Wel, fel y dywedwch, mae trigolion, athrawon a disgyblion wedi bod yn ymladd penderfyniad Cyngor Abertawe i gau Ysgol Gynradd Craigcefnparc hefyd, ac rwyf i wedi bod yn falch iawn o'u cefnogi yn y frwydr honno. Yn rhan o'r frwydr dros y ddwy ysgol, a dweud y gwir, rwyf i wedi gofyn i Gomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru sut a phryd y dylid cynnwys eu disgwyliadau yn y prosesau y mae cynghorau yn eu dilyn wrth ystyried cau ysgolion. Oherwydd nid mater o'r cod ysgolion yn unig ydyw erbyn hyn; mae pethau eraill i'w cymryd i ystyriaeth. Rwy'n sylweddoli na allwch chi wneud sylwadau ar achosion unigol, ond a allwch chi ddweud a oes gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth o gynghori cynghorau o ran faint o bwys y dylen nhw ei roi ar gyfarwyddyd comisiynwyr, neu a ydych chi'n fodlon gadael i hynny fod yn fater i'r llysoedd?
Llywydd, mae cod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru yn nodi'r gofynion y mae Gweinidogion Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac eraill yn y mater hwn. Fel y dywed Suzy Davies, nid y cod yw'r unig fater sydd ar waith. Ond mae'n rhaid ystyried pob cyfres o amgylchiadau ar ei rhinweddau ei hun, ac rwy'n credu y ceir y ddealltwriaeth orau o'r rhwymedigaethau eraill y mae angen i sefydliadau sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau hyn eu cymryd i ystyriaeth, rwy'n credu, yn y cyd-destun lleol hwnnw a'u cyfrifoldeb nhw yw eu pwyso a'u mesur.
Rwyf i wedi arfer â rhieni yn cwyno am ddosbarthiadau oedran cymysg ac yn mynnu bod eu plant yn cael eu haddysgu gyda phlant yn yr un grŵp blwyddyn â nhw. Ac rwy'n credu bod addysg yn dioddef pan fydd ysgol yn llai na maint penodol, a bod addysgu mwy na dau grŵp blwyddyn gyda'i gilydd yn yr ysgol gynradd yn rhoi'r dysgwr o dan anfantais—y rheswm pam mae gennym ni addysg. Ac mae angen i ysgolion uwchradd fod yn fwy na maint penodol i allu cyflawni'r cwricwlwm cenedlaethol. A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau ar feintiau gofynnol ysgolion cynradd ac uwchradd, fel bod pobl yn gwybod yn union faint o ddisgyblion y mae angen iddyn nhw eu derbyn? Rwy'n deall bod o leiaf un ysgol i lawr i ychydig dros ffigurau sengl.
Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn atodol yna. Gwn y bydd yn ymwybodol bod ein cyn gyd-Aelod Huw Lewis, pan oedd yn Weinidog addysg, wedi gofyn i Estyn—yr arolygiaeth—ystyried yn benodol y mater hwn o ba un a oedd maint gofynnol y dylid ei fodloni ar gyfer ysgol. Rwy'n credu mai'r ffeithiau yw bod yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013 wedi canfod bod ffactorau eraill a oedd yn fwy perthnasol i lwyddiant ysgol na maint. Ac, yn wir, rwyf i wedi hen arfer â chlywed yr Aelod yn llawn perswâd wrth ddadlau'r achos y mae e'n ei wneud o ran awdurdodau lleol, pan ei fod o'r farn gyffredinol nad maint yw'r ffactor allweddol o ran pa un a all awdurdod lleol fod yn llwyddiant ai peidio. Mabwysiadodd gwaith Estyn yr un safbwynt o ran ysgolion, gan ddweud bod ansawdd yr arweinyddiaeth, er enghraifft, yn fwy arwyddocaol na maint o ran pa un a oedd ysgol yn perfformio'n dda ai peidio. Ond mae'r mater y mae'r Aelod yn ei godi yn un un pwysig a bydd yn sicr yn parhau i gael ei adolygu'n gyson gan Lywodraeth Cymru.