Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:46, 19 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, gyda'ch caniatâd, a gaf innau hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i Paul Flynn ac, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, estyn ein cydymdeimlad i'w deulu, ei ffrindiau, ac i'r mudiad Llafur? Roedd yn seneddwr o'r radd flaenaf a safodd bob amser dros yr hyn yr oedd yn credu ynddo. Nid oes unrhyw amheuaeth ei fod yn caru ei etholaeth, ac roedd yn Gymro balch a oedd bob amser yn hyrwyddo'r Gymraeg ar bob cyfle. Mae'n gwbl eglur y bydd Tŷ'r Cyffredin yn llawer tlotach hebddo.

Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn addas i'w diben?