1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 19 Chwefror 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Llywydd, gyda'ch caniatâd, a gaf innau hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i Paul Flynn ac, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, estyn ein cydymdeimlad i'w deulu, ei ffrindiau, ac i'r mudiad Llafur? Roedd yn seneddwr o'r radd flaenaf a safodd bob amser dros yr hyn yr oedd yn credu ynddo. Nid oes unrhyw amheuaeth ei fod yn caru ei etholaeth, ac roedd yn Gymro balch a oedd bob amser yn hyrwyddo'r Gymraeg ar bob cyfle. Mae'n gwbl eglur y bydd Tŷ'r Cyffredin yn llawer tlotach hebddo.
Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn addas i'w diben?
Rwy'n credu bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gwneud gwaith ardderchog ar ran cleifion yma yng Nghymru. Rydym ni'n adolygu ei gynnydd. Mae gennym ni gynigion yr ydym ni'n bwriadu eu cyflwyno i gryfhau'r gwaith y mae'n ei wneud.
Wel, rwy'n credu o'r ateb yna, Prif Weinidog, ei bod yn ymddangos i mi eich bod chi'n credu ei bod yn addas i'w diben. Felly, ceir diffyg cysylltiad eglur, rwy'n credu, Prif Weinidog, yn eich diffiniad chi o 'addas i'w diben' a fy un i. Er gwaethaf swyddogaeth hollbwysig AGIC o sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn bodloni safonau gofal, dyma'r unig gorff arolygiaeth o'i fath yn y DU nad yw'n gwbl annibynnol ar y llywodraeth y mae i fod i'w monitro. Oni allwch chi weld y gwrthddywediad yn y fan yma, Prif Weinidog?
Rydym ni wedi gweld nifer o achosion uchel eu proffil o ddiffygion difrifol mewn gofal mewn byrddau iechyd yn GIG Cymru, o sgandal Kris Wade ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i'r pryderon diogelwch difrifol yn y gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, a'r methiannau erchyll yn Nhawel Fan. Er i AGIC godi pryderon ynghylch yr holl fethiannau echrydus hyn, nid oedd ganddi'r grym i ymyrryd pan oedd angen iddi wneud hynny heb gael caniatâd gan eich Gweinidog chi yn gyntaf. Nid yw'n annibynnol ar eich Llywodraeth, felly. A wnewch chi ymrwymo heddiw felly, Prif Weinidog, i gryfhau annibyniaeth AGIC ac i roi pwerau gorfodi i'r arolygiaeth trwy ei gwneud yn gorff cwbl annibynnol, fel Estyn, er enghraifft?
Wel, Llywydd, rwyf i eisoes wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Bil a fydd yn ymdrin â nifer o'r materion hyn, gan gynnwys y rhan sy'n cael ei chwarae gan AGIC yng ngwasanaethau iechyd Cymru.
Nid wyf i'n derbyn am eiliad, fodd bynnag, yr hyn a ddywedodd yr Aelod bod annibyniaeth AGIC yn cael ei pheryglu gan ei pherthynas â Llywodraeth Cymru. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, ni allwn gofio bryd hynny, ac ni allaf gofio ers hynny, unrhyw enghraifft pan nad oedd AGIC yn gallu gwneud beth bynnag y dywedodd yr oedd yn dymuno ei wneud, i adrodd ar beth bynnag yr oedd yn dymuno adrodd arno, i wneud gwaith dilynol ar yr adroddiadau hynny ym mha ffordd bynnag yr oedd yn dewis. Mae annibyniaeth weithredol AGIC yn un o gryfderau pwysig GIG Cymru, ac nid yw erioed wedi cael ei pheryglu gan unrhyw diffyg annibyniaeth.
Rydych chi'n gwybod yn iawn, Prif Weinidog, na chânt ymyrryd heb ganiatâd eich Llywodraeth ac, felly, nid yw'n wirioneddol annibynnol. Mae'n ymddangos mai polisi eich Llywodraeth yw tanariannu AGIC hefyd, i'r pwynt lle nad oes ganddi unrhyw gapasiti nac adnoddau i ddwyn ein gwasanaethau iechyd i gyfrif. Nid yw'r problemau tanariannu hyn yn newydd. Yn ôl yn y Cynulliad diwethaf, clywsom gan adolygiad Marks bod AGIC yn methu â chadw pobl yn ddiogel mewn ysbytai, ac nad oedd yn gallu cynnal digon o arolygiadau gan fod yn rhaid iddi fonitro gormod o wasanaethau. Er gwaethaf hyn, mae eich Llywodraeth wedi dewis lleihau ei chyllid yn gyson. Ac ni allwch chi geisio rhoi'r bai ar gyni cyllidol am hyn, Prif Weinidog. Mae'r penderfyniad i dorri cyllid AGIC yn eglur. Tra bod Estyn yn cael £11.3 miliwn bob blwyddyn, ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael £13 miliwn y flwyddyn ar gyfer 2018-19, mae cyllideb flynyddol AGIC wedi gostwng i £3.5 miliwn, ac mae ar fin cael gostyngiad arall o £190,000 yn y flwyddyn ganlynol. Pam nad ydych chi eisiau cefnogi'r corff hwn sy'n chwarae rhan mor bwysig i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd yn darparu gwasanaethau diogel ac atebol?
Llywydd, y cwestiwn cyntaf un y gwnaeth yr Aelod ei ofyn i mi oedd a oeddwn i'n cefnogi AGIC, ac rwyf i'n sicr yn ei chefnogi, ac rwy'n ei chefnogi mewn ffordd ymarferol yn hytrach na'r ffordd rethregol y mae'r Aelod wedi ceisio ei wneud y prynhawn yma. Mae'n lol iddo fe—yn lol llwyr iddo fe—ymddwyn fel pe na byddai'r cyllidebau llai y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu yn cael unrhyw effaith ar ein gallu i ariannu llawer o swyddogaethau pwysig a gyflawnir ar ran ein Llywodraeth. Serch hynny, mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi arallgyfeirio arian o'i gyllideb i AGIC er mwyn ei chynorthwyo yn y gwaith pwysig y mae'n ei wneud. Yn hytrach na cheisio dod o hyd i resymau dros godi amheuaeth ynghylch y gwaith pwysig y mae AGIC yn ei wneud, byddai'n well pe byddai'r Aelod yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith hwnnw, a'i chefnogi yn ei gweithgareddau.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf i hefyd estyn cydymdeimladau i deulu a chyfeillion Paul Flynn, a dweud hyn: hynny yw, ces i'r pleser o gyd-wasanaethu yn y Senedd arall yna yn San Steffan am rai blynyddoedd, ac roedd e wastad yn barod iawn i gynnig gair o gyngor ac o gefnogaeth, hyd yn oed ein bod ni'n dod o bleidiau gwahanol. Ambell waith hefyd, tynnu fi lan lle roedd e'n meddwl gallwn i wneud yn well. Roedd e'n un o'r creaduriaid prin yna a oedd yn gallu symud o'r dwys i'r difyr, nôl i'r difrifol, ac yn y blaen. Ac er yn ymgnawdoliad o angerdd, doedd hynny byth wedyn yn caledu yn chwerwder nac atgasedd, ac mae e'n esiampl yn hynny o beth i ni i gyd.
A all y Prif Weinidog rannu â ni asesiad Llywodraeth Cymru o'r effaith bosibl o ran swyddi ar gwmnïau cyflenwi yng Nghymru yn sgil cyhoeddiad Honda heddiw? A all ef gadarnhau y gallai hynny effeithio ar hyd at ddwsin o gyflenwyr mawr, fel G-Tekt yn Nhredegar a Mitsui yn fy etholaeth i, yn ogystal â llawer mwy o gyflenwyr ail haen a thrydydd haen? Sector modurol Cymru yw un o'n prif ddiwydiannau, ac eto gwelsom gyda glo a dur, oni wnaethom, sut y gall y sefyllfa honno ddirywio'n gyflym iawn gyda chanlyniadau hirdymor trychinebus? O gofio bod colled o 600 o swyddi wedi ei chyhoeddi eisoes yn Ford a Schaeffler, a bod Chatham House wedi cadarnhau bod Cymru wedi gweld y gostyngiad cyflymaf i fuddsoddiad uniongyrchol tramor ers y refferendwm o holl wledydd a rhanbarthau'r DU, a yw'n cytuno bod aelodaeth o'r farchnad sengl yn gwbl hanfodol i oroesiad sector modurol Cymru, ac iechyd economi ehangach Cymru? O gofio mai'r unig lwybr realistig nawr i sicrhau hynny yw trwy bleidlais y bobl, a yw'n gallu addo ei gefnogaeth ddiamwys, ddigymysg i'r polisi hwnnw heddiw?
Diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd yn ei gyflwyniad, ac am dynnu sylw at yr effaith y bydd y newyddion gan Honda heddiw yn ei chael ar economi Cymru, yn ogystal â'r economi yn Swindon. Bydd cyflenwyr o Gymru i gyfleuster Honda yn Swindon yn cael eu heffeithio, wrth gwrs, gan y newyddion hyn.
Mae swyddogion fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn Llundain heddiw yn siarad â swyddogion yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol sy'n gweithio yn y maes modurol, ac mae hynny'n rhan o'n hymdrech uniongyrchol i ganfod o ble y bydd bygythiadau i economi Cymru ac i sector modurol Cymru yn dod o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwnnw sy'n peri pryder mawr. Ac wrth gwrs, mae Adam Price yn llygad ei le i dynnu sylw at bwysigrwydd y sector modurol yma yng Nghymru—oddeutu 150 o gwmnïau sy'n cyflogi tua 19,000 o bobl.
Ac mae Brexit yno yn y cefndir i'r gyfres hon o gyhoeddiadau yr ydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar. Pan gefais gyfarfod, gyda Ken Skates, gyda swyddogion uchaf cwmni moduron Ford yma yn y Deyrnas Unedig, fe wnaethon nhw gyfeirio at bwysigrwydd y farchnad sengl ac at rwystrau di-dariff a thariff. Cyfeiriwyd ganddynt fwy fyth, Llywydd, at effaith Brexit ar symudiad gweithwyr a'u gallu i symud staff yn rhwydd ac yn gyflym ar draws ffiniau.
O ran y pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yr un y pleidleisiwyd drosto ar lawr y Cynulliad hwn nifer fach o wythnosau yn unig yn ôl, bod yn rhaid i Dŷ'r Cyffredin barhau i ddod o hyd i gytundeb y gellid ei gefnogi, a fyddai'n cefnogi economi Cymru a swyddi Cymru. Os na fydd Tŷ'r Cyffredin yn gallu gwneud hynny, ac mae'r wythnosau yn diflannu'n gyflym, yna rydym ni'n dweud mewn sefyllfa o anghytundeb llwyr bod yn rhaid i'r penderfyniad, fel y dywedodd Adam Price, fynd yn ôl at y bobl. Ac, oherwydd bod yn rhaid peidio â diystyru'r dewis hwnnw dim ond oherwydd nad oes paratoadau wedi eu gwneud ar ei gyfer, yna rydym ni hefyd yn dweud bod yn rhaid i baratoadau i alluogi hynny i ddigwydd, pe byddai ei angen, ddechrau ar unwaith.
Prif Weinidog, ar 22 Ionawr, dywedasoch wrth y Siambr hon:
'y ddadl yn y Senedd dros yr wythnos nesaf yw'r cyfle olaf i gefnogi'r ffurf honno ar Brexit...sy'n seiliedig yn y bôn ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau...os na ellir gwneud hynny,...yr unig ddewis sydd ar ôl wedyn yw pleidlais gyhoeddus unigol er mwyn datrys yr anghytundeb llwyr.'
Nawr, dehonglwyd hynny yn eang fel eich bod yn dweud bod terfyn amser o saith niwrnod. Methodd y Senedd â bodloni'r terfyn amser a bennwyd gennych chi, a dyma ni sawl wythnos yn ddiweddarach. Felly, mae fy nghwestiwn i chi yn syml iawn: beth yw eich terfyn amser newydd? Ai ymhen wyth diwrnod, sef 27 Chwefror? Ai diwedd y mis hwn? Ai ym mis Mawrth? Neu ai 10.59 p.m. ar 29 Mawrth?
Wel, Llywydd, un o'r pethau yr ydym ni i gyd yn sicr wedi eu dysgu yw bod terfynau amser y mae'n ymddangos bod Tŷ'r Cyffredin yn eu pennu ac y mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn eu pennu, pan fydd y diwrnodau hynny'n cyrraedd, mae'n bosibl y gall y terfynau amser hynny ddiflannu ac y gall terfynau amser newydd gael eu pennu. Nawr, rwy'n gresynu at hynny. Rwy'n gresynu'n fawr iawn na chymerodd Prif Weinidog y DU gyngor y ddogfen a gyhoeddwyd ar y cyd gennym ni rhwng Llafur a Phlaid Cymru yma yn y Cynulliad fwy na dwy flynedd yn ôl. Pe byddai wedi gwneud hynny, yna byddem ni mewn sefyllfa wahanol iawn, rwy'n credu, o ran ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, er mawr rwystredigaeth i ni, mae Tŷ'r Cyffredin yn parhau i ymaflyd â'r mater hwn, ni chyrhaeddwyd anghytundeb llwyr eto, yn fy marn i. Ac mae'n rhaid i ni fod yn barod i gadw ein pennau i ganiatáu i'r cyfle hwnnw ddigwydd, bob amser gyda'n datganiad eglur os na ellir ei ddatrys yn y modd hwnnw, yna'r unig ateb democrataidd ymarferol yr ydym ni wedi gallu dod o hyd iddo yw bod yn rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl at y rhai â'i wnaeth yn y lle cyntaf.
Prif Weinidog, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch am y mynd rownd mewn cylchoedd yr ydym ni'n ei weld yn San Steffan, ond y terfyn amser y gofynnais i chi amdano oedd yr un y gwnaethoch chi eich hun ei bennu, o ran penderfynu pryd mae angen i ni symud ymlaen a dweud yn ddigamsyniol mai'r unig ffordd ymlaen yw pleidlais y bobl. Ac un o'r beirniadaethau yr wyf i wedi eich clywed chi'n ei wneud o Lywodraeth Theresa May yw eu bod nhw'n amharod i wrando arnoch chi, ond a yw eich mainc flaen Llafur eich hun yn San Steffan yn gwrando arnoch chi? Er gwaethaf y bleidlais y cyfeiriasoch ati yn y Cynulliad hwn i baratoadau ddechrau ar unwaith, nid oedd llythyr Jeremy Corbyn at Theresa May ar 6 Chwefror yn sôn am bleidlais y bobl o gwbl. Fel y dywedodd un o'ch ACau Alun Davies, pan gyhoeddwyd y llythyr:
Mae'n ymddangos bod Jeremy Corbyn a Llafur y DU wedi cefnu ar ein polisi ar refferendwm yn y paragraff cyntaf.
Dywedodd Tonia Antoniazzi, AS Gŵyr,
Braf cael fy mriffio am hyn @UKLabour @WelshLabour—os hoffech chi ymgynghori ag ASau ar UNRHYW adeg a hefyd cymryd cynnig cynhadledd y Blaid Lafur i ystyriaeth...rhowch wybod i mi...Diolch...
Ni chafodd ASau nac ACau eu briffio. Y cwestiwn yw: a gawsoch chi? A oeddech chi'n cytuno na ddylai'r llythyr gynnwys cyfeiriad at bleidlais y bobl a gefnogwyd yn y fan yma? A ydych chi'n gwybod beth mae Jeremy Corbyn yn ei ddweud nawr wrth iddo annerch y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianneg? Mae ein dyfodol yn Ewrop ymhlith y pryderon mwyaf dybryd sy'n wynebu ein cenedl. Onid ydych chi'n teimlo dim ond rhyw fymryn o gywilydd ynghylch methiant eich plaid i gyflwyno safbwynt eglur? Ac a yw'n unrhyw syndod o gwbl bod cynifer yn cefnu arni nawr?
Wel, mae polisi'r Blaid Lafur, Llywydd, yn eglur. Y polisi yw'r un a nodwyd ym mhenderfyniad cynhadledd mis Medi, ac dyna'r polisi yr wyf i wedi ei gefnogi byth ers hynny. Rwyf i yn y sefyllfa ffodus o allu trafod y materion hyn gyda llefarwyr mainc flaen Llafur: Syr Keir Starmer, a oedd yma yng Nghaerdydd yn ystod y pythefnos diwethaf; roeddwn i'n gallu ei drafod gyda Jeremy Corbyn pan oeddwn i yn Llundain yr wythnos diwethaf. Rwy'n croesawu ei lythyr dyddiedig 6 Chwefror. Fe'i croesawyd yn eang ym Mrwsel hefyd fel cyfraniad pwysig a oedd â chyfle, pe byddai Llywodraeth a fyddai'n barod i gynnal trafodaethau a negodiadau gwirioneddol gydag eraill ar lawr Dŷ'r Cyffredin. Roedd y llythyr hwnnw yn cynnig ffordd i gytundeb y gellid ei daro, a allai sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin ac y gellid ei gefnogi ar lefel yr Undeb Ewropeaidd hefyd. Dyna'r hyn y mae fy mhlaid i eisiau ei gael allan o hyn i gyd. Dim ond os gwnaiff y Llywodraeth sy'n gyfrifol am hyn i gyd, sydd wedi bod yn gyfrifol am hyn i gyd ers y refferendwm—. Dim ond os byddan nhw'n methu â symud i gyfeiriad lle gellir sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd yn rhaid i ni wedyn wneud, fel y mae'r Aelod wedi ei ddweud—ac rwyf i wedi cytuno ag ef nawr am y trydydd tro y prynhawn yma, o dan yr amgylchiadau hynny, byddai'n rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl a'i gwnaeth yn y lle cyntaf.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. A gaf innau hefyd ychwanegu fy nghydymdeimlad i deulu Paul Flynn? Er iddo gael ei gysylltu â Chasnewydd ers blynyddoedd lawer, brodor o Gaerdydd ydoedd yn wreiddiol, trwy enedigaeth a magwraeth, felly mae'r ddwy ddinas yn ei hawlio i ryw raddau. Cysylltais â Paul Flynn yn ystod cyfnod cynnar ymgyrch y refferendwm. Gan ei fod yn wleidydd wirioneddol annibynnol ei feddwl, roedd gen i ddiddordeb, a dweud y gwir, yn ei safbwynt ar hynny, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr e-bost a gefais yn ôl ganddo. Nid oeddwn yn adnabyddus i'r cyhoedd ar y pryd, felly roeddwn i'n falch iawn o gael ei ymateb, ac eglurodd ei safbwynt. Roeddem ni ar wahanol ochrau i'r ffens, fel y digwyddodd, ond roeddwn i'n ddiolchgar am ei ymateb, a gwn fod ganddo o leiaf un person yma a weithiodd iddo yn y gorffennol, ac, wrth gwrs, fel y dywedasoch, roedd yn gefnogol i ddatganoli, felly mae ei etifeddiaeth, mewn sawl ffordd, yn parhau.
Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, fe wnaethoch ch ateb cwestiynau yma yn y Siambr gan arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, pan fynegwyd dymuniadau Llywodraeth Cymru gennych i fynd i'r afael â materion gwadu'r Holocost a chyffredinrwydd cynyddol gwrth-Semitiaeth mewn cymdeithas. A wnewch chi ail-bwysleisio mai'r dymuniadau hynny yw eich safbwynt o hyd a bod Llywodraeth Lafur Cymru yn dal i fod yn wirioneddol ymrwymedig i fynd i'r afael â'r problemau hyn?
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i herio stigma lle bynnag y bydd yn codi, i amddiffyn hawliau pob aelod o'n cymdeithas, beth bynnag fo'i ffydd neu ei ddiwylliant. Mae hynny'n hollol wir o ran gwrth-Semitiaeth, ond mae'n wir o ran mathau eraill o gam-drin y mae cymunedau eraill yng Nghymru wedi eu dioddef, ac rydym ni wedi ymrwymo i hynny yn gyffredinol.
Iawn. Diolch, Prif Weinidog, am yr ymrwymiad yna. Nid wyf i'n siŵr bod y Blaid Lafur yn debygol o fod yn gyfrwng effeithiol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem benodol o wrth-Semitiaeth, fodd bynnag. Ddoe, gwelsom fod saith o ASau Llafur yn teimlo y dylent adael y Blaid Lafur. Un o'r rhesymau a nodwyd ganddyn nhw yw'r achosion cynyddol o wrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur. Yn wir, dywedodd un ohonyn nhw fod y Blaid Lafur bellach yn sefydliadol wrth-Semitaidd. Nawr, cawsom ddatganiad Llywodraeth Cymru ar hyn 18 mis yn ôl, a gyfeiriodd at hyfforddiant i swyddogion i'w gwneud yn fwy ymwybodol o wrth-Semitiaeth a gweithio gyda Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i nodi achosion o hyn. O ystyried ei bod yn ymddangos bod y broblem yn cynyddu, a oes angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy erbyn hyn?
Rwy'n credu bod hyfforddiant ymwybyddiaeth yn bwysig iawn ac mae'n hanfodol, wrth i heriau newydd ddod i'r amlwg, bod pobl yn cadw hwnnw'n gyfredol. Ac mae hynny'n wir nid yn unig am bobl sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru, mae'n wir am bobl sy'n gweithio yn Llywodraeth Cymru, a, Llywydd, byddwn yn dweud ei fod yn wir am unrhyw Aelod o'r Cynulliad hwn hefyd.
Ie, rwy'n cytuno â'ch safbwyntiau, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod angen i chi edrych yn ofalus ar eich plaid eich hun. Cafwyd un ymchwiliad gan Shami Chakrabarti—[Torri ar draws.] Cafwyd un ymchwiliad gan Shami Chakrabarti, a danseiliwyd braidd pan ymunodd â'r Blaid Lafur yn syth. Yna, o fewn wythnosau i orffen yr ymchwiliad honedig, rhoddwyd sedd mainc flaen Llafur iddi yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn amlwg mai achos o wyngalchu oedd hyn yn hytrach nag ymchwiliad gwirioneddol. Mae gennym ni ymchwiliad arall sy'n cael ei gynnal erbyn hyn, lle mae ysgrifennydd cyffredinol eich plaid yn gwrthod datgelu faint o gwynion o wrth-Semitiaeth o fewn y Blaid Lafur y mae wedi eu cael, gan fod y gwir yn achosi gormod o gywilydd. Prif Weinidog, am ba hyd y gall eich Llywodraeth Cymru barhau i esgus bod yn erbyn y math hwn o hiliaeth pan fod y broblem hon yn bodoli drwy eich plaid gyfan o'r brig i'r gwaelod?
Llywydd, mae fel cyrraedd bydysawd cyfochrog i gael cwestiynau gan y blaid sy'n croesawu Tommy Robinson a'r credo y mae'n barod i'w hyrwyddo, ac yna sy'n gofyn i bleidiau eraill esbonio eu hunain. Gadewch i mi fod yn eglur, Llywydd: does dim lle o gwbl yn fy mhlaid i nac yn unrhyw le arall yng Nghymru ar gyfer rhagfarn yn erbyn pobl o hiliau neu grefyddau eraill. Ac nid yw hynny'n cynnwys y rhai y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw heddiw yn unig, ond at bob un arall y mae ef, yn y gorffennol, wedi bod yn barod i ymosod arnynt yn y swydd y mae ynddi erbyn hyn.